Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

ANNUAL TREASURY MANAGEMENT REPORT 2022/23

Cyfarfod: 19/09/2023 - Cabinet (Eitem 9)

9 ADRODDIAD BLYNYDDOL RHEOLI’R TRYSORLYS 2022/23 pdf eicon PDF 209 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet ynglŷn â pherfformiad y swyddogaeth rheoli’r trysorlys ac i ddangos cydymffurfiaeth â chyfyngiadau'r trysorlys a’r Dangosyddion Darbodus yn ystod 2022/23.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      nodi perfformiad swyddogaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor yn ystod 2022/23 a’i chydymffurfiaeth â’r Dangosyddion Darbodus gofynnol, fel yr adroddwyd yn Adroddiad Rheoli Trysorlys Blynyddol 2022/23 (Atodiad 1 yr adroddiad), a

 

(b)      chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio yr adroddiad a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet am berfformiad dull rheoli’r trysorlys ac i ddangos cydymffurfiaeth â therfynau’r trysorlys a’r Dangosyddion Darbodus yn 2022/23.

 

Amlygodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio’r prif  bwyntiau o ran benthyca a gweithgarwch buddsoddi.  Bu nifer o fenthyciadau’n aeddfedu a £30 miliwn o fenthyca newydd. Byddai’r swm hwnnw’n cynyddu’n sylweddol yn y flwyddyn ddilynol wrth fenthyca ar ran Llywodraeth Cymru a fyddai’n ariannu’r ad-daliadau ar gyfer y cynlluniau amddiffyn yr arfordir.  Roedd gweithgarwch buddsoddi i gyd yn weithgarwch tymor byr ac roedd yn ymwneud ag arian parod yn aros i gael ei wario, a oedd yn cael ei fenthyca yn syth cyn yr oedd ei angen.  Eglurwyd dangosyddion darbodus a nodwyd yn Atodiad B wrth Aelodau, gan gadarnhau cymarebau priodol o ran costau ariannu a lefelau benthyca o fewn terfynau.  Roedd cymhareb costau ariannu i ffrwd refeniw net ychydig yn is na 7% a fyddai’n debygol o newid yn y dyfodol o ystyried ymrwymiadau benthyca’r Cyngor yn y dyfodol, a’r lefel isel ddisgwyliedig o ran setliadau wrth symud ymlaen.

 

Nododd y Cabinet fod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn monitro’r swyddogaeth rheoli’r trysorlys a’u bod wedi craffu ar yr adroddiad.  Rhoddodd y Pennaeth Cyllid grynodeb o’r materion a godwyd yn ystod y drafodaeth honno.  Soniodd hefyd am sesiwn hyfforddiant yn yr hydref a oedd wedi’i hanelu’n benodol at y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar reoli’r trysorlys, ond anogwyd pob Aelod i fynychu.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      nodi perfformiad swyddogaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor yn ystod 2022/23 a’i chydymffurfiaeth â’r Dangosyddion Darbodus gofynnol, fel yr adroddwyd yn Adroddiad Rheoli Trysorlys Blynyddol 2022/23 (Atodiad 1 yr adroddiad), a

 

(b)      chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.