Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

BUDGET 2024/25 - FINAL PROPOSALS

Cyfarfod: 23/01/2024 - Cabinet (Eitem 6)

6 CYLLIDEB Y CYNGOR 2024/25 pdf eicon PDF 275 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn nodi goblygiadau Setliad Drafft Llywodraeth Leol 2024/25 a chynigion i osod cyllideb gytbwys ar gyfer 2024/25.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

(a)      yn nodi effaith y Setliad Dros Dro ar gyfer 2024/25;

 

(b)      cefnogi’r cynigion a amlinellir yn Atodiad 1 yr adroddiad, ac y manylir arnynt yn Adran 4 yr adroddiad, ac yn eu hargymell i’r Cyngor llawn er mwyn llunio’r gyllideb yn derfynol ar gyfer 2024/25;

 

(c)      argymell i’r Cyngor y cynnydd cyfartalog o 8.23% yn Nhreth y Cyngor ar gyfer gwasanaethau’r Cyngor ynghyd ag 1.11% yn ychwanegol ar gyfer y cynnydd yn yr ardoll i Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru; mae hyn yn hafal i gynnydd cyffredinol o 9.34% a gynigir;

 

(d)      argymell i’r Cyngor bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i Bennaeth Cyllid ac Archwilio mewn ymgynghoriad ag Aelod Arweiniol Cyllid i addasu’r defnydd o arian wrth gefn sydd wedi’i gynnwys yng nghynigion y gyllideb o hyd at £500,000 os oes yna symud rhwng ffigyrau’r setliad drafft a’r setliad terfynol er mwyn gallu gosod Treth y Cyngor yn amserol;

 

(e)      cefnogi’r strategaeth i ddefnyddio arian wrth gefn fel y nodir ym mharagraff 4.5 yr adroddiad a’i hargymell i’r Cyngor llawn; a

 

(f)       chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les fel y nodir yn Adran 7 yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad yn nodi goblygiadau Setliad Ariannol Dros Dro Llywodraeth Cymru ar gyfer Llywodraeth Leol 2024/25 a chynigion i osod cyllideb gytbwys ar gyfer 2024/25, gan gynnwys lefel Treth y Cyngor.

 

Roedd yr heriau ariannol digynsail a oedd yn wynebu’r cyngor, ynghyd â’r holl awdurdodau lleol eraill, yn golygu bod angen proses wahanol i bennu’r gyllideb ac roedd wedi bod yn broses hynod o anodd ac anghyfforddus.   Diolchodd y Cynghorydd Ellis i bawb a gymerodd ran yn y broses honno a oedd wedi arwain at gyflwyno cyllideb gytbwys.

 

Darparodd y Cynghorydd Ellis a’r Pennaeth Cyllid ac Archwilio drosolwg o broses y gyllideb a’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf ac ymhelaethodd ar y cynigion i’w hystyried a’u hargymell i’r Cyngor llawn er mwyn gosod y gyllideb ar gyfer 2024/25.   Yn gryno, roedd y setliad dros dro wedi arwain at gynnydd arian parod o 3.6% (£6.720m) ac yn dilyn addasiad sylfaen treth y cyngor roedd yn uwch na’r gymhariaeth arian parod ar 3.7% (o gymharu â chyfartaledd Cymru o 3.1%) gyda’r setliad terfynolyn cael ei ddisgwyl yn gynnar ym mis Mawrth.  Roedd y setliad yn cynnwys pob cynnydd mewn cyflogau i athrawon a swyddi nad ydynt yn rhai addysgu a chyfrifoldeb i dalu Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal.   Rhoddwyd manylion am bwysau gwerth £24.682 miliwn ac roedd y setliad dros dro yn cynhyrchu £6.720 miliwn gan adael bwlch cyllido gwerth £17.962 miliwn gyda chynigion i gau’r bwlch hwnnw wedi eu nodi yn yr adroddiad a’u hegluro ymhellach yn y cyfarfod.  Cynigiwyd codiad Treth y Cyngor o 8.23% ynghyd ag 1.11% ychwanegol (newid i'r ffigwr dangosol o 1.3% yn yr adroddiad) ar gyfer y cynnydd yn yr ardoll i Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru sy'n cyfateb i godiad cyffredinol o 9.34% i gynhyrchu £7.580 miliwn o refeniw ychwanegol.  Tynnwyd sylw hefyd at y defnydd arfaethedig o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd i gynorthwyo gyda gosod y gyllideb.  Roedd y risgiau o beidio â chyflawni cyllideb gytbwys hefyd wedi'u nodi ynghyd â mesurau lliniaru a gwaith pellach sydd ei angen yn y dyfodol.   Roedd y rhagolygon ariannol tymor canolig yn edrych yr un mor heriol.   Gan fod y setliad terfynol yn hwyr, argymhellwyd bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo er mwyn galluogi addasiadau arian parod yng nghynigion y gyllideb hyd at £500,000.   Roedd yn bwysig nodi pe na bai cynigion yn yr adroddiad yn cael eu derbyn, bod yn rhaid cyflwyno cynigion amgen er mwyn  cyflawni cyfrifoldeb statudol y Cyngor i osod cyllideb gytbwys. 

 

Yn ystod y drafodaeth condemniodd y Cabinet y sefyllfa ariannol sy'n wynebu llywodraeth leol a oedd yn golygu bod yn rhaid gwneud toriadau difrifol i wasanaethau hanfodol er mwyn pennu cyllideb gytbwys a galwyd am gyllid gwell a chynaliadwy i ddarparu'r gwasanaethau hynny.   Nodwyd bod galwadau diweddar wedi’u gwneud gan Aelodau Seneddol ar draws y sbectrwm gwleidyddol i Lywodraeth y DU ddarparu cyllid ychwanegol i lywodraeth leol.   O ystyried y cyd-destun ariannol presennol, roedd y Cabinet yn credu bod cynigion y gyllideb yn cynrychioli’r canlyniad gorau i sicrhau bod gwasanaethau gofal cymdeithasol a dysgwyr ysgol yn cael eu hamddiffyn cyn belled ag y bo modd ac i ddiogelu'r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas.

 

Croesawodd y Cabinet y setliad uwch na’r disgwyl gan Lywodraeth Cymru ond nododd ei fod yn seiliedig ar ddata a fyddai’n arwain at alw uwch am wasanaethau ac nad oedd yn newid y sefyllfa gyllidebol yn sylweddol o ystyried y byddai darparu gwasanaethau yn 2024/25 yn costio £24.682 miliwn ychwanegol o gymharu â 2023/24, yn bennaf oherwydd pwysau chwyddiant a chynnydd mawr yn y galw gan wasanaethau cleientiaid.  Cydnabuwyd y  ...  view the full Cofnodion text for item 6