Mater - cyfarfodydd
COUNCIL PERFORMANCE SELF-ASSESSMENT 2023 TO 2024
Cyfarfod: 25/06/2024 - Cabinet (Eitem 7)
7 HUNANASESIAD Y CYNGOR O’I BERFFORMIAD 2023 I 2024 PDF 413 KB
Ystyried adroddiad
gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau
Strategol (copi ynghlwm), yn cyflwyno Hunanasesiad y Cyngor o’i Berfformiad ar
gyfer 2023 i 2024 er mwyn i’r Cabinet ei ystyried a’i gadarnhau cyn ei gyflwyno
i’r Cyngor.
Dogfennau ychwanegol:
- SELF ASSESSMENT - Appendix I Executive Summary Self-Assessment of Performance 2023 to 2024, Eitem 7 PDF 539 KB
- SELF ASSESSMENT - Appendix II Performance Self-Assessment Update - October to March 2024, Eitem 7 PDF 1 MB
- SELF ASSESSMENT - Appendix III Final Summary of Service Performance Challenge Actions 2023 to 2024, Eitem 7 PDF 258 KB
- SELF ASSESSMENT - Appendix IV - Panel Performance Assessment Scope, Eitem 7 PDF 734 KB
- Webcast for HUNANASESIAD Y CYNGOR O’I BERFFORMIAD 2023 I 2024
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –
(a) nodi cynnwys yr adroddiad, gan gynnwys y
chwe cham gwella a restrwyd ym mharagraff 4.4 yn yr adroddiad, ac yn
(b) cadarnhau cynnwys Hunanasesiad y Cyngor o’i Berfformiad
2023-2024 i’w gyflwyno i’r Cyngor ym mis Gorffennaf 2024 i’w gymeradwyo.
Cofnodion:
Yn absenoldeb y Cynghorydd Gwyneth Ellis,
cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Perfformiad, Digidol ac
Asedau yr adroddiad a Hunanasesiad y Cyngor ar gyfer 2023 i 2024 er mwyn i’r
Cabinet eu hystyried cyn iddynt fynd gerbron y Cyngor. Roedd y Swyddog Cynllunio a Pherfformiad
hefyd yn bresennol.
Roedd Hunanasesiad y Cyngor o’i Berfformiad yn
darparu dadansoddiad diwedd blwyddyn o gynnydd a heriau yn ôl amcanion
perfformiad allweddol (h.y. themâu’r Cynllun Corfforaethol).
Arweiniodd y swyddogion yr aelodau drwy’r adroddiad
oedd yn cynnwys Crynodeb Gweithredol (Atodiad I), yn tynnu sylw at berfformiad
yn erbyn y Cynllun Corfforaethol a’r saith maes llywodraethu; yr Adroddiad
Diweddaru Perfformiad (Atodiad Il) o fis Hydref at fis Mawrth 2024; camau
gweithredu o’r Heriau Perfformiad Gwasanaeth (Atodiad Ill) a chwmpas drafft yr
Asesiad Perfformiad Panel (Atodiad lV).
Roedd adborth eisoes wedi’i roi gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
a’r Pwyllgor Craffu Perfformiad wedi iddynt ystyried yr adroddiad. Rhoddwyd
trosolwg o’r cynnydd a wnaed ynghyd â’r heriau oedd o’n blaenau. Nodwyd fod yn
rhaid ystyried perfformiad yng nghyd-destun cyfyngiadau cyllidebol a disgwylid
i’r cyflawniad fod yn arafach o’r herwydd o bosibl. Tynnwyd sylw penodol hefyd
at y chwe gweithgaredd gwella a nodwyd.
Diolchodd y Cabinet i’r swyddogion am yr adroddiad
cynhwysfawr a’r gwaith caled.
Canolbwyntiodd y prif faterion trafod ar y canlynol
-
· rhoddwyd disgrifiad manwl o bwrpas yr Asesiad Perfformiad
Panel a’r disgwyliadau. Trafodwyd cwmpas drafft yr Asesiad a chafodd ei
groesawu fel cyfle arall i asesu perfformiad o safbwynt gwahanol i arwain
gwelliannau a pherfformiad gwell yn y dyfodol. Roedd y meysydd pwyslais drafft
yn cynnwys Arweinyddiaeth, Cynigion ar y Gyllideb/Trawsnewid a Gweithio mewn
Partneriaeth. Bydd y Cabinet yn cael adroddiad arall ym mis Gorffennaf i
gymeradwyo’r trefniadau.
· er ei bod yn bwysig cynnal uchelgeisiau’r Cyngor a
pharhau i ymdrechu i wella, derbynnir bod llawer o faterion, o ran cyfyngiadau
cyllidebol a’r economi ehangach, y tu hwnt i reolaeth y Cyngor
· cafodd y problemau gyda chyflwyno'r gwasanaeth gwastraff
newydd a’r effaith ar berfformiad, ynghyd â phroblemau eraill y tynnwyd sylw
atynt yn y misoedd diwethaf eu codi fel pryder a hefyd yr effaith ar enw da’r
awdurdod a’r thema o fod yn Gyngor sy'n cael ei gynnal yn dda, ac sy’n uchel ei
berfformiad. Roedd y prosiect gwastraff yn rhan o’r thema Sir Ddinbych Mwy
Gwyrdd yn y Cynllun Corfforaethol a byddai sylwadau am ei gyflwyno yn rhan o
adroddiad perfformiad chwarter 2. Roedd
pob awdurdod lleol yn wynebu heriau sylweddol i’r gyllideb ac roedd y gwaith yn
canolbwyntio ar y rhaglen drawsnewid i gyflawni gwasanaethau. Roedd fframwaith
rheoli perfformiad y Cynllun Corfforaethol yn cynnwys dangosyddion rheoli
ariannol
· trafodwyd y thema Cyngor sy'n cael ei
gynnal yn dda, ac sy’n uchel ei berfformiad yn fanwl a nodwyd bod perfformiad
yn un o saith maes llywodraethu yr oedd yn ofynnol i’r Cyngor eu hasesu ar
gyfer iechyd corfforaethol da. Rhan o bwyslais y thema hon yn y Cynllun
Corfforaethol oedd meithrin dull “un Cyngor” o gefnogi’r naill a’r llall, gan
weithio gyda’n gilydd i ymdrin â phroblemau’n agored a thryloyw, bod yn
awdurdod dysgu, cydnabod perfformiad da a gwneud y gwelliannau angenrheidiol
mor gyflym â phosibl mewn meysydd nad oedd yn perfformio cystal
· unwaith eto, cydnabu’r Arweinydd y problemau wrth
gyflwyno’r gwasanaeth gwastraff newydd a rhoddodd sicrwydd eto bod pob ymdrech
yn cael ei wneud i’w datrys
· ni chyfeiriwyd at achosion o dorri amodau
cynllunio/gorfodaeth yn yr adroddiad perfformiad a chytunodd yr aelodau i
godi’r mater gyda’r gwasanaeth perthnasol fel mesur posibl i’w gynnwys mewn
adroddiadau yn y dyfodol ac adrodd yn ôl ar y canlyniad i’r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio nesaf
· nod yr adroddiad oedd ystyried ... view the full Cofnodion text for item 7