Mater - cyfarfodydd
ADRODDIAD CYLLID
Cyfarfod: 23/01/2024 - Cabinet (Eitem 8)
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad
ac Asedau Strategol (copi ynghlwm), ynglŷn â'r sefyllfa ariannol
ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y
gyllideb.
Dogfennau ychwanegol:
- FINANCE REPORT - App 1 Revenue Budget Summary, Eitem 8 PDF 76 KB
- FINANCE REPORT - App 2 Service Variance Narrative, Eitem 8 PDF 107 KB
- FINANCE REPORT - App 3 Capital Plan Summary, Eitem 8 PDF 88 KB
- FINANCE REPORT - App 4 Major Projects Update, Eitem 8 PDF 101 KB
- Webcast for ADRODDIAD CYLLID
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2023/24 a’r cynnydd
yn ôl y strategaeth y cytunwyd arni.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad
a oedd yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y
strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.
Rhoddwyd crynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel
a ganlyn –
·
y gyllideb refeniw net ar
gyfer 2023/24 oedd £250.793 miliwn (£233.696 miliwn yn 2022/23)
·
rhagwelwyd y byddai
gorwariant o £3.229 miliwn mewn cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol
·
amlygwyd y risgiau ar hyn o
bryd a’r rhagdybiaethau yn ymwneud â chyllidebau corfforaethol a meysydd
gwasanaeth unigol
·
rhoddwyd manylion arbedion
ac arbedion effeithlonrwydd a chynnydd mewn ffioedd a chostau (£8.172 miliwn)
·
rhoddwyd diweddariad
cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, Rheoli’r Trysorlys a’r Cynllun Cyfalaf a
phrosiectau mawr.
Arweiniodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio yr
Aelodau drwy’r adroddiad. Bu gostyngiad
bychan yn y gorwariant a ragwelwyd ar gyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol o
£96k o gymharu â’r mis blaenorol ac roedd y prif feysydd gorwariant yn parhau i
fod oherwydd pwysau ym meysydd Gofal Cymdeithasol Oedolion a Digartrefedd,
Addysg a Gwasanaethau Plant a Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol. Bu cynnydd yn y Gwasanaethau Addysg a Phlant
oherwydd bod anghenion dau leoliad presennol yn cynyddu gan arwain at symudiad
negyddol o £480k a oedd wedi’i wrthbwyso gan wasanaethau’n canfod arbedion yn
ystod y flwyddyn drwy roi’r gorau i wariant nad oedd yn hanfodol ac oedi
gwariant lle bo modd. Roedd y Cyfrif
Refeniw Tai wedi nodi gostyngiad bychan yn eu tanwariant o £122k i £108k oherwydd
gostyngiad bychan mewn incwm rhent gyda rhagolygon o falans diwedd blwyddyn o
£754k. Nid oedd unrhyw newid yn y
defnydd a ragwelwyd o gronfeydd wrth gefn ar gyfer ysgolion. Roedd yr atodiadau arferol wedi’u cynnwys ar
y Cynllun Cyfalaf a Phrosiectau Mawr.
Diolchodd yr Arweinydd i'r Aelod Arweiniol a'r
Pennaeth Gwasanaeth am eu gwaith caled parhaus ac ailadroddodd bwysigrwydd yr
adroddiadau monitro rheolaidd.
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2023/24 a’r cynnydd
yn ôl y strategaeth y cytunwyd arni.