Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

YSGOL PLAS BRONDYFFRYN PROJECT - PROPOSED NEW BUILD OF SCHOOL

Cyfarfod: 19/09/2023 - Cabinet (Eitem 6)

6 YSGOL PLAS BRONDYFFRYN – PROSIECT ARFAETHEDIG I ADEILADU YSGOL NEWYDD pdf eicon PDF 245 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gill German, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd, (copi amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth Cabinet ar gyfer safle a ffafrir i ddatblygu prosiect adeilad newydd ar gyfer Ysgol Plas Brondyffryn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD, trwy bleidlais fwyafrifol, bod y Cabinet yn –

 

(a)      cymeradwyo’r safle a ffefrir ar gyfer adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Plas Brondyffryn ar safle Ffordd Ystrad, a ddangosir fel safle A ar y cynllun atodedig yn Atodiad 2 yr adroddiad a chytuno i gefnogi symud ymlaen trwy gyflwyno cais cynllunio;

 

(b)      cytuno bod yn rhaid i’r cais cynllunio ddangos yn glir y bydd darpariaeth awyr agored amgen o fudd cymunedol cyfwerth neu fwy yn cael ei hadeiladu yn lle’r gofod hamdden a gollir drwy ddatblygu ar gae chwarae’r ysgol, a

 

(d)      chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les, yn Atodiad 3 yr adroddiad, fel rhan o’i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gill German yr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer safle Ffordd Ystrad (Safle A) fel y safle a ffefrir ar gyfer datblygu’r adeilad newydd ar gyfer Ysgol Plas Brondyffryn ac ar gyfer cyflwyno cais cynllunio ffurfiol.

 

Roedd y prosiect yn rhan o Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru (Band B) a gymeradwywyd ym mis Medi 2020.  Roedd yr ysgol yn cynnig darpariaeth arbenigol i ddisgyblion rhwng 3 a 19 oed ag awtistiaeth a’r cynnig oedd dod â 3 o’r 4 safle presennol at ei gilydd mewn adeilad pwrpasol a chynyddu capasiti i fodloni galw.

 

Darparwyd rhywfaint o gefndir i’r prosiect gan gynnwys gwaith dichonoldeb ar y cynigion am adeilad newydd ac ymgynghoriad â budd-ddeiliaid am safle Ffordd Ystrad (Safle A).  Roedd y prif broblemau a godwyd o’r ymgynghoriad cynllunio anffurfiol yn ymwneud â dewis safle, colli cyfleusterau chwaraeon a mynediad priffyrdd, a darparwyd ymatebion/camau lliniaru ar gyfer y materion hynny.  Wrth gefnogi’r angen am gyfleusterau gwell, roedd gan Grŵp Ardal Aelodau Dinbych bryderon dros Safle A a gofynnwyd i swyddogion adolygu’r pryderon hynny ac asesu safleoedd a lleoliadau amgen.  Gwnaed gwaith dichonoldeb ar safle arall (Safle B) a darparwyd cyngor cwnsler cyfreithiol am y risgiau i’r Cyngor o safbwynt polisi cynllunio.  Ni allai’r Aelod Arweiniol na’r swyddogion gefnogi symud ymlaen â Safle B oherwydd bod cyfyngiadau cynllunio sylweddol i’w goresgyn y tu hwnt i’r rhai ar Safle A, ac o safbwynt addysgol, o ystyried yr effaith ar gynlluniau datblygu yn y dyfodol ar gyfer Ysgol Uwchradd Dinbych. Fodd bynnag, Safle B oedd y dewis a ffefrir gan Grŵp Ardal Aelodau Dinbych. 

 

Amlygodd y Cynghorydd German fesurau lliniaru i fynd i’r afael â phryderon dros Safle A. Tynnodd sylw at yr Asesiad o Effaith ar Les a derbyniodd yr effaith negyddol gyffredinol ar gymunedau cydlynol a phreswylwyr Dinbych a’r angen am fesurau lliniaru ychwanegol i fynd i’r afael â’r holl faterion a godwyd.  Roedd y Cynghorydd Martyn Hogg wedi sôn am effaith gymunedol y tu allan i’r cyfarfod ac roedd sicrwydd wedi’i ddarparu y byddai’n parhau fel mater byw. Byddai gwaith yn cael ei wneud i nodi cyfleoedd a chynyddu manteision mannau agored eraill yn y dref, yn ogystal â disodli’r cyfleusterau chwaraeon.  Yn gyffredinol, roedd hwn yn ganlyniad cadarnhaol net ar gyfer y cynnig gyda buddiolwyr ar draws Sir Ddinbych.

 

Wrth gloi, cadarnhaodd y Cynghorydd German ei bod wedi bod yn broses hir ac roedd hi wedi’i siomi nad oedd canlyniad wedi’i sicrhau a oedd wrth fodd pawb ond diolchodd i bawb a fu’n rhan o’r broses am eu gwaith caled a’u gwedduster.  O ganlyniad, argymhellodd ddatblygu â safle Ffordd Ystrad (Safle A) ar gyfer yr adeilad newydd.

 

Mynegodd y Cynghorydd Rhys Thomas bryderon nad oedd y broses ymgysylltu ac ymgynghori, fel a nodir yn y Cod Trefniadaeth Ysgolion, wedi’i dilyn yn briodol, a dangosodd hyn trwy dynnu sylw at ddogfennau gan fudd-ddeiliaid allweddol, gan gynnwys Ysgol Uwchradd Dinbych a Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig, hysbysiad o fwriad y Cyngor i wneud cais am ganiatâd cynllunio ar Safle A tua deuddeg mis o flaen llaw, argraff arlunydd o safle’r ysgol tua chwe mis cyn hynny, a’r ffaith nad oedd Grŵp Ardal Aelodau Dinbych wedi’i gynnwys mewn cyfarfod safle gyda datblygwyr.  Ychwanegodd y Cynghorydd Emrys Wynne ei bod yn debyg bod cyfres o fethiannau wedi bod dros gyfnod hwy na deunaw mis a gofynnodd a oedd tystiolaeth fod Corff Llywodraethu Ysgol Uwchradd Dinbych wedi mynegi barn.  Gofynnodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis am ragor o eglurder hefyd am faterion a godwyd gan y Cynghorydd Martyn Hogg (yr oedd wedi’u hanfon dros  ...  view the full Cofnodion text for item 6