Mater - cyfarfodydd
Materion Brys
Cyfarfod: 19/09/2023 - Cabinet (Eitem 3)
MATERION BRYS
Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Caniataodd yr Arweinydd gwestiwn mewn perthynas â
fandaliaeth ar yr arwyddion ffordd 20mya a gyflwynwyd yn ddiweddar.
Cofnodion:
Caniataodd yr Arweinydd gwestiwn mewn perthynas â
fandaliaeth ar yr arwyddion ffordd terfyn cyflymder 20mya a gyflwynwyd yn
ddiweddar.
Gofynnodd y Cynghorydd Karen Edwards pwy fyddai’n
gyfrifol am gostau parhaus a oedd yn ymwneud â’r cynllun 20mya, er enghraifft,
arwyddion wedi’u fandaleiddio, cywiro camgymeriadau, ac unrhyw amrywiadau yn y
dyfodol, ai’r Cyngor neu Lywodraeth Cymru fyddai’n gyfrifol?
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: yr Amgylchedd a’r
Economi mai eiddo’r Cyngor oedd yr arwyddion a’r rhagdybiaeth oedd mai’r Cyngor
fyddai’n gyfrifol am unrhyw gostau sy’n ymwneud â fandaliaeth neu ddifrod, yn
yr un modd ag unrhyw ased arall. Roedd y
mater a oedd yn ymwneud ag amrywiadau yn y dyfodol yn wahanol o bosibl a
deallwyd y byddai adolygiad cenedlaethol o’r cynllun a rhywfaint o ganllawiau
diwygiedig o ran eithriadau posibl yn y dyfodol. Pe bai unrhyw newidiadau i’r cynllun fel rhan
o’r canllawiau diwygiedig a’r adolygiad yn y dyfodol, gallai Llywodraeth Cymru
ariannu’r newidiadau hynny, ond byddai angen cadarnhau’r sefyllfa ar y
pryd. Ychwanegodd y Cynghorydd Barry
Mellor y byddai’r adolygiad yn debygol o gael ei gynnal ym mis Mawrth 2024 ac
roedd Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y byddai cyllid ar gael ar gyfer unrhyw
eithriadau eraill a gaiff eu cyflwyno. O
ran fandaleiddio’r arwyddion 20mya, byddai’r Cyngor yn trwsio’r difrod cyn
gynted ag sy’n bosibl, ac roedd yn fater i’r Heddlu.
Diolchodd yr Arweinydd i’r Cynghorydd Edwards am ei
chwestiwn ac anogodd Aelodau i adrodd yn ôl am farn preswylwyr am y terfyn
cyflymder 20mya er mwyn llywio’r adolygiad yn y dyfodol, a byddai Grwpiau Ardal
yr Aelodau yn rhan o’r broses honno hefyd.