Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

LONG TERM PLAN FOR TOWNS: RHYL

Cyfarfod: 25/06/2024 - Cabinet (Eitem 6)

6 CYNLLUN HIRDYMOR AR GYFER TREFI: Y RHYL pdf eicon PDF 230 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd (copi ynghlwm) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet am y penderfyniadau dirprwyedig a’r camau a gymrwyd yn dilyn cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 21 Mai 2024.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi ac yn cefnogi’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys, ac wedi’i hatodi, i’r adroddiad hwn, yn cynnwys penodiad Cadeirydd Bwrdd newydd y Rhyl ac aelodaeth arfaethedig y Bwrdd.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jason McLellan yr adroddiad,  gan roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet am y penderfyniadau dirprwyedig a’r camau a gymerwyd fel rhan o fenter Cynllun Hirdymor ar gyfer Trefi a rhaglen Ffyniant Bro Llywodraeth y DU yn dilyn cyfarfod y Cabinet ar 21 Mai 2024.

 

Cafodd y Cabinet wybod am y camau a gymerwyd erbyn 3 Mehefin 2024 oedd yn cynnwys penodi Adam Roche fel Cadeirydd Bwrdd Tref y Rhyl ynghyd â manylion am Strwythur y Bwrdd, y Cylch Gorchwyl, Polisi Gwrthdaro Buddiannau a’r ffurflen Ffiniau’r Dref. Roedd y wybodaeth a gyflwynwyd i Lywodraeth y DU ynghlwm â’r adroddiad.   Cafodd y Cabinet wybod hefyd am gamau gweithredu oedd angen eu cymryd gan y Bwrdd erbyn 1 Tachwedd 2024 oedd yn cynnwys: cytuno ar lywodraethu; cytuno ar gynllun ymgysylltu; cynnal adolygiad o’r data; cynnal ymgysylltiad cyhoeddus; datblygu’r weledigaeth 10 mlynedd a datblygu’r cynllun cyflawni ar gyfer y 3 blynedd gyntaf.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Joan Butterfield gwestiynau gweithdrefnol am y broses benodi ar gyfer Cadeirydd y Bwrdd Tref a’i aelodaeth a’r wybodaeth a gyflwynwyd i Lywodraeth y DU. Gofynnodd hefyd am i ystyriaeth gael ei roi i benodi dau Gynghorydd Tref y Rhyl ar y Bwrdd. Wrth ymateb i faterion a godwyd, a chwestiynau pellach gan aelodau, ymatebodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Barry Mellor a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: yr Amgylchedd a’r Economi fel a ganlyn -

 

·       ailadrodd y rhesymeg y tu ôl i ddirprwyo camau gan y Cabinet i alluogi’r tasgau gael eu cwblhau yn yr amserlen dynn i fodloni’r terfyn amser am yr arian, ac roedd yr holl fudd-ddeiliaid wedi cael y wybodaeth ddiweddaraf am y broses a’r cynnydd a wnaed

·       rhoddwyd eglurhad manwl am y broses drylwyr ar gyfer enwebu a phenodi Cadeirydd y Bwrdd Tref (yn cynnwys meini prawf, dethol, cyfweld, matrics sgorio a defnyddio ymgynghorydd) a rhinweddau penodi Adam Roche i’r rôl ynghyd ag aelodaeth y Bwrdd gan ystyried yr arweiniad a roddwyd o ran cynrychiolwyr statudol ac anstatudol.

·       roedd yr arweiniad wedi awgrymu rhwng 12 – 15 aelod ac roedd y Bwrdd yn cynnwys 16 aelod: 5 statudol ac 11 anstatudol er mwyn cael cynrychiolaeth dda o sectorau perthnasol. Mae’n bosibl y bydd cyfle hefyd i ffurfio is-grwpiau gyda mewnbwn ehangach gan y sectorau hynny i gyd-fynd â’r tair thema

·       nid oedd gofyniad statudol i gael cynrychiolydd o Gyngor Tref y Rhyl, ond er mwyn cydnabod eu rôl bwysig, roedd Cynghorydd Tref y Rhyl wedi cael ei gynnwys ar y Bwrdd. Ystyriwyd bod y cydbwysedd rhwng cynrychiolwyr etholedig a rhai o’r gymuned, busnes a sectorau eraill yn briodol ac yn unol â’r arweiniad

·       roedd sicrwydd wedi’i roi y byddai’r rhaglen yn parhau yn y dyfodol os oedd newid mewn llywodraeth ar ôl yr etholiad.

 

Wrth gloi, cyfeiriodd yr Arweinydd at y disgwyliad y byddai’r Bwrdd Tref yn gweithio gyda’r holl aelodau etholedig yn y Rhyl yn y dyfodol er lles y dref.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi ac yn cefnogi’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn yr adroddiad hwn, ac wedi’i hatodi iddo, yn cynnwys penodiad Cadeirydd Bwrdd newydd y Rhyl ac aelodaeth arfaethedig y Bwrdd.

 

Ar y pwynt hwn (11.40am) cymerwyd egwyl am luniaeth.