Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

CEFNDY YEAR END REPORT 2023/24

Cyfarfod: 18/07/2024 - Pwyllgor Craffu Perfformiad (Eitem 6)

6 ADRODDIAD DIWEDD BLWYDDYN CEFNDY 2023/24 pdf eicon PDF 223 KB

Ystyried adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion a Digartrefedd a’r Rheolwr Gwasanaeth Gweithredol sy’n rhoi cyfle i’r Pwyllgor ddadansoddi perfformiad y gweithrediad mewn perthynas â’i amcanion ariannol, busnes a llesiant cymdeithasol yn ystod 2023/24.

 

11.15am – 12pm

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Arweiniol - y Cynghorydd Elen Heaton yr adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) a’r rhai oedd yn bresennol ar gyfer yr eitem hon, sef y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau, Moderneiddio a Lles (NS), Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd (AL) a’r Rheolwr Gwasanaeth - Gwasanaeth Cefnogaeth Gymunedol Cefndy (NB).

 

Trefnodd Cefndy ymweliad safle ar gyfer y pwyllgor hwn y llynedd, oedd wedi mynd yn dda, felly roedd mwyafrif yr aelodau’n deall beth oedd Cefndy yn ei gynnig. Felly, agorodd y Cadeirydd y drafodaeth ar gyfer cwestiynau. 

 

Gan ymateb i’r cwestiynau a’r pwyntiau a godwyd dywedodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion:

  • Er gwaetha’r hinsawdd ariannol anodd, gwelwyd cynnydd mewn gwerthiant, mewn marchnad fyd-eang gystadleuol, ac roedd y gwerthiant ar y trywydd iawn ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.  
  • Roedd Cefndy wedi goresgyn heriau sylweddol megis tarfu ar y gadwyn gyflenwi, pwysau chwyddiant trwm, Brexit. Roedd y tîm rheoli bellach yn edrych ar gynnyrch newydd ac yn ystyried datblygu cynnyrch drwy weithio drwy hen ddyluniadau i ddechrau. 
  • O ran ôl troed carbon y fenter, nid oedd yn bosibl cael paneli solar ar yr adeilad oherwydd y coed, fodd bynnag, cafwyd goleuadau LED a chyflwynwyd wythnos waith pedwar diwrnod er mwyn lleihau biliau cyfleustodau, oedd wedi arbed 15%. Roedd gan yr holl offer newydd ôl troed carbon gwell.
  • O ran hyfywedd hirdymor, roedd angen dechrau edrych ar ddatblygiad gyrfa yng Nghefndy. Roedd Sir Ddinbych yn ymwybodol o gynllunio olyniaeth, byddai’n cefnogi pobl i ddatblygu eu sgiliau ymhellach. Roedd y gwasanaethau a ddarparwyd yng Nghefndy yn unigryw, nid oeddent ar gael yn unman arall, felly roedd hyn yn achosi rhai heriau recriwtio. Roedd coleg peirianneg wedi agor wrth ymyl Cefndy, felly byddai profiad gwaith a chyfleoedd eraill yn cael eu cynnig drwy’r cyrsiau oedd ar gael yno gobeithio. 
  • Ar hyn o bryd, nid oedd cynlluniau i sefydlu Bwrdd Ymgynghorol, byddai hyn yn cael ei adolygu fel rhan o’r Rhaglen Drawsnewid, ac efallai ystyried cael Grŵp Tasg a Gorffen a allai gynnwys Cynghorwyr. Fodd bynnag, roedd Cefndy yn wasanaeth oedd yn cael ei gynnal gan y Cyngor, felly gallai Cynghorwyr gymryd cymaint o ran ag y dymunent gyda’r gwasanaeth.
  • Byddai’r swyddogion yn fwy na pharod i drefnu ymweliad arall i Gynghorwyr i Gefndy (mewn grwpiau bychan).  

 

Ar ddiwedd y drafodaeth, dywedodd aelodau’r Pwyllgor y byddai’n syniad da rhoi stori newyddion da yn Sir Ddinbych Heddiw ac ar gyfryngau cymdeithasol y Cyngor am Gefndy, beth oedd yn ei gynhyrchu, ei weithlu ymroddgar a’i fanteision i’r gymuned. Gofynnwyd hefyd am gael gweld cynlluniau busnes yn y dyfodol. 

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl:

Penderfynwyd:

(i) yn amodol ar y sylwadau uchod, ac ar ôl dadansoddi perfformiad Cefndy o ran ei amcanion ariannol, busnes a lles cymdeithasol yn ystod 2023/24, derbyn yr adroddiad a chefnogi’r cynnydd a wnaed i sefydlogi’r fenter a chynllunio ar gyfer ei hyfywedd yn y dyfodol;

(ii) bod trefniadau’n cael eu gwneud i wahodd aelodau etholedig (mewn grwpiau hawdd eu rheoli) i ymweld â chyfleuster Cefndy i weld y gwaith sy’n cael ei wneud yno a sut mae o fudd i les ei weithlu; a

(iii) bod adroddiad arall ar berfformiad Cefndy yn ystod blwyddyn ariannol 2024/25 yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor mewn 12 mis.