Mater - cyfarfodydd
DISPOSAL OF PERONNE FARM, FFORDD COPPY, DENBIGH
Cyfarfod: 23/01/2024 - Cabinet (Eitem 10)
10 GWAREDU FFERM PERONNE, FFORDD COPPY, DINBYCH
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y
Cabinet i ddatgan nad oes angen Fferm Peronne ar y Cyngor bellach a chymeradwyo
ei gwaredu.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 3 , View reasons restricted (10/2)
- Restricted enclosure 4 , View reasons restricted (10/3)
- Restricted enclosure 5 , View reasons restricted (10/4)
- Restricted enclosure 6 , View reasons restricted (10/5)
- Webcast for GWAREDU FFERM PERONNE, FFORDD COPPY, DINBYCH
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –
(a) cymeradwyo datgan nad oes angen Fferm
Peronne, sydd ag amlinell goch ar y cynllun yn Atodiad A yr adroddiad, a
chymeradwyo cael gwared â’r fferm fel y nodir yn yr adroddiad, a
(b) chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac
ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad D yr adroddiad) fel rhan o’i
ystyriaethau.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad
cyfrinachol yn gofyn am sêl bendith y Cabinet i ddatgan bod Peronne Farm yn
warged i ofynion y Cyngor ac i gymeradwyo cael gwared arni fel y nodir yn yr
adroddiad yn unol â'r polisi presennol.
Dywedwyd wrth y Cabinet bod yr eiddo'n rhan o'r
Ystâd Amaethyddol a darparwyd manylion ei drefniadau gweithredu presennol
ynghyd â'r cytundebau tenantiaeth sydd ar waith a'r telerau gwaredu
arfaethedig. Fel rhan o'r broses
cysylltwyd ag aelodau ward lleol a'r cyngor cymuned lleol ac ni dderbyniwyd
unrhyw wrthwynebiadau i'r gwarediad.
Roedd y Grŵp Rheoli Asedau hefyd yn cefnogi'r gwarediad fel y
nodwyd ac yr argymhellwyd i'r cyngor.
Wrth ystyried yr adroddiad nododd y Cabinet y
byddai cyfran o elw net y gwerthiant yn cael ei ddefnyddio i ariannu gwariant
cyfalaf cyfredol a fyddai'n lleihau costau benthyca'r Cyngor ac yn caniatáu
rhyddhau cyllid o'r gyllideb ariannu cyfalaf i ariannu'r pwysau parhaus a
grëwyd gan y gwarediad, a oedd yn dal i adael derbyniad cyfalaf sylweddol. O ran darparu manylion y derbyniadau cyfalaf
a gynhyrchwyd a'u defnydd, gellid cynnwys y wybodaeth hon yn y Strategaeth
Gyfalaf yn y dyfodol. Byddai'r Cabinet
yn trafod y Cynllun Cyfalaf yn ei gyfarfod nesaf.
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –
(a) cymeradwyo datgan nad oes angen Fferm
Peronne, sydd ag amlinell goch ar y cynllun yn Atodiad A yr adroddiad, a
chymeradwyo cael gwared â’r fferm fel y nodir yn yr adroddiad, a
(b) chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac
ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad D yr adroddiad) fel rhan o’i
ystyriaethau.
Daeth y cyfarfod i ben am 12.25pm.