Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

WELSH GOVERNMENT CONSULTATION ON "FAIRER COUNCIL TAX"

Cyfarfod: 23/01/2024 - Cabinet (Eitem 7)

7 YMGYNGHORIAD LLYWODRAETH CYMRU AR “DRETH GYNGOR DECACH” pdf eicon PDF 239 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer yr ymateb arfaethedig i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar “Dreth Gyngor Decach”.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      cymeradwyo’r ymateb arfaethedig i’r ymgynghoriad fel y nodir yn Atodiad 4 yr adroddiad, a chefnogi argymhellion swyddogion ynglŷn â’r cynnig ehangach a’i gyflawni drwy ddull cynyddrannol, a

 

(b)      gweithredu’r penderfyniad ar unwaith fel penderfyniad brys dan Adran 7.25 Cyfansoddiad y Cyngor yn seiliedig ar y rhesymeg a nodir ym mharagraff 4.4 yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i’r ymateb arfaethedig i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar “Dreth Gyngor Decach”.

 

Roedd Llywodraeth Cymru (LlC) wedi cychwyn ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i system Treth y Cyngor gyda’r nod o wneud dosbarthu trethi’n decach drwy ostwng Treth y Cyngor i’r rhai yn y bandiau is a allai gael trafferth cyfrannu tra’n ei chynyddu ar gyfer y rhai yn y bandiau uwch.  Gofynnwyd am farn ar dri opsiwn: (1) Diwygio ar Raddfa Fach; (2) Diwygio ar Raddfa Gymedrol, a (3) Diwygio Ehangach ynghyd ag amserlenni gweithredu.

 

Arweiniodd y Prif Reolwr Refeniw, Budd-daliadau a Chontractau'r Cabinet drwy fanylion yr adroddiad ar yr ymgynghoriad ynghyd â'r rhesymeg y tu ôl i'r ymateb arfaethedig a'r risg, y materion a'r manteision i'r Cyngor a'i drigolion.  Ar ôl rhoi trosolwg o'r tri opsiwn, argymhellwyd bod y Cabinet yn cefnogi'r Diwygio Ehangach, gan ei fod yn cael ei ystyried fel y ffurf decaf o opsiwn trethiant o fewn yr ymgynghoriad ar gyfer trigolion.Mae’r risg bosibl i’r Cyngor drwy ddibynnu mwy ar gyllid Grant Cynnal Refeniw wedi cael ei amlygu yn yr ymateb arfaethedig a gofynnwyd i Lywodraeth Cymru roi mwy o sicrwydd ar effeithiau cyfatebol y Grant Cynnal Refeniw.  Er mwyn sicrhau bod unrhyw effeithiau’n cael eu deall yn llawn a’u bod yn cael eu rhoi ar waith ar gyflymder y gellir ei reoli gan y cyngor, cynigwyd cefnogi’r dull fesul cam.  Argymhellwyd hefyd bod penderfyniad y Cabinet ar yr ymateb arfaethedig i’r ymgynghoriad yn cael ei weithredu ar unwaith er mwyn sicrhau bod yr ymateb yn cael ei gyflwyno erbyn y dyddiad cau.

 

Croesawodd y Cabinet y newidiadau arfaethedig i system Treth y Cyngor i wneud y dreth yn decach ac yn fwy blaengar a chefnogodd argymhellion yr adroddiad a'r opsiwn Diwygio Ehangach a fyddai o'r budd gorau i drigolion Sir Ddinbych.  Fodd bynnag, roedd y posibilrwydd o dynnu £8 miliwn o sylfaen treth y cyngor o ganlyniad i symud i’r strwythur bandiau newydd yn y cynllun estynedig a’r ddibyniaeth ddilynol ar y golled honno’n cael ei digolledu gan y Grant Cynnal Refeniw yn achos pryder a thynnodd y Cabinet sylw at bwysigrwydd setliad Grant Cynnal Refeniw teg a chymesur i alluogi'r awdurdod i ddarparu gwasanaethau i drigolion.   Eglurodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio weithrediad y system bresennol o ddyrannu'r Grant Cynnal Refeniw ar sail gallu awdurdodau lleol i godi Treth y Cyngor a pharhad yr egwyddor honno i'r dyfodol ond byddai angen rhagor o fanylion er mwyn deall yn well oblygiadau llawn y newid hwnnw, a dyna pam y ceisir sicrwydd gan Lywodraeth Cymru yn yr ymateb i'r ymgynghoriad.   Ychwanegodd y Cynghorydd Gill German ei bod yn bwysig i bob awdurdod lleol ymateb i’r ymgynghoriad er mwyn cydweithio â Llywodraeth Cymru i ddod o hyd i’r ffordd orau ymlaen.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      cymeradwyo’r ymateb arfaethedig i’r ymgynghoriad fel y nodir yn Atodiad 4 yr adroddiad, a chefnogi argymhellion swyddogion ynglŷn â’r cynnig ehangach a’i gyflawni drwy ddull fesul cam, a

 

(b)      gweithredu’r penderfyniad ar unwaith fel penderfyniad brys dan Adran 7.25 Cyfansoddiad y Cyngor yn seiliedig ar y rhesymeg a nodir ym mharagraff 4.4 yr adroddiad.