Mater - cyfarfodydd
APPLICATION FOR A PRIVATE HIRE VEHICLE LICENCE
Cyfarfod: 13/09/2023 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 9)
9 CAIS AM DRWYDDED CERBYD HURIO PREIFAT
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a
Gwasanaethau Rheoleiddio (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais
am drwydded Cerbyd Hurio Preifat.
10.45 am
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 3 , View reasons restricted (9/2)
- Restricted enclosure 4 , View reasons restricted (9/3)
- Restricted enclosure 5 , View reasons restricted (9/4)
- Webcast for CAIS AM DRWYDDED CERBYD HURIO PREIFAT
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais am Drwydded Cerbyd Hurio Preifat yn amodol ar amodau
ychwanegol fel y nodwyd yn Atodiad 3 o’r adroddiad.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y
Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (a
ddosbarthwyd ymlaen llaw) ynglŷn â’r canlynol –
(i)
cafwyd cais am Drwydded Cerbyd Hurio
Preifat;
(ii)
nid yw swyddogion wedi bod mewn
sefyllfa i ganiatáu’r cais gan nad yw’r cerbyd a gyflwynwyd i gael trwydded yn
cydymffurfio â pholisi’r Cyngor ynghylch y cyfyngiad oedran pum mlynedd i
gerbydau a drwyddedir gan gais newydd;
(iii)
amodau ychwanegol yn berthnasol i
drwyddedu mathau o gerbydau arbenigol megis yr un a gyflwynwyd yn yr achos hwn
ynghyd â thystiolaeth gefnogol a gyflwynwyd gan yr Ymgeisydd, a
(iv)
gwahoddwyd yr Ymgeisydd i fynychu’r
cyfarfod i gefnogi’r cais ac i ateb cwestiynau’r Aelodau wedi hynny.
Roedd yr Ymgeisydd yn bresennol a
chadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.
Darparodd y Swyddog Gorfodi (KB) grynodeb o’r
adroddiad a ffeithiau’r achos.
Cyflwynodd yr Ymgeisydd ei achos a chyfeiriodd
at y ddogfennaeth gefnogol a oedd wedi ei ddosbarthu ymlaen llaw gyda’r
adroddiad. Roedd yn weithredwr cerbydau
arbenigol sefydledig gydag enw da a rhoddodd ychydig o gefndir i’r math o
fusnes yr oedd yn ei weithredu a oedd yn darparu ar gyfer marchnad
arbenigol. Cyfeiriwyd at rinweddau’r
cerbyd arbenigol arfaethedig ar gyfer trwyddedu yn ogystal ag amserlenni cynnal
a chadw a thrin a gefnogwyd gan garej leol.
Roedd y cais ar gyfer cerbyd arbenigol gyda defnydd cyfyngedig ar gyfer
digwyddiadau arbennig, a oedd yn cael ei gynnal i safon uchel ac yn bodloni’r
holl ofynion cyfreithiol a diogelwch.
Wrth ymateb i gwestiynau, eglurodd yr
Ymgeisydd mae ei fwriad oedd i uwchraddio a chael cerbyd newydd yn lle ei
gerbyd trwyddedig presennol yn hytrach nac ychwanegu at y fflyd. Yn nhermau’r cyfundrefnau cynnal a chadw
blaenorol, roedd gan yr Ymgeisydd fanylion hanes blaenorol o drin y cerbyd ac
MOT ac roedd y cerbyd wedi ei archwilio ac roedd yn fodlon â’r archwiliad; hefyd
rhoddodd sicrwydd ynglŷn â chyfundrefnau cynnal a chadw parhaus yn y
dyfodol. Yn olaf cadarnhaodd ei fod yn
barod i gydymffurfio gyda’r amodau trwyddedu ychwanegol ar gyfer y cerbyd dan
sylw fel y nodir yn yr adroddiad.
Gohiriwyd y Pwyllgor er mwyn ystyried y cais
a -
PHENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais am Drwydded Cerbyd Hurio Preifat yn amodol ar yr amodau
ychwanegol fel y nodwyd yn Atodiad 3 yr adroddiad.
Dyma resymau’r Pwyllgor Trwyddedu dros
y penderfyniad –
Roedd yr Aelodau wedi ystyried y cais
yn ofalus, adroddiad y swyddog a’r achos a gyflwynwyd gan yr Ymgeisydd yn
ysgrifenedig cyn y cyfarfod ac yn y cyfarfod ei hun.
Wrth ddod i benderfyniad, nododd y
Pwyllgor natur a’r math o fusnes a weithredwyd, a bod y cerbyd dan sylw â
milltiroedd isel ac mae ychydig o deithiau arbenigol fyddai’n cael eu gwneud a
bod yr Ymgeisydd yn weithredwr gydag enw da ac wedi hen sefydlu mewn
gwasanaethau arbenigol o’r fath. Ar y
sail honno, ac ar ôl ystyried yn benodol yr uchod, a’r gwasanaeth cynnal a
chadw llym ddwywaith y flwyddyn gan y Gwasanaethau Fflyd, cytunodd yr Aelodau
bod achos wedi’i gyflwyno i wyro o’u polisi cyfyngiad oedran yn yr achos hwn,
ac i ganiatáu’r cais fel a gyflwynwyd, yn amodol ar yr amodau ychwanegol sydd
yn berthnasol i’r math o gerbyd arbenigol, fel y nodir yn Atodiad 3 yr adroddiad.
Cafodd penderfyniad a rhesymau’r
Pwyllgor felly eu cyfleu i’r Ymgeisydd.
[Wrth fynd heibio nododd y Pwyllgor ei bod yn debygol y byddai polisi ar wahân mewn perthynas â’r mathau o gerbydau arbenigol yn cael ei lunio yn y dyfodol, un ai fel rhan o ddiwygiad Llywodraeth Cymru o drwyddedu tacsis neu drwy fframwaith polisi y Cyngor ei hun.] ... view the full Cofnodion text for item 9