Mater - cyfarfodydd
PROMOTE SCHOOL ATTENDANCE AND ENGAGEMENT IN EDUCATION
Cyfarfod: 25/01/2024 - Pwyllgor Craffu Perfformiad (Eitem 5)
5 HYRWYDDO PRESENOLDEB YSGOL AC YMGYSYLLTIAD MEWN ADDYSG PDF 228 KB
Ystyried adroddiad gan Arweinydd Tîm Gwaith Cymdeithasol
Addysg (copi ynghlwm) sy’n rhoi’r sefyllfa bresennol i aelodau o ran
presenoldeb ysgol ac ymgysylltiad mewn addysg.
Mae’r adroddiad hefyd yn ceisio barn y Pwyllgor ar y dull a ddefnyddir
gan yr awdurdod addysg lleol i gynyddu ymgysylltiad disgyblion mewn addysg.
10.10 am – 11.00 am
Dogfennau ychwanegol:
- Engagement in Education Report 250124 ATODIAD 1 CYMRAEG, Eitem 5 PDF 1 MB
- Engagement in Education Report 250124 APPENDIX 2, Eitem 5 PDF 99 KB
- Engagement in Education Report 250124 APPENDIX 3, Eitem 5 PDF 165 KB
- Engagement in Education Report 250124 ATODIAD 4 CYMRAEG, Eitem 5 PDF 161 KB
- Engagement in Education Report 250124 ATODIAD 5 CYMRAEG, Eitem 5 PDF 160 KB
- Engagement in Education Report 250124 ATODIAD 6 CYMRAEG, Eitem 5 PDF 277 KB
- Engagement in Education Report 250124 ATODIAD 7 CYMRAEG, Eitem 5 PDF 78 KB
- Webcast for HYRWYDDO PRESENOLDEB YSGOL AC YMGYSYLLTIAD MEWN ADDYSG
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Aelod
Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc, y Cynghorydd Gill German adroddiad ar
Hyrwyddo Presenoldeb yn yr Ysgol ac Ymgysylltiad Mewn Addysg (a ddosbarthwyd
ymlaen llaw). Eglurodd nad oedd lefelau presenoldeb yn yr ysgol wedi cyrraedd y
lefelau cyn y pandemig, felly roedd angen mwy o waith i wella ymgysylltiad a
lefelau presenoldeb.
Rhoddwyd gwybodaeth ac
eglurwyd y mesurau i gefnogi disgyblion diamddiffyn i ail-ymgysylltu gyda’u
haddysg a dyfnhau dealltwriaeth o’r cyd-destun rhanbarthol a chenedlaethol wrth
ymdrin â’r lefel gyfredol o bryder yn genedlaethol.
Roedd cyfraddau presenoldeb
dros y tair blynedd ddiwethaf wedi gostwng ar hyd a lled Cymru a’r cyfartaledd
cyffredinol ar draws awdurdodau oedd 88.9% Cynradd/Uwchradd wedi’u cyfuno.
Roedd dadansoddiad manylach o’r patrwm presennol yn Atodiad 3 ac roedd y
ffigurau hyn yn dangos bod ffigurau presenoldeb cyfartalog Sir Ddinbych yn 90.1%
yn ystod tymor yr hydref 2023 o’i gymharu â’r cyfartaledd cenedlaethol o 91.3%.
Roedd Gweinidog dros Addysg
a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau yn ddiweddar i ddod â
Chymru yn unol â Lloegr ble mae absenoldeb cyson yn cael ei ddiffinio fel colli
10% o sesiynau hanner diwrnod (30 sesiwn) yn hytrach na’r gyfradd absenoldeb
gyfredol o 20% o absenoldeb cyson sy’n gyfwerth â 60 sesiwn hanner diwrnod y
flwyddyn.
Roedd Sir Ddinbych wedi
cael cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru trwy’r Grant Addysg Awdurdod Lleol
i ymdrin ag addysg ac ysgolion a’u cefnogi.
Roedd gwaith wedi bod yn
cael ei wneud gydag ysgolion ar yr agwedd allweddol o deuluoedd oedd mewn
trafferthion â thai gwael, byw mewn tlodi neu’n ei chael yn anodd gyda’r
argyfwng costau byw, gan y byddai hyn yn cael effaith ar y plant. Byddai ymgysylltu ag ysgolion a theuluoedd
yn hollbwysig i wella presenoldeb.
Roedd swyddogion yn ymweld â theuluoedd mewn ymgais i ddeall pam nad
oedd disgyblion yn mynd i’r ysgol ac yn ymgysylltu â’u haddysg, roedd
cefnogaeth yn cael ei chynnig er mwyn annog ail-ymgysylltu a gwella lefelau
presenoldeb.
Gan ymateb i gwestiynau’r
aelodau, dywedodd yr Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd a’r swyddogion:
·
Roedd ymyriadau’n hanfodol,
ond y prif anawsterau oedd nad oedd lefelau staff yn cynyddu i ymdopi â
chynnydd mewn galw a phwysau. Roedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyllid
ychwanegol ond roedd wedi bod yn anodd penodi.
·
Roedd ymyriadau’n amrywio o
un ysgol i’r llall hefyd gan fod presenoldeb da mewn rhai ysgolion, oedd cystal
os nad gwell na’r lefelau cyn y pandemig, ond roedd ar eraill angen cefnogaeth
ac adnoddau ychwanegol i wireddu gwelliannau.
·
Roedd gwaith ar y gweill
gyda theuluoedd plant ag anghenion dysgu ychwanegol, rhai sy’n cael prydau
ysgol am ddim, ffoaduriaid, teuluoedd Sipsi, Roma a theithwyr, plant sy'n
derbyn gofal ac ati gan eu bod yn ddisgyblion â nodweddion diamddiffyn.
·
O ran y rhai sy’n cael
prydau ysgol am ddim, yn aml roedd gan y plant a theuluoedd hyn anghenion tai
ac roedd yn bwysig bod y plant yn dod i’r ysgol i fod mewn amgylchedd diogel ac
i gael un pryd poeth y dydd o leiaf.
·
Roedd gan lawer o blant
anghenion lles ac iechyd meddwl, ond nid oedd hyn yn esgus iddynt beidio â dod
i’r ysgol. Roedd rhai plant hefyd yn gofalu am aelodau’r teulu, felly roedd yn
bwysig bod eu hanghenion yn cael eu bodloni i’w galluogi i fynd i’r ysgol i
wella eu canlyniadau i’r dyfodol. Mae pob plentyn ar ei ennill o fynd i’r
ysgol. Roedd dull Un Cyngor ar waith er mwyn annog presenoldeb, ymgysylltiad a
lles disgyblion. Roedd hyn yn cael ei ymestyn i sefydliadau allanol hefyd,
hynny ydi ymarferwyr iechyd sy’n rhan o fywydau plant a’u teuluoedd/gofalwyr.
· Roedd strategaeth gyfathrebu wedi ... view the full Cofnodion text for item 5