Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

ADRODDIAD CYLLID

Cyfarfod: 19/09/2023 - Cabinet (Eitem 10)

10 ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 233 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm), ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2023/24 a’r cynnydd yn ôl y strategaeth y cytunwyd arni.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio’r adroddiad a oedd yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Rhoddwyd crynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn –

 

·       y gyllideb refeniw net ar gyfer 2023/24 oedd £250.793 miliwn (£233.696 miliwn yn 2022/23)

·       rhagwelwyd y byddai gorwariant o £3.119 miliwn mewn cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol

·       amlygwyd y risgiau ar hyn o bryd a’r rhagdybiaethau yn ymwneud â chyllidebau corfforaethol a meysydd gwasanaeth unigol

·       rhoddwyd manylion arbedion ac arbedion effeithlonrwydd a chynnydd mewn ffioedd a chostau (£8.172 miliwn)

·       rhoddwyd diweddariad cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, Rheoli’r Trysorlys a’r Cynllun Cyfalaf a phrosiectau mawr.

 

Amlygwyd y cynnydd o ran y gorwariant a ragwelwyd ar gyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol o £2.395 miliwn y mis diwethaf i £3.119 miliwn.  Roedd yr adroddiad yn cynnwys incwm a ragdybir o £700,000 o ran ariannu gwastraff a fyddai angen ei ddileu, oherwydd bod cadarnhad wedi dod ers hynny na fyddai’r cyllid yn dod i law yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol.  Byddai gwariant ar eitemau eraill, fel cludiant ysgol, yn hysbys y mis nesaf, a fyddai’n darparu darlun cliriach yn gyffredinol.  Roedd gwasanaethau yn adolygu eu gwariant a’u hincwm i liniaru effaith gwariant cyffredinol y gyllideb ac roedd camau gweithredu eraill yn cael eu cymryd yn ystod y flwyddyn gan gynnwys arfer mwy o reolaethau dros recriwtio, ac roedd manylion am hyn wedi’u rhannu gyda’r Aelodau i gyd.  Er bod modd defnyddio’r gronfa wrth gefn ar gyfer lliniaru ar y gyllideb i dalu am y gorwariant eleni, byddai hynny ar draul yr adnoddau a fydd ar gael wrth ymateb i wasgfeydd annisgwyl mewn blynyddoedd i ddod.

 

Roedd yr Arweinydd yn ddiolchgar i’r Pennaeth Cyllid ac Archwilio am yr adroddiad a oedd yn amlinellu’r sefyllfa anodd iawn sy’n wynebu’r Cyngor a’r penderfyniadau anodd a oedd i ddod.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2023/24 a’r cynnydd yn ôl y strategaeth y cytunwyd arni.