Mater - cyfarfodydd
Materion Brys
Cyfarfod: 25/06/2024 - Cabinet (Eitem 3)
MATERION BRYS
Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cododd yr Arweinydd y mater brys canlynol - Cyflwyno’r
Gwasanaeth Casglu Deunyddiau Ailgylchu a Gwastraff newydd
Cofnodion:
Ymddiheurodd yr
Arweinydd ar ran y Cyngor i breswylwyr sydd wedi cael eu heffeithio gan y
problemau sy’n gysylltiedig â chyflwyno’r gwasanaeth newydd ac i aelodau sydd
wedi bod yn gweithio’n galed ar ran preswylwyr. Diolchodd hefyd i aelodau am
roi gwybod am gasgliadau a fethwyd yn eu wardiau ac i breswylwyr am eu hamynedd
a’u hymdrechion i ailgylchu.
Dywedodd yr
Arweinydd ei fod wedi bod mewn cyswllt dyddiol â’r Prif Weithredwr, y
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Yr Amgylchedd a’r Economi a’r Aelod Arweiniol am y
sefyllfa. Er bod y cyfraddau casglu wedi gwella, roedd yn amlwg bod angen gweld
cynnydd anferthol o ran cyflymdra a gwelliant i ymdrin â’r ôl-groniad a
gweithio i sicrhau bod y system yn gweithio’n iawn. Sicrhaodd yr Arweinydd ei
fod ef a’r Aelod Arweiniol yn herio’r swyddogion yn drwyadl i sicrhau bod
problemau’n cael eu datrys cyn gynted â phosibl ac roedd pawb yn gweithio mor
galed â phosibl i gael gwared ar yr ôl-groniad, ymdrin â’r problemau a sicrhau
bod y system yn gweithio’n iawn yn y dyfodol.
Byddai’r digwyddiadau’n ymwneud â chyflwyno’r system newydd yn destun
ymchwiliad craffu cyhoeddus a byddai’r broses honno’n dechrau cyn gynted â
phosibl ar ôl yr etholiad. Roedd cyfarfod arbennig o’r Grŵp Cadeiryddion
ac Is-Gadeiryddion Craffu wedi’i drefnu ar gyfer 8 Gorffennaf.
Ymddiheurodd yr
Aelod Arweiniol, y Cynghorydd Barry Mellor i aelodau a phreswylwyr. Ychwanegodd
fod y cyflwyno wedi’i ddwyn ymlaen gan y Cabinet blaenorol, ond fel Cabinet,
roeddent yn credu mai dyma’r peth iawn i’w wneud gan barhau â hynny.
Pwysleisiodd y Cynghorydd Mellor mai problem weithredol ydoedd a’i fod wedi bod
mewn cyswllt rheolaidd â’r swyddogion perthnasol i gyflymu’r gwelliannau.
Ynghyd â’r Prif Weithredwr a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol, roedd wedi bod allan
gyda’r criwiau i weld drosto’i hun yr anawsterau oedd yn wynebu preswylwyr a
gwaith caled y criwiau, oedd yn gweithio sifftiau ychwanegol i ymdrin â’r
ôl-groniad. O’r herwydd, roedd yn hyderus y byddai’r problemau'n cael eu datrys
ac y byddai’r system yn cael ei hymgorffori’n llwyddiannus, er nid mor gyflym
â’r hyn a ragwelwyd. Diolchodd i
breswylwyr am eu hamynedd a rhoddodd sicrwydd bod popeth posibl yn cael ei
wneud i wireddu manteision y system newydd mor gyflym â phosibl.
Caniataodd yr
Arweinydd gwestiynau, ond atgoffodd yr aelodau bod craffu ar gyflwyno’r
gwasanaeth newydd yn broses ar wahân drwy ymchwiliad dan arweiniad aelodau.
Yn ystod y
drafodaeth mynegodd yr aelodau eu pryderon a’u gofidiau am y gwasanaeth newydd
a’r effaith ar breswylwyr, a chafwyd nifer o enghreifftiau o broblemau mewn
wardiau gwahanol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Wrth siarad ar ran y
Grŵp Annibynnol, roedd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts yn dymuno diolch
i’r criwiau a’r staff ar y rheng flaen oedd yn gweithio’n galed mewn
amgylchiadau anodd. Roedd yn dymuno rhoi ar gofnod hefyd bod y cyn Gabinet wedi
pleidleisio ar gysyniad y gwasanaeth newydd, nid y dull gweithredu. Cododd yr aelodau gwestiynau a phryderon
penodol am agweddau amrywiol o gyflwyno’r gwasanaeth a methiannau allweddol a
gofynnwyd am sicrwydd am y camau i ymdrin â’r ôl-groniad presennol a bod y
system yn gweithio’n effeithlon yn y dyfodol, a chyflwynwyd nifer o awgrymiadau
am hynny.
Ymatebodd yr
Arweinydd, yr Aelod Arweiniol, y Prif Weithredwr, y Cyfarwyddwr Corfforaethol
a’r Swyddog Monitro i’r cwestiynau a materion a godwyd fel a ganlyn -
·
roedd yr effaith ar y
preswylwyr a effeithiwyd yn andwyol gan y newid gwasanaeth yn annerbyniol ac
roedd yn wirioneddol ddrwg gan y Cyngor am y gofid a achoswyd o’r herwydd
· roedd y cyfraddau casglu ... view the full Cofnodion text for item 3