Mater - cyfarfodydd
LICENSING ACT 2003: REVIEW OF A PERSONAL LICENCE
Cyfarfod: 19/09/2024 - Is-Bwyllgor Trwyddedu (Eitem 4)
4 DEDDF TRWYDDEDU 2003: ADNEWYDDU TRWYDDED BERSONOL
I ystyried
adroddiad cyfrinachol sy’n gofyn am farn yr aelodau ynglŷn â Thrwydded
Bersonol yn dilyn euogfarn am drosedd berthnasol o dan Ddeddf Trwyddedu 2003
(mae amlinelliad o’r cais a phapurau cysylltiedig ynghlwm).
3.30 pm
Nodwch y
trefniadau i’w cymryd gan yr Is-bwyllgor (sydd ynghlwm wrth y rhaglen hon).
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix A - Court Extract
- Appendix B - Section 132A notice
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD cynnig na ddylid cymryd unrhyw gamau pellach mewn
perthynas â’r Drwydded Bersonol.
Cofnodion:
Cyflwynodd
yr Uwch Swyddog Trwyddedu adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ynglŷn ag
-
(i)
addasrwydd Deiliad Trwydded
Bersonol i barhau i fod â Thrwydded Bersonol yn dilyn euogfarn ym mis Mawrth
2024 am drosedd berthnasol o dan Atodiad 4 Deddf Trwyddedu 2003;
(ii)
y pwerau a roddir ar
Awdurdodau Trwyddedu i ohirio (am hyd at 6 mis) neu ddiddymu Trwydded Bersonol
pan mae unigolyn sydd â Thrwydded Bersonol wedi cael ei ganfod yn euog o
“drosedd berthnasol”;
(iii)
cyfeiriwyd at hysbysiad
ffurfiol Adran 132A a roddwyd, ac ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau gan Ddeiliad y
Drwydded Bersonol o fewn amserlen o 28 diwrnod;
(iv)
yr angen i ystyried yr achos gan ystyried Datganiad Polisi Trwyddedu’r
Cyngor a Chanllawiau a gyhoeddwyd o dan Adran 182 Deddf Trwyddedu 2003 gydag
unrhyw sylwadau perthnasol a dderbyniwyd, a
(v)
gwahoddwyd Deiliad y Drwydded Bersonol
i fynychu’r cyfarfod i gefnogi’r adolygiad o’r drwydded ac i ateb
cwestiynau’r Aelodau wedi hynny.
Roedd Deiliad y Drwydded Bersonol yn bresennol i gefnogi’r adolygiad o’i
drwydded ac roedd un o’i weithwyr gydag o yr oedd wedi galw fel tyst.
Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu yr
adroddiad a ffeithiau’r achos.
Dywedodd Deiliad y Drwydded Bersonol ei fod wedi cael ei gosbi am ei
weithredoedd ac roedd yr euogfarn wedi cael effaith andwyol sylweddol ar redeg
ei fusnes o ddydd i ddydd. Roedd wedi dweud wrth y Llys fod ganddo Drwydded
Bersonol ac roedd y Llys wedi dweud y byddent yn rhoi gwybod i’r Awdurdod
Trwyddedu, a dyna pam na wnaeth o hynny’n uniongyrchol. Fe eglurodd beth oedd y digwyddiadau a
arweiniodd at y digwyddiad, a’r amgylchiadau lliniarol a oedd eisoes wedi cael
eu hystyried gan y Llys oedd wedi arwain at ddedfryd fyrrach. Yn olaf, fe roddodd sicrwydd ei fod yn
Ddeiliad Trwydded Bersonol cyfrifol, roedd ei fusnesau’n cael eu rhedeg yn dda
heb unrhyw broblemau, a gofynnodd bod hynny’n cael ei ystyried wrth ddod i
benderfyniad. Gan ymateb i gwestiynau, fe ymhelaethodd ar ei fusnes a
gweithredu eiddo trwyddedig.
Gofynnodd yr Aelodau rhagor o gwestiynau am y digwyddiad, yr euogfarn
ddilynol a’r rheswm y tu ôl i weithredoedd Deiliad y Drwydded Bersonol. Fe
ymatebodd Deiliad y Drwydded Bersonol i’r cwestiynau hynny a galwodd ar ei dyst
a gefnogodd ei fersiwn o o’r digwyddiadau mewn cysylltiad â’r diwrnod cyn y
drosedd a’r amgylchiadau lliniarol a gyflwynwyd yn yr achos yma. Dywedodd y tyst fod teledu cylch caeëdig a
chofnodion diogelwch wedi cael eu cyflwyno fel tystiolaeth ac roedd y rhain
wedi cael eu derbyn gan y Llys. Pan ofynnwyd pam nad oedd o wedi gwneud sylwadau o fewn y
28 diwrnod a ganiateir o dan hysbysiad Adran 132A, fe eglurodd Deiliad y
Drwydded Bersonol ei fod wedi cael rhybudd a chyngor y byddai’r mater yn mynd
gerbron Pwyllgor i’w ystyried, a chadarnhaodd ei bresenoldeb i egluro’r
sefyllfa. Fe ymddiheurodd nad oedd wedi llwyr ddeall y broses ac nad oedd wedi
cyflwyno sylwadau ymlaen llaw.
O ran datganiad terfynol, gofynnodd Deiliad y Drwydded Bersonol i Aelodau
ystyried ei gyflwyniad ac ystyried ei adolygiad o’r drwydded yn ffafriol. Fe
dynnodd sylw at oblygiadau difrifol i’w fusnesau petai ei Drwydded Bersonol yn
cael ei hadolygu ac fe ailadroddodd fod ei fusnesau trwyddedig yn cael eu
rhedeg yn dda ac nad oedd yna unrhyw broblemau.
Ar y pwynt hwn (3.45pm), daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben i bawb arall,
ac aeth yr Is-Bwyllgor Trwyddedu ati i ystyried yr achos mewn sesiwn breifat.
PENDERFYNIAD A’R RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
PENDERFYNWYD cynnig na
ddylid cymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â’r Drwydded Bersonol.
Fe gyfleodd y Cadeirydd beth oedd penderfyniad yr Is-bwyllgor i bob parti ... view the full Cofnodion text for item 4