Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

DRAFT DIRECTOR OF SOCIAL SERVICES ANNUAL REPORT 2023/24

Cyfarfod: 18/07/2024 - Pwyllgor Craffu Perfformiad (Eitem 5)

5 ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYFARWYDDWR Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL 2023/24 pdf eicon PDF 410 KB

Ystyried a darparu sylwadau ar Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2023/24 (copi ynghlwm) cyn ei gyflwyno i Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) a’i gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych (CSDd).

 

10.15am – 11am

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Iechyd a Gofal Cymdeithasol (EH) yr adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn crynhoi’r cynnydd sylweddol yn yr angen am wasanaethau gofal cymdeithasol a phroblemau recriwtio a chadw yn y sector, felly roedd y cynnydd wedi bod yn arafach ac roedd y perfformiad wedi dirywio yn erbyn y dangosyddion allweddol oherwydd y pwysau. Byddai’r pwyslais yn y dyfodol ar y rhaglen drawsnewid.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg (NS) ei fod yn ofyniad statudol i lunio’r adroddiad a bod ei fformat a’i gynnwys yn cael eu gosod gan Lywodraeth Cymru, felly roedd cyfyngiadau o ran faint y gallai Cyngor Sir Ddinbych addasu’r adroddiad.  Fodd bynnag, byddai fformat newydd cyn bo hir gan Lywodraeth Cymru.

 

Diolchodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg (NS) i’r adran, partneriaid a gofalwyr anffurfiol am eu gwaith caled parhaus. Roedd y tîm yn parhau i weithredu fel gwasanaeth cyfunol gydag Addysg a Gofal Cymdeithasol, ac roedd ganddo benaethiaid gwasanaeth ar y cyd ynghyd â chyllideb a chynllun gwasanaeth ar y cyd. 

 

Yna agorodd y Cadeirydd y drafodaeth ar gyfer unrhyw gwestiynau. 

Gan ymateb i gwestiynau’r Aelodau, dywedodd y swyddogion:

  • Bod recriwtio a chadw yn her drwy’r adroddiad cyfan, yn enwedig mewn Gwasanaethau Plant. Nid oedd yr anawsterau a wynebir yma yn newydd i’r cyfnod adrodd hwn, roedd craffu wedi cael gwybod am y mater sawl tro o’r blaen. Roedd yr adran wedi gwneud gwaith penodol pellach, gan edrych ar y rhesymau a roddwyd mewn cyfweliadau gadael, datblygu’r staff presennol, hyrwyddo’r cynnig gweithio'n hyblyg yn barhaus a lobïo’n genedlaethol am gynnydd mewn cyflogau i’r sector. Fodd bynnag, roedd hon yn broblem genedlaethol, nid oedd digon o staff Gwaith Cymdeithasol erbyn hyn ac felly nid oedd digon o weithwyr newydd gymhwyso’n ymuno â’r proffesiwn. Felly hefyd Iechyd Meddwl, roedd prinder cenedlaethol o weithwyr proffesiynol yn y gwasanaeth. Roedd Sir Ddinbych yn edrych ar strwythur presennol y tîm ac yn dyrannu gwaith i ryddhau Ymarferwyr Iechyd Meddwl Cymeradwy i ganolbwyntio ar y gwaith yr oedd yn ofynnol iddynt ei wneud yn statudol. 
  • Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg ei bod hi a chyd aelodau Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn lobïo  Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), y Gymdeithas Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ac eraill yn barhaus am well cyflog i weithwyr yn y sector gofal, yn cynnwys yr un telerau ac amodau â gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. 
  • Roedd yr adroddiad yn feichus, ac roedd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd (AL) yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar y fformat newydd ar gyfer adroddiadau blynyddol yn y dyfodol, ond roedd yn ansicr faint o’u mewnbwn fyddai’n cael ei gynnwys. Byddai’r fformat newydd yn well gobeithio, byddai’n cynnwys adran ar berfformiad gyda data a byddai’n gwahanu gwybodaeth am Wasanaethau Oedolion a Gwasanaethau Plant yn gliriach. Croesawyd yr Astudiaethau Achos yn yr adroddiad, oedd yn rhoi darlun defnyddiol o ba mor gymhleth oedd darparu’r mathau cywir o wasanaethau er mwyn bod yn addas i unigolion.   
  • Trafodwyd cynhwysiant digidol a phwysigrwydd estyn allan i breswylwyr hŷn a’r rhai oedd wedi eu heithrio’n ddigidol. Roedd gan y cynllun ‘Heneiddio’n Dda yn Sir Ddinbych’ rôl allweddol yn hyn, yn enwedig yn ardaloedd gwledig Sir Ddinbych. Roedd ‘Hyder Digidol’ yn gynllun arall oedd â’r nod o feithrin hyder digidol, wedi’i ariannu drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.
  • Anghenion Cymhleth, roedd y pwysau’n dal i gynyddu, oedran cyfartalog y boblogaeth hŷn oedd yn gofyn am ofal preswyl bellach oedd 82 – 83 oed. Roeddent yn defnyddio’r gwasanaethau hyn pan oedd teulu’n methu â darparu’r gefnogaeth angenrheidiol mwyach, felly  ...  view the full Cofnodion text for item 5