Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

REVIEW OF A LICENCE TO DRIVE HACKNEY CARRIAGE AND PRIVATE HIRE VEHICLES - DRIVER NO. 507343

Cyfarfod: 11/09/2024 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 6)

6 ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 507343

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat mewn perthynas â Gyrrwr rhif 507343.

9.45 am – 10.30 am

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD fod Gyrrwr Rhif 507343 yn unigolyn cymwys ac addas i feddu ar Drwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni a Hurio Preifat a bod rhybudd ysgrifenedig yn cael ei roi mewn cysylltiad â’r euogfarnau yr oedd ganddynt.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ynglŷn â’r canlynol –

 

(i)             pa mor addas oedd Gyrrwr Rhif 507343 i feddu ar drwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat yn dilyn euogfarnau a gafwyd ym mis Gorffennaf 2024 am fod yn berchen ar gerbyd sy’n cael ei ddefnyddio fel cerbyd hurio preifat heb drwydded a defnyddio cerbyd ar ffordd neu mewn lle cyhoeddus heb yswiriant trydydd parti;  

 

(ii)            penderfyniad swyddogion i atgyfeirio'r mater at y Pwyllgor Trwyddedu i benderfynu arno oherwydd amgylchiadau penodol yr achos;

 

(iii)          gwybodaeth gefndir a dogfennau cysylltiedig a ddarparwyd yn cynnwys manylion crynodeb o’r achos a’r ddirwy/pwyntiau cosb a gafwyd ynghyd â datganiadau ysgrifenedig gan y Gyrrwr yn cynnwys datganiad ategol a geirdaon ar sail cymeriad;

 

(iv)          polisi’r Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd euogfarnau ac addasrwydd yr ymgeiswyr a thrwyddedau; a

 

(v)           gwahoddwyd y Gyrrwr i fynychu’r cyfarfod i gefnogi’r adolygiad o’r drwydded ac i ateb cwestiynau’r aelodau wedi hynny.

 

Roedd y Gyrrwr yn bresennol i gefnogi’r adolygiad o’i drwydded.

 

Cyflwynodd y Swyddog Gorfodi Trwyddedu (NS) yr adroddiad a ffeithiau’r achos.

 

Cyfeiriodd y Gyrrwr at ei ddatganiad ysgrifenedig oedd yn rhan o’r adroddiad a dangosodd edifeirwch mawr am ei weithredoedd, tynnodd sylw at ei ymddygiad da yn flaenorol a rhoddodd sicrwydd am ei ymddygiad yn y dyfodol a’r gwersi a ddysgodd. Wrth ymateb i gwestiynau, ymhelaethodd y Gyrrwr am amgylchiadau'r euogfarnau a’r rhesymau am ei weithredoedd, gan gydnabod canlyniadau’r gweithredoedd hynny a’i benderfyniadau gwael, a chyfeiriodd at y camau yr oedd wedi eu cymryd ers hynny i sicrhau ail gerbyd trwyddedig os bydd rhywbeth tebyg yn digwydd yn y dyfodol.

 

O ran datganiad terfynol, cadarnhaodd y Gyrrwr nad oedd ganddo unrhyw beth i’w ychwanegu.

 

Gohiriwyd y Pwyllgor er mwyn ystyried y cais a –

 

PENDERFYNWYD bod Gyrrwr Rhif 507343 yn unigolyn cymwys ac addas i feddu ar Drwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni a Hurio Preifat a bod rhybudd ysgrifenedig yn cael ei roi mewn cysylltiad â’r euogfarnau a gafodd.

 

Dyma resymau’r Pwyllgor Trwyddedu dros y penderfyniad –

 

Roedd yr aelodau wedi ystyried y dystiolaeth yn ofalus wrth wneud eu penderfyniad. Er nad oedd posib i’r Pwyllgor ailedrych ar ddarganfyddiadau’r euogfarn, roedd yn bosib iddynt ystyried yr amgylchiadau cyffredinol y tu ôl iddi wrth ystyried a oedd y Gyrrwr yn unigolyn cymwys ac addas i feddu ar drwydded yrru a/neu unrhyw gamau ffurfiol i’w cymryd.

 

Yn unol â chanllawiau polisi perthnasol ac oherwydd bod diogelwch y cyhoedd yn ystyriaeth hollbwysig i awdurdod trwyddedu o ran trwyddedau gyrwyr, roedd yr aelodau’n cymryd yr euogfarn o ddifri gan ei bod yn ymwneud ag yswiriant cerbyd. Roedd yr aelodau’n hynod o bryderus am y mater hwn, gan nodi bod y Gyrrwr wedi gwneud penderfyniadau gwael iawn. Roeddent yn ystyried nad oedd ei ymddygiad yn cyrraedd y safon uchel oedd yn ofynnol gan yrwyr trwyddedig.

 

Wrth wneud eu penderfyniad, roedd yr aelodau wedi rhoi llawer o bwysau ar hanes blaenorol y Gyrrwr, oedd yn rhagorol. Roedd yn galonogol bod y Gyrrwr wedi cydweithredu’n llawn â’r Awdurdodau Trwyddedu oedd yn rhan o’r achos. Cawsant eu calonogi hefyd gan gyfaddefiad llawn a didwyll y Gyrrwr i’r Swyddogion Trwyddedu a rhoddwyd pwysau mawr ar hynny wrth wneud eu penderfyniad bod y Gyrrwr yn parhau yn unigolyn cymwys ac addas i feddu ar drwydded.

 

Cafodd yr aelodau eu calonogi hefyd gan y ffaith bod y Gyrrwr wedi cymryd camau ers yr euogfarn i sicrhau ail gerbyd trwyddedig y gellid ei ddefnyddio pe bai’r Gyrrwr yn yr un sefyllfa eto. Roedd yr aelodau’n fodlon â’r camau adferol a gymerwyd.

 

Wedi ystyried yr amgylchiadau  ...  view the full Cofnodion text for item 6