Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

LICENSING COMMITTEE FORWARD WORK PROGRAMME 2024/25

Cyfarfod: 11/09/2024 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 5)

5 RHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR TRWYDDEDU AR GYFER 2024/25 pdf eicon PDF 208 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) ar flaenoriaethau’r Adain Drwyddedu ynghyd â’r rhaglen waith ddiwygiedig.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD

                    

(a)      nodi cynnwys yr adroddiad, a

 

(b)      chymeradwyo’r rhaglen waith ar gyfer 2024/25 fel y manylir yn Atodiad A yr adroddiad.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu adroddiad (dosbarthwyd ymlaen llaw) ar flaenoriaethau’r Adain Drwyddedu, ynghyd â diweddariad i’r rhaglen waith ar gyfer 2024/25.

 

Yr oedd blaenoriaethau’r Adain Drwyddedu yn adlewyrchu’r ddyletswydd a roddir ar yr Awdurdod mewn perthynas â’i gyfrifoldebau o ran ei swyddogaeth drwyddedu, a rheoleiddio, rheoli a gorfodi deiliaid trwyddedau yn effeithiol, yn ogystal ag ymrwymiad yr Awdurdod i greu cymunedau mwy diogel a datblygu’r economi. Roedd y rhaglen waith wedi'i drafftio gan ystyried polisïau perthnasol a dyddiadau adolygu, ynghyd ag unrhyw newidiadau deddfwriaethol posibl a gynigiwyd.

 

Roedd nifer o eitemau ar y rhaglen waith wedi cael eu haildrefnu neu eu dileu a chafodd rhaglen waith ddiwygiedig ei chyflwyno i’w hystyried.

 

Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf am yr eitemau hynny a gafodd eu haildrefnu / a gafodd eu dileu a oedd yn ymwneud â –

 

·       Tariff Cerbydau Hacni - yn eu cyfarfod diwethaf, roedd yr aelodau wedi cytuno i gadw’r ffioedd presennol ac adolygu’r sefyllfa mewn 12 mis (Mehefin 2025)

·       Gweithdrefnau Arbennig - ni chafwyd diweddariad pellach ar yr eitem hon

·       Cerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn - symudwyd yr eitem hon i fis Mawrth 2025 fel bod aelodau’n gallu ystyried canlyniadau’r ymgynghoriad ar yr adolygiad o ofynion trwyddedu.

 

Nododd yr aelodau’r diwygiadau arfaethedig i’r rhaglen waith.

 

PENDERFYNWYD

                    

(a)      nodi cynnwys yr adroddiad, a

 

(b)      chymeradwyo’r rhaglen waith ar gyfer 2024/25 fel y manylir yn Atodiad A yr adroddiad.