Mater - cyfarfodydd
PROPOSED CHANGES TO HACKNEY CARRIAGE VEHICLES TABLE OF FARES AND CHARGES
Cyfarfod: 13/09/2023 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 5)
5 NEWIDIADAU ARFAETHEDIG I DABL FFIOEDD CERBYDAU HACNI PDF 449 KB
Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Rheoleiddio (copi ynghlwm) yn gofyn i’r Pwyllgor adolygu’r ffioedd tariff cyfredol ar gyfer cerbydau hacni (tacsis).
Dogfennau ychwanegol:
- HACKNEY CARRIAGE FARE REVIEW 2023 - APPENDIX A RESPONSES, Eitem 5 PDF 266 KB
- HACKNEY CARRIAGE FARE REVIEW 2023 - APPENDIX B - 01.07.22 HACKNEY CARRIAGE TABLE OF FARES, Eitem 5 PDF 462 KB
- HACKNEY CARRIAGE FARE REVIEW 2023 - APPENDIX C - TARIFF AND CHARGES, Eitem 5 PDF 180 KB
- Webcast for NEWIDIADAU ARFAETHEDIG I DABL FFIOEDD CERBYDAU HACNI
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD, trwy bleidlais fwyafrifol –
(a) bod yr Aelodau'n cyfarwyddo'r
swyddogion i ymgynghori ar weithredu cynnydd i'r tariff o 5% (wedi'i dalgrynnu
i'r ganran gyfan agosaf) yn unol â'r Mynegai Prisiau Manwerthu ar gyfer Moduro;
(b) awdurdodi swyddogion i fwrw
ymlaen â hysbysiad statudol sydd â dyddiad gweithredu o leiaf 28 diwrnod ar ôl
cyhoeddi'r hysbysiad, a
(c) rhoi cyfarwyddyd i swyddogion
baratoi adroddiad ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor Trwyddedu os ceir unrhyw
wrthwynebiadau i’r hysbysiad statudol.
Cofnodion:
[Ymatalodd y Cynghorydd Win Mullen-James rhag pleidleisio
ar yr eitem hon gan ei bod wedi ymuno â’r cyfarfod yn hwyr ac nad oedd wedi bod
yn bresennol am y drafodaeth gyfan.]
Cyflwynodd Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd
(RhBGC) adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r Pwyllgor adolygu’r
ffioedd tariff cyfredol ar gyfer cerbydau hacni (tacsis), gan gynnwys
dewisiadau i’w hystyried ac argymhellion ar y ffordd ymlaen. Roedd y ffioedd tariff cyfredol wedi eu gosod
yng Ngorffennaf 2022.
Yn dilyn cais gan yrrwr trwyddedig, roedd
swyddogion wedi ymgynghori ar gynnydd arfaethedig o 10% i’r holl dariffau a
ffioedd ychwanegol i ganfod safbwyntiau’r fasnach drwyddedig. Roedd yr ymateb yn cynnwys cefnogaeth
gyffredinol ar gyfer cynnydd ac amrywiadau amgen niferus i’r cynnig. Roedd Adroddiad yr Ymgynghorydd Trwyddedu ar
adolygiad o’r ffioedd 2022 wedi argymell methodoleg ar gyfer cyfrif ffioedd yn
y dyfodol a oedd yn ddibynnol ar ddata digonol yn cael ei ddarparu gan y fasnach
drwyddedu; roedd y gwaith ymgysylltu hwnnw wedi dechrau heb unrhyw amserlen
benodol ar gyfer cwblhau. Yn absenoldeb
y data hwn, roedd yr Ymgynghorydd wedi argymell defnyddio'r Mynegai Prisiau
Manwerthu ar gyfer Moduro (4.8% ar Awst 2023) fel adnodd i gynyddu/gostwng
ffioedd.
Fe arweiniodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd
Aelodau drwy’r adroddiad yn fanwl a’r dewisiadau oedd ar gael i un ai cadw’r
tabl ffioedd presennol, cefnogi’r cynnig ar gyfer cynnydd o 10% mewn tariff neu
gefnogi cynnydd yn unol â’r Mynegai Prisiau Manwerthu ar gyfer Moduro. Pe byddai Aelodau’n cefnogi cynnydd mewn
ffioedd byddai ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal ar y cynnig gydag
unrhyw wrthwynebiadau’n cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor i’w hystyried. Byddai unrhyw dariff terfynol yn destun
Penderfyniad Dirprwyedig Aelod Arweiniol.
Roedd swyddogion wedi argymell ymgynghoriad ar gynyddu ffioedd 5% (wedi
ei dalgrynnu i’r canran llawn agosaf) yn unol â’r
Mynegai Prisiau Manwerthu ar gyfer Moduro fel yr argymhellwyd gan yr
Ymgynghorydd.
Ystyriodd Aelodau’r adroddiad a’r dewisiadau oedd
ar gael iddynt, ac roedd yna safbwyntiau cymysg ynglŷn â’r ffordd orau
ymlaen. Codwyd cwestiynau gyda’r Rheolwr
Busnes Gwarchod y Cyhoedd yn ymwneud ag agweddau amrywiol o’r adroddiad a’r
ymgynghoriad cychwynnol gyda’r fasnach, a chodwyd rhai pryderon yn ymwneud â
thybiaethau nad yw’r rhai na ymatebodd yn gefnogol i adolygiad, diffyg ymateb
cyffredinol o’r fasnach tacsis i lywio’r broses ac amrywiadau graddfa
chwyddiant pan oeddent yn cael eu defnyddio fel sail ar gyfer cynyddu
ffioedd. Tra codwyd pryderon cyffredinol
yn ymwneud ag amseru cynnydd mewn ffioedd yn ystod argyfwng costau byw a’r
effaith ar ddefnyddwyr tacsis, rhoddwyd ystyriaeth hefyd i’r effaith ar y
fasnach dacsis a oedd yn ymdrin â chostau cynyddol sy’n effeithio ar y
diwydiant. Teimlwyd y dylai fod yna
ddull mwy strwythuredig o adolygu ffioedd yn rheolaidd.
Ymatebodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd i
gwestiynau a sylwadau’r Aelodau fel a ganlyn –
·
nid oedd yna unrhyw derfynau amser statudol ar
gyfer adolygu ffioedd a phrisiau tacsis
·
yn dilyn y cais i gynyddu tariff, ystyriwyd ei bod
yn briodol i fesur cefnogaeth ar gyfer cynnydd gan y fasnach dacsis
·
ymgynghorwyd â 280 o yrwyr trwyddedig, roedd 56
wedi ymateb gyda 47 yn cefnogi cynnydd, ac ystyriwyd hynny’n ddigonol i fynd
ymlaen gydag adolygiad
·
nid oedd yna unrhyw fethodoleg y tu ôl i’r dybiaeth
fod y rhai hynny a fethodd ymateb yn fodlon gyda’r tariff presennol, ac o
ystyried y gyfradd ymateb isel i ymgynghoriadau’n gyffredinol ni ellid dod i
gasgliad boddhaol ynglŷn â’r dybiaeth honno
· roedd swyddogion yn gweithio i ymgysylltu gyda’r fasnach dacsis fel yr argymhellwyd gan yr Ymgynghorydd gyda’r bwriad o gyfrifo cynnydd mewn prisiau yn y dyfodol ac wedi cwblhau’r gwaith hwnnw byddai adolygiadau rheolaidd yn cael ... view the full Cofnodion text for item 5