Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

PROPOSED REVISED HACKNEY CARRIAGE BYELAWS

Cyfarfod: 13/09/2023 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 6)

6 IS-DDEDDFAU CERBYDAU HACNI DIWYGIEDIG ARFAETHEDIG pdf eicon PDF 202 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Rheoleiddio (copi ynghlwm) sy’n cyflwyno’r Is-ddeddfau diwygiedig sy’n ymwneud â rheoleiddio Cerbydau Hacni er mwyn i’r Pwyllgor eu hystyried a’u cymeradwyo ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD

 

(a)      bod Is-ddeddfau Enghreifftiol arfaethedig yr Adran Drafnidiaeth (fel a nodir yn Atodiad A yr adroddiad) yn cael eu cefnogi, a

 

(b)      rhoi awdurdod i swyddogion ddechrau ymgynghoriad ffurfiol gyda phob perchennog cerbyd hacni a gyrwyr trwyddedig.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn cyflwyno’r Is-ddeddfau diwygiedig yn ymwneud â rheoliad Cerbydau Hacni ar gyfer ei ystyried gan y Pwyllgor a’i gymeradwyo ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol.

 

Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa ynglŷn â gofynion deddfwriaethol y Cyngor ar gyfer trwyddedu a rheoleiddio cerbydau hacni a gyrwyr.  Ers ad-drefnu llywodraeth leol yn 1996 mae'r cyfrifoldebau hynny wedi eu harfer drwy Amodau Trwyddedu Cerbyd Hacni a Hurio Preifat y Cyngor a thrwy Is-ddeddfau mewn perthynas â’r Rhyl a Phrestatyn yn unig.  Argymhellwyd fod y Cyngor yn mabwysiadu Is-ddeddfau a oedd yn ymwneud â’r sir gyfan i sicrhau eu bod yn adlewyrchu’r newidiadau mewn deddfwriaeth yn gywir ac yn sicrhau dull teg, tryloyw a chyson.

 

Argymhellodd swyddogion fod yr Is-ddeddfau Enghreifftiol a luniwyd gan yr Adran Drafnidiaeth (Atodiad A i’r adroddiad) yn cael eu cymeradwyo ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol gydag unrhyw sylwadau’n cael eu cyflwyno gerbron y Cyngor i’w hystyried.  Pe byddai’r Is-ddeddfau Enghreifftiol yn cael eu mabwysiadu gan y Cyngor, byddai Is-ddeddfau Y Rhyl a Phrestatyn (Atodiad B i’r adroddiad) yn cael eu diddymu.

 

Cytunodd Aelodau y dylid gweithredu dull cyson ar draws y sir mewn perthynas ag is-ddeddfau cerbydau hacni a nodwyd na fyddai mabwysiadu’r is-ddeddfau enghreifftiol yn achosi unrhyw newid mawr ond byddai’n moderneiddio’r ddarpariaeth bresennol a oedd yn ymwneud â Rhyl a Phrestatyn yn unig ar hyn o bryd.   Cwestiynwyd perthnasedd darpariaeth 18 (a) a oedd yn ymwneud ag unrhyw eiddo a gaiff ei adael ar ôl yn cael ei drosglwyddo’n gorfforol i Orsaf Heddlu.  Cadarnhaodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu fod eitemau i’w cyflwyno i Orsaf Heddlu a oedd yn amod trwyddedu gydag eiddo yn cael ei drosglwyddo i rywun mewn awdurdod a’r Heddlu oedd y rhai gorau i ymdrin â’r mater.

 

Ar ôl ystyried yr holl wybodaeth yn yr adroddiad,

 

PENDERFYNWYD

 

(a)      bod Is-ddeddfau Enghreifftiol arfaethedig yr Adran Drafnidiaeth (fel y nodir yn Atodiad A yr adroddiad) yn cael eu cefnogi, a

 

(b)      rhoi awdurdod i swyddogion ddechrau ymgynghoriad ffurfiol gyda phob perchennog cerbyd hacni a gyrwyr trwyddedig.