Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

GOVERNANCE FOR THE LEVELLING UP FUND MONIES

Cyfarfod: 23/05/2023 - Cabinet (Eitem 10)

10 LLYWODRAETHU ARIAN CRONFA FFYNIANT BRO pdf eicon PDF 216 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Jason McLellan ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd (copi’n amgaeedig) ar y trefniadau llywodraethu ar gyfer goruchwylio’r broses o gyflawni prosiectau wedi’u hariannu gan y Gronfa Ffyniant Bro.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cadarnhau ei fod wedi darllen a deall y trefniadau llywodraethu a sicrwydd a ddisgrifir ac yn fodlon bod y trefniadau hynny wedi’u hintegreiddio’n ddigonol i fusnes y Cyngor.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jason McLellan yr adroddiad ar y trefniadau llywodraethu ar gyfer goruchwylio’r prosiectau a ariennir drwy’r Gronfa Ffyniant Bro, a chyfeiriodd at y swm anhygoel o waith sydd wedi’i wneud ers cais llwyddiannus Gorllewin Clwyd, yn cynnwys trafodaethau gyda budd-ddeiliaid ynglŷn â chyflawni’r prosiectau.

 

Eglurodd y Rheolwr Rhaglen beth yw’r gofyniad ar y Cyngor, fel corff cyflawni ar gyfer prosiect Ffyniant Bro Gorllewin Clwyd – sef sefydlu bwrdd cyflawni cyfansoddiadol gyda’r Gronfa Ffyniant Bro wedi’i gynnwys yn ei gylch gorchwyl. Darparodd drosolwg cynhwysfawr o’r ddogfen lywodraethu, yn cynnwys y mecanweithiau arolygu a sicrwydd sydd yn eu lle a sut maent wedi’u cynnwys yn nhrefniadau llywodraethu’r Cyngor. Mae cylch gwaith y ddogfen lywodraethu hefyd yn cynnwys darpariaeth Ffyniant Bro mewn partneriaeth â Wrecsam ar gyfer ardal de Clwyd, a hefyd mewn perthynas â’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

 

Ystyriodd y Cabinet yr adroddiad ac roedd yn fodlon ar y strwythur llywodraethu cadarn sydd wedi’i gynnwys yn y ddogfen er mwyn cyflawni’r prosiectau yn llwyddiannus. Pwysleisiodd y Cynghorydd Emrys Wynne bwysigrwydd cael trefniadau llywodraethu cywir ar waith ac roedd yn edrych ymlaen at weld y prosiectau yn cael eu cyflawni’n llwyddiannus yn Rhuthun. Ychwanegodd yr Arweinydd ei fod yn edrych ymlaen at weithio ar y Bwrdd Prosiect a gyda budd-ddeiliaid i gyflawni prosiectau er budd y trigolion.

 

PENDERFYNWYD Bod y Cabinet yn cadarnhau ei fod wedi darllen a deall y trefniadau llywodraethu a sicrwydd a ddisgrifir a’i fod yn fodlon bod y trefniadau hynny wedi’u hintegreiddio’n ddigonol i fusnes y Cyngor.