Mater - cyfarfodydd
ADRODDIAD CYLLID
Cyfarfod: 25/06/2024 - Cabinet (Eitem 8)
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad
ac Asedau Strategol (copi ynghlwm), ynglŷn â'r sefyllfa refeniw derfynol
ar gyfer 2023/24 a’r driniaeth arfaethedig o gronfeydd wrth gefn a balansau.
Dogfennau ychwanegol:
- FINANCE REPORT - App 1 Summary Position 23-24, Eitem 8 PDF 66 KB
- FINANCE REPORT - App 2 School Balances, Eitem 8 PDF 74 KB
- FINANCE REPORT - App 3 Earmarked Reserve Summary, Eitem 8 PDF 109 KB
- Webcast for ADRODDIAD CYLLID
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –
(a) Nodi’r sefyllfa refeniw derfynol ar gyfer
2023/24, ac yn
(b) cymeradwyo sefyllfa’r cronfeydd wrth gefn
ar gyfer 2023/24 fel y disgrifir yn yr adroddiad ac yn Atodiadau 1 - 3.
Cofnodion:
Yn absenoldeb y Cynghorydd Gwyneth Ellis,
cyflwynodd y Prif Gyfrifydd yr adroddiad ar sefyllfa refeniw derfynol 2023/24
a’r driniaeth arfaethedig o gronfeydd wrth gefn a balansau, ac arweiniodd yr
aelodau drwy fanylion yr adroddiad.
Yn fyr, y sefyllfa derfynol gyda chyllidebau corfforaethol a gwasanaeth
(gan gynnwys tanwariant heb ei ddirprwyo o £115mil gan ysgolion) yw gorwariant
o £513mil. Ynghyd â diffyg bychan o £163mil yn Nhreth y Cyngor a gasglwyd,
mae’n golygu bod £676mil o gronfeydd wrth gefn Lliniaru’r Gyllideb wedi’i
ddefnyddio i ariannu’r gorwariant net. Bu i ysgolion orwario o £5.258m gan
arwain at gyfanswm gorwariant y gyllideb o £5.934m. Nodwyd y trosglwyddiadau
i’r cronfeydd wrth gefn ac ohonynt, ac roedd y rhan fwyaf ohonynt yn rhan o’r
gyllideb neu wedi cael eu cymeradwy’n flaenorol. Yn olaf, cyfeiriwyd at
gyllideb 2024/25, oedd yn broses barhaus ac roedd y gwaith yn parhau ar y
cynigion ar gyfer arbed. Roedd risgiau’n gysylltiedig â rheoli cyllidebau a
chyflawni arbedion bob amser ac roeddent yn cael eu monitro’n agos.
Dywedodd yr Arweinydd fod y pwysau sy’n wynebu’r Cyngor a’r amgylchiadau
ariannol anodd wedi cael eu hadlewyrchu yn yr adroddiad. Roedd wedi bod yn
falch o weld llwyddiant y mesurau rheoli’r gyllideb a gyflwynwyd yn ystod y
flwyddyn mewn rhai gwasanaethau a bod meysydd galw risg uchel fel Gwasanaethau
Plant a Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn parhau i gael eu monitro’n agos. Yn olaf, pwysleisiodd yr Arweinydd mor
bwysig oedd bod aelodau’n mynychu’r gweithdai cyllideb sydd yn yr arfaeth i
sicrhau bod pawb yn rhan o’r broses honno yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -
(a) nodi’r sefyllfa refeniw derfynol ar gyfer
2023/24; ac yn
(b) cymeradwyo sefyllfa’r cronfeydd wrth gefn
ar gyfer 2023/24 fel y disgrifir yn yr adroddiad ac yn Atodiadau 1 - 3.