Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

Materion Brys

Cyfarfod: 19/09/2024 - Is-Bwyllgor Trwyddedu (Eitem 3)

3 DEDDF TRWYDDEDU 2003: CAIS I AMRYWIO TRWYDDED EIDDO – ELLIS’S BAR, 42 - 44 WATER STREET, Y RHYL pdf eicon PDF 233 KB

Ystyried cais am amrywio Trwydded Eiddo, a bresennol unol ag Adran 34 o Ddeddf Trwyddedu 2003 o ran Ellis’s Bar, 42 - 44 Water Street, Y Rhyl (mae amlinelliad o'r cais a phapurau cysylltiedig ynghlwm).

2.00 pm – 3.30 pm

 

Dogfennau ychwanegol:

  • APPENDIX A
  • APPENDIX B
  • APPENDIX Cv2
  • APPENDIX D
  • APPENDIX E
  • APPENDIX F
  • APPENDIX G
  • Location Plan

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais i Amrywio’r Drwydded Eiddo fel yr amlinellir yn y cais, gydag amodau ychwanegol.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ynglŷn â -

 

 (i)   chais a dderbyniwyd gan Mr. Leigh Wright a Mrs. Christine Wright i amrywio Trwydded Eiddo presennol drwy gael gwared ar yr adeilad yng nghefn yr eiddo i greu gardd gwrw yn ei le yn Ellis’s Bar, 42-44 Stryd y Dŵr, Y Rhyl (Atodiad A yr adroddiad) (cynllun wedi’i ddosbarthu yn y cyfarfod),

 

 (ii)  roedd yr Ymgeisydd hefyd wedi cynnig dim cerddoriaeth yn yr ardd gwrw ar ôl 11pm a theledu cylch caeëdig/staff drws yn monitro’r ardd gwrw ar ôl 11pm ynghyd â gosod ail ddrws ar yr ardd gwrw i atal sŵn,

 

(iii)  mae’r Drwydded Eiddo presennol (Atodiad B yr adroddiad) yn awdurdodi darpariaeth gweithgareddau trwyddedadwy rhwng 09.00 i 04.00 dydd Llundydd Sul,

 

(iv)  mae saith sylw ysgrifenedig wedi’u derbyn ganUnigolion Eraillmewn ymateb i’r rhybudd cyhoeddus angenrheidiol, ac maent yn ymwneud yn bennaf ag aflonyddwch posibl yn sgil sŵn, ymddygiad gwrthgymdeithasol, a niwsans cyhoeddus (Atodiad C yr adroddiad), ynghyd â lluniau y cyfeirir atynt mewn un sylw (Atodiad D yr adroddiad),

 

(v)  mae’r ymgeisydd wedi ymgysylltu gyda Heddlu Gogledd Cymru ac adain Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor cyn cyflwyno eu cais ac mae’r ddau Awdurdod Cyfrifol wedi cadarnhau nad oes ganddynt unrhyw sylwadau na gwrthwynebiad yn ymwneud â’r cais (Atodiad E yr adroddiad),

 

(vi)  cynigiwyd proses gyfryngu i bob parti sy’n ystyried y sylwadau a dderbyniwyd, ond ni fu modd dod i unrhyw gytundeb ffurfiol. Yn rhan o’r broses gyfryngu, cynigiodd yr Ymgeisydd nifer o addasiadau i’r cais, megis codi sgriniau rhwystr a chau’r ardd gwrw ar ôl 11pm. Fe gyflwynodd ei asiant ddatganiad i’rUnigolion Eraill” (Atodiad F yr adroddiad) hefyd.  Cafwyd un sylw arall ganUnigolyn Arallyn cadarnhau nad oedd yr addasiadau arfaethedig yn mynd i’r afael â’u pryderon (Atodiad G yr adroddiad),

 

(vii) yr angen i ystyried y Cais gan ystyried Canllaw a Datganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor; deddfwriaeth berthnasol arall a sylwadau perthnasol a dderbyniwyd, ac

 

(viii)         yr opsiynau sydd ar gael i’r Is-bwyllgor wrth benderfynu ar y cais.

 

Darparodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu grynodeb o’r adroddiad a ffeithiau’r achos.

 

Cafodd cynllun oedd yn cyd-fynd â’r cais a gafodd ei adael allan o’r adroddiad ei ddosbarthu yn y cyfarfod.

 

CAIS YR YMGEISYDD

 

Roedd yr Ymgeisydd, Mr. Leigh Wright yn bresennol i gefnogi’r cais ac roedd yn cael ei gynrychioli gan y Cwnsler Brett Williamson, Linenhall Chambers, Caer.  Roedd Rheolwr Bar yr Ymgeisydd hefyd yn bresennol fel arsylwr.

 

Cyfeiriodd Mr. Williamson at yr Ymgeisydd fel rhywun sydd wedi bod yn berchennog busnes ers amser maith sydd yn adnabyddus yn lleol ac sydd ag enw da am redeg eiddo trwyddedig yn Y Rhyl.  Rhoddwyd eglurhad bod Ellis’s Bar yn gweithredu fel clwb nos ar hyn o bryd gydag oriau trwyddedig tan 4.00am, ac roedd adeilad yng nghefn yr eiddo yn gweithredu fel Hidden hefyd tan 4.00am a fyddai’n parhau petai’r cais yn aflwyddiannus. Serch hynny, roedd yr Ymgeisydd yn dymuno trosi rhan o gefn yr adeilad mewn i ardd gwrw gan gael gwared ar y to a gosod byrddau a chadeiriau gyda’r bwriad o’i droi yn raddol o glwb nos i far i deuluoedd a phlant o ddydd i ddydd, a chynlluniau at y dyfodol i greu cegin gyda’r posibilrwydd o weini bwyd.

 

Roedd nifer o gonsesiynau wedi cael eu  ...  view the full Cofnodion text for item 3