Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

APPLICATION FOR A LICENCE TO DRIVE HACKNEY CARRIAGE AND PRIVATE HIRE VEHICLES - APPLICANT NO.

Cyfarfod: 11/09/2024 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 7)

7 CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT – YMGEISYDD RHIF 577925

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais am drwydded cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 577925.

10.30 am – 11.30 am

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD fod Ymgeisydd Rhif 577925 yn unigolyn cymwys ac addas i feddu ar Drwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni a Hurio Preifat a bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar gwblhau’r holl wiriadau arferol sy’n gysylltiedig â’r math yma o gais yn llwyddiannus, a chwblhau’r Prawf Gwybodaeth i’r safon gofynnol.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ynglŷn â’r canlynol –

 

(i)             cais a dderbyniwyd am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 577925;

 

(ii)            penderfyniad swyddogion i atgyfeirio'r cais at y Pwyllgor Trwyddedu i benderfynu arno oherwydd amgylchiadau penodol yr achos;

 

(iii)          roedd yr Ymgeisydd wedi cael euogfarn ym mis Tachwedd 2011 am gynllwynio/cynhyrchu cyffur rheoledig canabis Dosbarth B, ynghyd ag euogfarnau moduro a gafwyd rhwng Gorffennaf 2021 a Rhagfyr 2022 am oryrru (mae ganddo chwe phwynt cosb dilys ar ei drwydded yrru DVLA ar hyn o bryd);

 

(iv)          darparwyd gwybodaeth gefndir a dogfennau cysylltiedig yn ymwneud â’r achos yn cynnwys manylion yr euogfarnau a gafwyd ac eglurhad yr Ymgeisydd o’r digwyddiadau, datganiad personol a geirda o ran cymeriad gan ei gyflogwr presennol; 

 

(v)           polisi’r Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd euogfarnau ac addasrwydd yr ymgeiswyr a thrwyddedau; a

 

(vi)          gwahoddwyd yr Ymgeisydd i fynychu’r cyfarfod i gefnogi’r cais ac i ateb cwestiynau’r Aelodau wedi hynny.

 

Roedd yr ymgeisydd yn bresennol i gefnogi ei gais.

 

Cyflwynodd y Swyddog Gorfodi Trwyddedu (NS) yr adroddiad a ffeithiau’r achos.

 

Cyfeiriodd yr Ymgeisydd at ei ddatganiad ysgrifenedig oedd yn rhan o’r adroddiad a darllenodd ddatganiad ysgrifenedig a baratowyd ymlaen llaw i gefnogi ei gais. Rhoddodd rywfaint o gyd-destun i’r euogfarnau a gafwyd, a’i amgylchiadau personol yn cynnwys hanes ei yrfa hyd yma a’i rinweddau personol, gyda’r bwriad o ddangos ei fod yn unigolyn cymwys ac addas i feddu ar drwydded.

 

Ymatebodd yr Ymgeisydd i gwestiynau am ei gyflogaeth ar hyn o bryd, oedd hefyd yn ymwneud â chludo teithwyr yn ogystal â gwaith gyrru arall a wnaed, y cymhelliad y tu ôl i’w gais a manylion pellach am ei euogfarnau, mesurau lliniaru, adferiad ac ymddygiad a chymeriad da wedi hynny.

 

Ymatebodd y Swyddogion i gwestiynau hefyd, gan gadarnhau y byddai’r euogfarn a gafwyd ym mis Tachwedd 2011 wedi’i disbyddu erbyn Tachwedd 2024.  Os oedd yr aelodau o blaid caniatáu'r cais, byddai’n amodol ar gwblhau’r prawf gwybodaeth a gwiriadau arferol yn foddhaol.

 

O ran datganiad terfynol, cadarnhaodd y Gyrrwr nad oedd ganddo unrhyw beth i’w ychwanegu.

 

Gohiriwyd y Pwyllgor er mwyn ystyried y cais a –

 

PENDERFYNWYD bod Ymgeisydd Rhif 577925 yn unigolyn cymwys ac addas i feddu ar Drwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni a Hurio Preifat a bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar gwblhau’r holl wiriadau arferol sy’n gysylltiedig â’r math yma o gais yn llwyddiannus, a chwblhau’r Prawf Gwybodaeth i’r safon ofynnol.

 

Dyma resymau’r Pwyllgor Trwyddedu dros y penderfyniad –

 

Roedd yr aelodau wedi ystyried y dystiolaeth yn ofalus ac wedi trafod yn fanwl cyn gwneud eu penderfyniad yn y pen draw.

 

Ystyriodd y Pwyllgor bod yr Ymgeisydd wedi ei gael yn euog am drosedd ddifrifol yn ymwneud â chyffuriau, a rhoddwyd cryn bwysau i’r euogfarn honno gan mai nod cyffredinol yr awdurdod trwyddedu wrth wneud ei waith yn ymwneud â thrwyddedu gyrwyr oedd gwarchod y cyhoedd.   Ystyriodd hefyd bod hwn yn fater difrifol yn unol â’u canllawiau polisi’n ymwneud â throseddau’n gysylltiedig â chyffuriau.

 

Ystyriodd yr aelodau’r canllawiau polisi oedd yn nodi na ddylid rhoi trwydded am 10 mlynedd wedi i’r ddedfryd am drosedd yn ymwneud â chyffuriau ddod i ben. Fodd bynnag, penderfynodd yr aelodau wyro oddi wrth y canllawiau hyn oherwydd nad oes llawer o amser nes bydd y 10 mlynedd wedi mynd heibio. Ystyriodd yr aelodau bod llawer o amser wedi mynd heibio ers yr euogfarn a’r ddedfryd a bod yr Ymgeisydd wedi cymryd camau i’w adsefydlu ei hun, a chawsant eu calonogi nad oedd wedi cyflawni troseddau tebyg  ...  view the full Cofnodion text for item 7