Mater - cyfarfodydd
REVIEW OF HACKNEY CARRIAGE AND PRIVATE HIRE DRIVER MEDICAL REQUIREMENTS
Cyfarfod: 13/09/2023 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 7)
7 ADOLYGU GOFYNION MEDDYGOL GYRWYR CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT PDF 222 KB
Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Rheoleiddio (copi ynghlwm) ar adolygu gofynion meddygol presennol gyrwyr a cheisio cymeradwyaeth y Pwyllgor ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol ar y cynigion ar gyfer gweithredu safonau meddygol Grŵp 2.
Dogfennau ychwanegol:
- DRIVER MEDICAL REQUIREMENT REVIEW - APPENDIX A current MEDICAL CERTIFICATE, Eitem 7 PDF 293 KB
- DRIVER MEDICAL REQUIREMENT REVIEW - APPENDIX B GROUP 2 MEDICAL, Eitem 7 PDF 586 KB
- Webcast for ADOLYGU GOFYNION MEDDYGOL GYRWYR CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD –
(a) rhoi awdurdod i swyddogion
ymgynghori â gyrwyr trwyddedig a gweithredwyr a pherchnogion trwyddedig
ynghylch gweithredu safonau meddygol Grŵp 2; a
(b) lle na dderbyniwyd unrhyw
wrthwynebiadau yn dilyn y cyfnod ymgynghori, rhoi awdurdod i swyddogion
weithredu gofyniad am dystysgrifau meddygol Grŵp 2 ar gyfer gyrwyr
trwyddedig fel a nodir ym mharagraff 4.5 yr adroddiad, a ddaw i rym o 1 Rhagfyr
2023 ar gyfer ymgeiswyr newydd, ac 1 Mehefin 2024 ar gyfer deiliaid trwydded
presennol, a
(c) os bydd unrhyw un yn
gwrthwynebu’r cynigion yn ystod y cyfnod ymgynghori, bydd swyddogion yn cael
cyfarwyddyd i baratoi adroddiad i’w gyflwyno yng nghyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu
er mwyn ystyried y gwrthwynebiadau.
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw)
ar yr adolygiad o’r gofynion meddygol presennol ar gyfer gyrwyr a cheisiodd
gymeradwyaeth y Pwyllgor ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol ar y cynigion ar gyfer
gweithredu safonau meddygol Grŵp 2 yn lle’r safonau meddygol Grŵp 1
presennol.
Roedd manylion ynglŷn â’r arfer cyfredol ar gyfer
gwiriadau meddygol Grŵp 1 a chynigion ar gyfer gwiriadau meddygol
Grŵp 2, gan gynnwys amodau arfaethedig i fodloni safonau meddygol
Grŵp 2 o ran addasrwydd i yrru, ffurflenni meddygol ar gyfer y ddau
grŵp a’r goblygiadau o ran cost wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad. Mae safonau meddygol Grŵp 2 yn cael eu
gweithredu mewn 19 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru (gan gynnwys pob un o’r
awdurdodau cyfagos). Byddai unrhyw newid
i’r polisi presennol yn gofyn am broses ymgynghori gydag unrhyw wrthwynebiadau
yn cael eu cyflwyno gerbron y Pwyllgor.
Pe na fyddai unrhyw sylwadau yn cael eu derbyn byddai’r safonau
arfaethedig yn dod i rym ar ddyddiad y cytunir arno.
Nododd y Pwyllgor y byddai’r cynnig i symud i
safonau meddygol Grŵp 2 yn golygu y byddai’r awdurdod yr un fath ag
awdurdodau lleol eraill yng Nghymru, byddai’n gwella polisi ac yn bodloni
cynigion Llywodraeth Cymru ar ddiwygio trwyddedu tacsis. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â p’un ai
a fyddai’r cynnig yn atal ymgeiswyr newydd, dywedodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu
y gallai brofi’n ysgogiad i rai gyrwyr gan mai dim ond un prawf meddygol oedd
ei angen wrth ymgeisio’r tro cyntaf ar gyfer y rhai hynny o dan 45 oed ac yna
bob tair blynedd o 45 - 65 oed ac yna yn flynyddol wedi hynny, yn hytrach na’r
polisi presennol a oedd yn gofyn am brawf meddygol bob tair blynedd ar gyfer
pob gyrrwr hyd at 60 oed ac yna yn flynyddol wedi hynny. Hefyd eglurodd nad oedd yna brinder o yrwyr
trwyddedig.
PENDERFYNWYD –
(a) rhoi awdurdod i swyddogion
ymgynghori â gyrwyr trwyddedig presennol a gweithredwyr a pherchnogion
trwyddedig ynglŷn â gweithredu safonau meddygol Grŵp 2;
(b) lle na dderbyniwyd unrhyw
wrthwynebiadau yn dilyn y cyfnod ymgynghori, rhoi awdurdod i swyddogion
weithredu gofyniad am dystysgrifau meddygol Grŵp 2 ar gyfer gyrwyr
trwyddedig fel y nodir ym mharagraff 4.5 yr adroddiad, gyda hyn yn dod i rym o
1 Rhagfyr 2023 ar gyfer ymgeiswyr newydd, a 1 Mehefin 2024 ar gyfer deiliaid
trwydded sy’n adnewyddu
(c) lle codwyd gwrthwynebiadau
yn ystod y cyfnod ymgynghori, fod swyddogion yn cael cyfarwyddyd i baratoi
adroddiad i’w gyflwyno yng nghyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu er mwyn ystyried y
gwrthwynebiadau.