Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

NORTH WALES REGIONAL PARTNERSHIP BOARD 10 YEAR STRATEGIC CAPITAL PLAN DRAFT

Cyfarfod: 19/09/2023 - Cabinet (Eitem 7)

7 BWRDD PARTNERIAETH RHANBARTHOL GOGLEDD CYMRU - FERSIWN DDRAFFT O GYNLLUN CYFALAF STRATEGOL 10 MLYNEDD pdf eicon PDF 232 KB

Ystyried adroddiad ar y cyd gan Gynghorwyr Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gill German, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd (copi yn amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer Cynllun Cyfalaf Strategol 10 Mlynedd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru a blaenoriaethau cyfalaf Sir Ddinbych i wella iechyd a gofal cymdeithasol integredig.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo’r Cynllun Cyfalaf Strategol 10 Mlynedd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru a chytuno gyda blaenoriaethau cyfalaf Sir Ddinbych ar gyfer gwella iechyd a gofal cymdeithasol integredig i ddiwallu anghenion y dyfodol.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Elen Heaton yr adroddiad i ofyn i’r Cabinet gymeradwyo Cynllun Cyfalaf Strategol 10 Mlynedd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru a blaenoriaethau cyfalaf Sir Ddinbych ar gyfer gwella iechyd a gofal cymdeithasol integredig.

 

Darparwyd rhywfaint o gefndir i sefydlu’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, â’r nod o hwyluso cydweithio er mwyn gwella iechyd a gofal cymdeithasol ar draws y rhanbarth.  Roedd Llywodraeth Cymru wedi’i gwneud yn ofynnol i bob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ddatblygu a gweithredu cynlluniau cyfalaf strategol er mwyn adlewyrchu’r olwg 10 mlynedd o anghenion buddsoddi cyfalaf yn y rhanbarth.  Roedd pob un o’r chwe awdurdod lleol wedi cyflwyno eu blaenoriaethau cyfalaf o ran prosiectau iechyd a gofal cymdeithasol integredig i greu un strategaeth ranbarthol.  Roedd prosiectau Sir Ddinbych yn cynnwys Ysbyty Brenhinol Alexandra, Rhaglen Iechyd a Gofal Cymdeithasol Dinbych, a Gerddi Glasfryn, Dinbych.  Roedd y Cynllun yn ddogfen fyw a fyddai’n cael ei hadolygu a’i diweddaru o leiaf bob blwyddyn ac roedd yn caniatáu i brosiectau’r dyfodol gael eu hychwanegu at y rhestr flaenoriaeth cyfalaf dros y 10 mlynedd nesaf.

 

Cywirodd y Cynghorydd Heaton anghywirdeb a gafodd ei adrodd yn y wasg o ran cyllid ar gyfer Ysbyty Brenhinol Alexandra a drafodwyd yn y Pwyllgor Craffu Partneriaethau.  Nid oedd elfen bartneriaeth y cyllid, sef tua 20% o gyfanswm y cyllid gofynnol, wedi’i sicrhau.  Roedd y ffurflenni angenrheidiol ar gyfer gwaith cwmpasu dechreuol a dichonoldeb y prosiect wedi’u cymeradwyo’n ddiweddar, a rhannwyd y newyddion da gyda’r Pwyllgor Craffu.  Roedd y cam nesaf yn cynnwys cymeradwyaeth leol i’r ffurflenni angenrheidiol, a phe bai’r Cabinet yn cymeradwyo’r argymhellion, byddai’r blaenoriaethau hynny’n cael eu cyflwyno i’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i’w cymeradwyo a’u cynnwys yn y Cynllun Cyfalaf Rhanbarthol.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo Cynllun Cyfalaf Strategol 10 Mlynedd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru a chytuno gyda blaenoriaethau cyfalaf Sir Ddinbych ar gyfer gwella iechyd a gofal cymdeithasol integredig i ddiwallu anghenion y dyfodol.