Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

REVIEW OF HACKNEY CARRIAGE AND PRIVATE HIRE DRIVER MEDICAL REQUIREMENTS

Cyfarfod: 13/09/2023 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 7)

7 ADOLYGU GOFYNION MEDDYGOL GYRWYR CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 222 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Rheoleiddio (copi ynghlwm) ar adolygu gofynion meddygol presennol gyrwyr a cheisio cymeradwyaeth y Pwyllgor ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol ar y cynigion ar gyfer gweithredu safonau meddygol Grŵp 2.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD

                    

(a)      rhoi awdurdod i swyddogion ymgynghori â gyrwyr trwyddedig a gweithredwyr a pherchnogion trwyddedig ynghylch gweithredu safonau meddygol Grŵp 2; a

 

(b)      lle na dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau yn dilyn y cyfnod ymgynghori, rhoi awdurdod i swyddogion weithredu gofyniad am dystysgrifau meddygol Grŵp 2 ar gyfer gyrwyr trwyddedig fel a nodir ym mharagraff 4.5 yr adroddiad, a ddaw i rym o 1 Rhagfyr 2023 ar gyfer ymgeiswyr newydd, ac 1 Mehefin 2024 ar gyfer deiliaid trwydded presennol, a

 

(c)      os bydd unrhyw un yn gwrthwynebu’r cynigion yn ystod y cyfnod ymgynghori, bydd swyddogion yn cael cyfarwyddyd i baratoi adroddiad i’w gyflwyno yng nghyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu er mwyn ystyried y gwrthwynebiadau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ar yr adolygiad o’r gofynion meddygol presennol ar gyfer gyrwyr a cheisiodd gymeradwyaeth y Pwyllgor ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol ar y cynigion ar gyfer gweithredu safonau meddygol Grŵp 2 yn lle’r safonau meddygol Grŵp 1 presennol.

 

Roedd manylion ynglŷn â’r arfer cyfredol ar gyfer gwiriadau meddygol Grŵp 1 a chynigion ar gyfer gwiriadau meddygol Grŵp 2, gan gynnwys amodau arfaethedig i fodloni safonau meddygol Grŵp 2 o ran addasrwydd i yrru, ffurflenni meddygol ar gyfer y ddau grŵp a’r goblygiadau o ran cost wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad.  Mae safonau meddygol Grŵp 2 yn cael eu gweithredu mewn 19 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru (gan gynnwys pob un o’r awdurdodau cyfagos).  Byddai unrhyw newid i’r polisi presennol yn gofyn am broses ymgynghori gydag unrhyw wrthwynebiadau yn cael eu cyflwyno gerbron y Pwyllgor.  Pe na fyddai unrhyw sylwadau yn cael eu derbyn byddai’r safonau arfaethedig yn dod i rym ar ddyddiad y cytunir arno.

 

Nododd y Pwyllgor y byddai’r cynnig i symud i safonau meddygol Grŵp 2 yn golygu y byddai’r awdurdod yr un fath ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru, byddai’n gwella polisi ac yn bodloni cynigion Llywodraeth Cymru ar ddiwygio trwyddedu tacsis.  Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â p’un ai a fyddai’r cynnig yn atal ymgeiswyr newydd, dywedodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu y gallai brofi’n ysgogiad i rai gyrwyr gan mai dim ond un prawf meddygol oedd ei angen wrth ymgeisio’r tro cyntaf ar gyfer y rhai hynny o dan 45 oed ac yna bob tair blynedd o 45 - 65 oed ac yna yn flynyddol wedi hynny, yn hytrach na’r polisi presennol a oedd yn gofyn am brawf meddygol bob tair blynedd ar gyfer pob gyrrwr hyd at 60 oed ac yna yn flynyddol wedi hynny.  Hefyd eglurodd nad oedd yna brinder o yrwyr trwyddedig.

 

PENDERFYNWYD

                    

(a)      rhoi awdurdod i swyddogion ymgynghori â gyrwyr trwyddedig presennol a gweithredwyr a pherchnogion trwyddedig ynglŷn â gweithredu safonau meddygol Grŵp 2;

 

(b)      lle na dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau yn dilyn y cyfnod ymgynghori, rhoi awdurdod i swyddogion weithredu gofyniad am dystysgrifau meddygol Grŵp 2 ar gyfer gyrwyr trwyddedig fel y nodir ym mharagraff 4.5 yr adroddiad, gyda hyn yn dod i rym o 1 Rhagfyr 2023 ar gyfer ymgeiswyr newydd, a 1 Mehefin 2024 ar gyfer deiliaid trwydded sy’n adnewyddu

 

(c)      lle codwyd gwrthwynebiadau yn ystod y cyfnod ymgynghori, fod swyddogion yn cael cyfarwyddyd i baratoi adroddiad i’w gyflwyno yng nghyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu er mwyn ystyried y gwrthwynebiadau.