Mater - cyfarfodydd
Cofnodion y cyfarfod diwethaf
Cyfarfod: 26/09/2024 - Pwyllgor Craffu Perfformiad (Eitem 4)
4 COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 397 KB
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 18
Gorffennaf
2024 (copi ynghlwm).
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor
Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2024.
Penderfynwyd: y dylid cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a
gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2024 fel cofnod gwir a chywir o’r gweithrediadau.
Materion yn codi:
Tudalennau 11 – 12 ‘Adroddiad Diwedd Blwyddyn
Cefndy 2023/24’: holodd yr aelodau a oedd y fenter
wedi newid ei henw o Fentrau Cefndy i Cefndy ac a oedd ymweliadau’r cynghorwyr sir â’r safle
gweithgynhyrchu wedi cael eu trefnu.
Dywedodd y Cydlynydd Craffu mai enw’r fenter ar y wefan oedd ‘Gofal
Iechyd a Gweithgynhyrchu Cefndy’. Byddai tri dyddiad
posibl yn ystod mis Tachwedd yn cael eu hanfon at gynghorwyr cyn bo hir fel y gallant drefnu ymweliad â’r safle gweithgynhyrchu.