Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

RHYL BUSINESS IMPROVEMENT DISTRICT (BID) BALLOT

Cyfarfod: 19/09/2023 - Cabinet (Eitem 5)

5 AIL BLEIDLAIS ARDAL GWELLA BUSNES (AGB) Y RHYL pdf eicon PDF 303 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd (copi yn amgaeedig) ar gynigion ar gyfer ail dymor Ardal Gwella Busnes y Rhyl.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      nodi cynnwys Cynllun Busnes yr AGB (Atodiad 1 yr adroddiad) ac yn cefnogi’r argymhelliad nad oes unrhyw sail i roi feto ar y cynigion o dan Ddeddfwriaeth AGB Cymru (2005) (gweler paragraffau 4.8 a 4.9 yr adroddiad);

 

(b)      awdurdodi swyddogion i gyflawni unrhyw gytundebau cyfreithiol angenrheidiol ar gyfer gweithredu Ardoll yr AGB, trefniadau gwasanaeth a’r bleidlais ac unrhyw faterion angenrheidiol eraill ar gyfer yr AGB arfaethedig;

 

(c)      cadarnhau y bydd CSDd yn defnyddio un o’i bleidleisiau ym mhleidlais AGB o blaid yr AGB, a

 

(d)      chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad II yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jason McLellan adroddiad ar gynigion am ail dymor 5 mlynedd ar gyfer Ardal Gwella Busnes (AGB) y Rhyl a threfniadau cysylltiedig.

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: yr Economi a’r Amgylchedd yr adroddiad a oedd yn egluro cefndir sefydlu AGB y Rhyl ym mis Tachwedd 2018 ynghyd â’r broses o ddatblygu’r AGB a’r agweddau cyfreithiol yn hynny o beth.  Roedd y tymor 5 mlynedd cyntaf yn dod i ben ac roedd angen pleidlais newydd pe bai’r AGB am barhau.  Roedd Cyfarwyddwr Corfforaethol: yr Economi a’r Amgylchedd yn Gyfarwyddwr AGB y Rhyl gan gynrychioli’r Cyngor.  Gofynnwyd i’r Cabinet ystyried y canlynol –

 

·       a oedd yn cytuno ag argymhelliad y swyddog, sef nad oedd sail i roi feto ar gynnig yr AGB.  Gallai'r Cyngor roi feto ar gynnig yr AGB pe bai’n gwrthdaro ag unrhyw bolisi corfforaethol CSDd neu yn gosod baich ariannol sylweddol anghymesur ar unrhyw unigolyn neu ddosbarth o unigolion.  Ar ôl adolygu’r Cynllun Busnes newydd (ynghlwm i’r adroddiad), roedd swyddogion o’r farn nad oedd yr un o’r darpariaethau’n berthnasol, a

 

·       sut ddylai’r Cyngor (CSDd) ddefnyddio ei bleidleisiau yn y bleidlais.  Roedd y Cyngor yn berchen ar nifer o eiddo yn ardal AGB y Rhyl ac roedd yn gymwys i ddefnyddio 20 o bleidleisiau.  Barn y Cyfarwyddwr Corfforaethol oedd y gallai AGB fod yn rym da a chadarnhaol a byddai ail dymor o fudd i waith adfywio parhaus y dref.  Roedd y Cynllun Busnes yn cefnogi thema Sir Ddinbych Ffyniannus yn y Cynllun Corfforaethol ac roedd barn Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r AGB.  Felly, roedd yn gobeithio bod AGB y Rhyl yn parhau y tu hwnt i’r bleidlais am ail dymor ac y byddai’r gymuned fusnes yn cefnogi parhad yr AGB.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol am y gefnogaeth roedd wedi’i darparu trwy gydol y broses.  Diolchodd hefyd i Nadeem Ahmed, Cadeirydd AGB y Rhyl ac Abigail Pilling, Rheolwr AGB y Rhyl, yr oedd wedi cwrdd â nhw’n ddiweddar gyda’r Cynghorydd Barry Mellor, ac am eu presenoldeb yn y Pwyllgor Craffu Partneriaethau, ac roedd yn gwerthfawrogi gwaith y Pwyllgor a’i Gadeirydd wrth graffu ar y cynigion.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod AGB yn rhoi pŵer i fusnesau benderfynu ar welliannau yr oeddent am eu gwneud mewn ardal ddaearyddol a chodi arian i’w darparu.  Roedd yn ffurf leol iawn o ddemocratiaeth.  Er bod CSDd yn fudd-ddeiliad allweddol yn AGB y Rhyl, roedd yn annibynnol i’r Cyngor.  Fodd bynnag, roedd yr AGB wedi’i chael yn anodd cael eu hystyried yn annibynnol o ystyried sylwadau mai dim ond oherwydd bod gan CSDd gyfran anghyfiawn o’r pleidleisiau yr oedd wedi llwyddo.  Roedd o’r farn fod gan yr AGB gefnogaeth busnesau, ond roedd yn anodd dadlau yn erbyn y naratif negyddol oherwydd y nifer isel a bleidleisiodd. Cafodd 99 o’r 463 o bleidleisiau cymwys eu bwrw; enillodd y bleidlais gadarnhaol o 66 pleidlais, ond roedd 36 o’r pleidleisiau hynny wedi’u bwrw gan CSDd. Gellid priodoli amryw resymau i’r nifer isel a bleidleisiodd, ond disgwyliwyd nifer uwch mewn ail bleidlais, a byddai mwy o fusnesau’n gefnogol o ystyried yr hyn a oedd wedi’i ddarparu dros y tymor 5 mlynedd.

 

Cytunodd yr Arweinydd gyda swyddogion nad oedd sail i roi feto ar gynigion yr AGB a gofynnodd i’r Cabinet roi ystyriaeth ofalus i sut i ddefnyddio pleidleisiau CSDd mewn ail bleidlais.  Cyfeiriodd at ymgynghoriadau gyda chraffu ac eraill, gan gynnwys argymhelliad Grŵp Ardal yr Aelodau y Rhyl, sef nad yw CSDd yn arfer ei hawl i bleidleisio yn rownd nesaf yr AGB.  Barn yr Arweinydd oedd fod AGB y Rhyl yn chwarae rôl sylweddol yn adfywiad y dref, ar ôl darparu mentrau cadarnhaol yn y  ...  view the full Cofnodion text for item 5