Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

NORTH WALES CONSTRUCTION FRAMEWORK (NWCF) PHASE 3 - STAGE 1 - INITIATE PROJECT

Cyfarfod: 23/05/2023 - Cabinet (Eitem 9)

9 FFRAMWAITH ADEILADU GOGLEDD CYMRU (NWCF) CAM 3 - CYFNOD 1 - CYCHWYN Y PROSIECT pdf eicon PDF 222 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julie Matthews, Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol (copi'n amgaeedig) yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ddechrau ar y broses o gaffael ar gyfer Cam 3 o Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cadarnhau cychwyn y prosiect i gaffael Cam 3 Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru, a

 

(b)       chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julie Matthews yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cyngor i ddechrau proses gaffael Cam 3 Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru.

 

Yn dilyn llwyddiant Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru a’r buddion o ran amser caffael, cost a gwerth ychwanegol a ddarperir ganddo, cynigir cychwyn prosiect a fydd yn galluogi chwe awdurdod lleol y gogledd i gael fframwaith ar gyfer caffael prosiectau adeiladu rhanbarthol. Mae Cam 2 y Fframwaith Adeiladu yn dod i ben ddiwedd mis Mai 2024 ac mae angen cymeradwyaeth i ddechrau proses Cam 3 er mwyn iddo fod yn ei le erbyn mis Mehefin 2024.

 

Darparodd y Rheolwr Caffael Cydweithredol a Fframwaith drosolwg manwl o’r fframwaith a’r manteision, a’r bwriad i fwrw ymlaen â thrydydd cam ar ran chwe awdurdod lleol y gogledd sy’n cyfrannu’n gyfartal at adnoddau’r fframwaith. Rhagwelir mai gwerth y fframwaith fydd £600 miliwn o wariant cyhoeddus yn ystod oes y trydydd cam ar draws y gogledd, a bydd pob corff cyhoeddus yn gallu cael mynediad ato. Mewn ymateb i gwestiynau cadarnhawyd bod Sir Ddinbych wedi cynnal dau gam blaenorol y fframwaith ar ran y rhanbarth, sy’n dangos hyder yn y gwaith.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       Cymeradwyo cychwyn y prosiect i gaffael Cam 3 Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru, ac yn

 

(b)       Cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.