Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

ADRODDIAD CYLLID

Cyfarfod: 24/09/2024 - Cabinet (Eitem 6)

6 ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 240 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm), ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2024/25 a’r cynnydd yn ôl y strategaeth y cytunwyd arni, a

 

(b)      cadarnhau bod y gyfran enillion o £1.2 miliwn a gafwyd o ailariannu Partneriaeth Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru fel a nodir ym mharagraff 6.2 yr adroddiad yn cael ei drin fel incwm ar gyfer y Gwasanaeth Gwastraff a’i ddefnyddio i wrthbwyso costau ychwanegol.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad misol a oedd yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Rhoddwyd crynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn –

 

·       y gyllideb refeniw net ar gyfer 2024/25 oedd £271.021 miliwn (£250.793 miliwn yn 2023/24)

·       rhagwelwyd y byddai gorwariant o £240,000 mewn cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol

·       y risgiau ar hyn o bryd a’r rhagdybiaethau yn ymwneud â chyllidebau corfforaethol a meysydd gwasanaeth

·       arbedion ac arbedion effeithlonrwydd ar gyfer cyllideb 2024/25 (£10.384m)

·       y wybodaeth ddiweddaraf am Ysgolion, y Cyfrif Refeniw Tai a Rheoli’r Trysorlys.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis ddiwygiad i’r argymhelliad yn yr adroddiad, i gynnwys cymeradwyaeth y Cabinet o ddefnydd bwriadedig taliad untro cyfran y Cyngor o ail ariannu Partneriaeth Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru i dalu am y costau ychwanegol yn y Gwasanaeth Gwastraff fel yr amlinellir ym mharagraff 6.2 yr adroddiad, a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Julie Matthews.

 

Arweiniodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio yr Aelodau drwy’r adroddiad.  Rhagwelwyd gorwariant o £240,000 yn fuan yn y flwyddyn ariannol o’i gymharu â dim tanwariant pan adroddwyd am hyn ddiwethaf ym mis Gorffennaf.  Roedd y prif feysydd o orwariant yng Ngwasanaethau Addysg a Phlant a Gwasanaeth Priffyrdd a’r Amgylchedd, ac i raddau llai, Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd oedd yn cael eu gwrthbwyso gan danwariant ar gyllidebau corfforaethol ar gyfer eitemau yn cynnwys cyflogau ac ynni a ddigwyddodd yn hwyr ym mlwyddyn ariannol 2023/24, a rhagwelwyd y byddant yn digwydd eto yn 2024/25.  Pwysleisiwyd hefyd y gallai llawer o bethau newid yn rhai o’r meysydd risg uwch yn y misoedd nesaf, yn enwedig newidiadau i leoliadau preswyl yng Ngwasanaethau Plant, niferoedd o bobl ddigartref, gofal a gomisiynwyd yng Ngofal Cymdeithasol i Oedolion a Chludiant Ysgol.   Roedd y Cyfrif Refeniw Tai wedi adrodd tanwariant bychan yn ystod y flwyddyn a rhagwelwyd balans o ychydig o dan £1.3m.  Rhagwelwyd gostyngiad ym malansau ysgolion ac roedd gwaith yn mynd rhagddo gydag ysgolion i geisio lleihau costau rhywfaint o’r defnydd bwriadedig a ragwelwyd. 

 

Fe ymatebodd yr Aelod Arweiniol a Swyddogion i gwestiynau ynglŷn â’r taliad untro yr oedd y Cyngor wedi’i gael o’i gyfran am ail ariannu Partneriaeth Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru.   Fe eglurwyd bod y risgiau sy’n gysylltiedig â Phartneriaeth Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru wedi lleihau ers iddo gael ei sefydlu ac wrth i’r prosiect symud ymlaen o’r cam datblygiadol i’r cam gweithredol.   Roedd ail ariannu Partneriaeth Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru yn hwyrach o ystyried y risg llai, a’r modd y cawsant eu hariannu ar farchnadoedd cyfalaf, wedi golygu bod y pum Awdurdod Lleol wedi derbyn cyfran enillion.   Roedd gwaith mewn cysylltiad â hynny wedi bod yn barhaus ers peth amser, ond o ystyried natur dechnegol y gwaith oedd ei angen, dim ond yn y pythefnos diwethaf yr oedd yr arian wedi cyrraedd.   Gan mai taliad untro oedd o, y Cabinet ddylai benderfynu sut i’w ddefnyddio.  O ran y cyllid ychwanegol oedd ei angen ar gyfer y Gwasanaeth Gwastraff wrth symud ymlaen, byddai’r mater yn cael ei drafod ymhellach yng Ngweithdy’r Cyngor ar 26 Medi, cyfarfod arbennig o’r Cabinet ar 1 Hydref a Phwyllgor Craffu Cymunedau ar 24 Hydref, ac felly roedd yna gyfleoedd i ystyried a thrafod y manylion ynglŷn â darpariaeth gwasanaeth ac adnoddau ychwanegol oedd eu hangen.

 

Ar ôl ystyried yr adroddiad a’r diwygiad i’r argymhelliad -

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2024/25 a’r cynnydd yn ôl y strategaeth y cytunwyd arni, a

 

(b)      cadarnhau bod y gyfran enillion o  ...  view the full Cofnodion text for item 6