Mater - cyfarfodydd
Cofnodion y cyfarfod diwethaf
Cyfarfod: 18/07/2024 - Pwyllgor Craffu Perfformiad (Eitem 4)
4 COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 335 KB
Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 6 Mehefin 2024 (copi ynghlwm).
10.05am – 10.15am
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu
Perfformiad a gynhaliwyd ar 6 Mehefin 2024.
Felly:
Penderfynwyd: cymeradwyo
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 6 Mehefin 2024
fel cofnod gwir a chywir o’r gweithrediadau.
Materion yn codi:
Tudalen 12, ‘Y wybodaeth ddiweddaraf ar y Strategaeth
Ariannol Tymor Canolig a Chynllun ar gyfer 2025/26 i 2027/28 ac Adolygu
Gwytnwch a Chynaliadwyedd Ariannol y Cyngor - Incwm a Ragwelir o Ffioedd
Parcio’: dywedodd y Cydlynydd Craffu fod Prif Swyddog Ariannol y Cyngor wedi
dweud ei bod yn gynnar iawn yn y flwyddyn ariannol i ragweld incwm dros y
flwyddyn gyfan gydag unrhyw sicrwydd. Ar gyfer misoedd cyntaf y flwyddyn
ariannol, ymddengys bod yr incwm yn cymharu â’r blynyddoedd blaenorol, felly
rhagwelir bod y Gwasanaeth ar y trywydd iawn i gyflawni'r incwm ychwanegol a
ragwelir. Fodd bynnag, byddai ffactorau allanol megis y tywydd a’r niferoedd
fyddai’n mynychu digwyddiadau mawr mewn trefi mawr yn effeithio ar yr incwm
parcio. Dylai fod darlun cliriach ar gael erbyn diwedd yr hydref o’r incwm a
ragwelir. Gofynnodd yr aelodau am gael y wybodaeth ddiweddaraf am ffigurau
incwm parcio a pherfformiad y Gwasanaeth i gyflawni ei ffigurau incwm a
ragwelwyd cyn diwedd y flwyddyn galendr.