Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

DENBIGHSHIRE PROCUREMENT STRATEGY

Cyfarfod: 19/09/2023 - Cabinet (Eitem 8)

8 STRATEGAETH GAFFAEL SIR DDINBYCH pdf eicon PDF 215 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julie Matthews, Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol (copi yn amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet o Strategaeth Gaffael Sir Ddinbych sydd wedi'i diweddaru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau, a

 

(b)      chymeradwyo’r Strategaeth Gaffael ddiweddaraf (Atodiad 1 yr adroddiad) sy’n cefnogi blaenoriaethau a nodau lles Sir Ddinbych, a’i rôl ym mharatoadau Sir Ddinbych ar gyfer y newidiadau i reoliadau caffael cyhoeddus sydd ar y gweill.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julie Matthews yr adroddiad i ofyn i’r Cabinet gymeradwyo Strategaeth Gaffael Sir Ddinbych wedi’i diweddaru.

 

Roedd yr adroddiad yn cyflwyno Strategaeth Gaffael newydd ac wedi’i diweddaru Sir Ddinbych a oedd ei hangen er mwyn adlewyrchu a chefnogi’r blaenoriaethau corfforaethol a nodau lles presennol, ac alinio â Bil Caffael Llywodraeth y DU a Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) a oedd ar y gweill.  Roedd y ddeddfwriaeth newydd yn ceisio sicrhau gwerth am arian a chaffael cymdeithasol gyfrifol ac roedd cyfleoedd i gefnogi blaenoriaethau corfforaethol y Cyngor hefyd.

 

Roedd y Strategaeth yn cynnwys tri chanlyniad penodol i’r Cyngor, sef –

 

·       gwella’r cyfraniad yr oedd ei weithgarwch caffael yn ei wneud i’r economi leol

·       gweithio mewn partneriaeth â’i gadwyn gyflenwi i gyflawni lleihad o 35% o ran allyriadau carbon er mwyn cyfrannu at y nod o gael sector cyhoeddus net sero erbyn 2030

·       sicrhau gwerth am arian o’r nwyddau a’r gwasanaethau yr oedd yn eu caffael

 

Amlygodd Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd Dros Dro a’r Rheolwr Caffael Cydweithredol a Fframwaith feysydd allweddol y Strategaeth.

 

Roedd y Cabinet yn croesawu’r Strategaeth a’r cyfleoedd cadarnhaol yr oedd yn eu cynnig, yn enwedig o ran busnesau lleol a chynyddu gwariant lleol, ymgysylltu â phartneriaethau cymdeithasol, lleihau allyriadau carbon, mynd i’r afael â’r agenda lles a gweithio gyda phartneriaid rhanbarthol.  Gan ystyried cyfoeth y newidiadau, roedd yr Arweinydd yn annog hyfforddiant ac ymgysylltu gan Aelodau.  Cytunodd y swyddogion y gellid trefnu Gweithdy i Aelodau, a fyddai’n arbennig o ddefnyddiol i’r Cabinet o ystyried eu cyfrifoldebau dros ddyfarnu contractau, er mwyn deall y gofynion newydd yn well.

 

Trafododd y Cabinet amryw agweddau’r Strategaeth gyda swyddogion, a soniodd fwy am fanteision caffael lleol a mentrau fel digwyddiad “Cwrdd â’r Prynwr” er mwyn ymgysylltu â busnesau lleol i adeiladu capasiti a hyder yn y farchnad leol a sicrhau eu bod yn y sefyllfa orau i wneud cais am gontractau a’u hennill.  Yn ogystal, roedd y ddeddfwriaeth newydd yn darparu gweithdrefn hyblyg a fyddai’n galluogi’r Cyngor i gefnogi’r gadwyn gyflenwi leol a sicrhau ei bod yn rhoi cyflenwyr lleol yn y sefyllfa orau bosibl i wneud cais.  Roedd y Cabinet yn falch o nodi y byddai’r Strategaeth yn cefnogi nifer o themâu yn y Cynllun Corfforaethol hefyd, gan gynnwys Sir Ddinbych ffyniannus, Sir Ddinbych mwy gwyrdd, a Chyngor sy'n cael ei gynnal yn dda, ac sy’n uchel ei berfformiad.  Roedd y Cynghorydd Gill German yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi arwain ar y broses hon gyda Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Lleol (Cymru).

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau, a

 

(b)      chymeradwyo’r Strategaeth Gaffael ddiweddaraf (Atodiad 1 yr adroddiad) sy’n cefnogi blaenoriaethau a nodau lles Sir Ddinbych, a’i rôl ym mharatoadau Sir Ddinbych ar gyfer y newidiadau i reoliadau caffael cyhoeddus sydd ar y gweill.