Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

DRAFT AGILE WORKING POLICY

Cyfarfod: 23/05/2023 - Cabinet (Eitem 8)

8 POLISI GWEITHIO’N HYBLYG DRAFFT pdf eicon PDF 232 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julie Matthews, Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol (copi’n amgaeedig) yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet ar y Polisi Gweithio’n Hyblyg a dogfennau canllawiau cysylltiedig.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cymeradwyo’r Polisi Gweithio’n Hyblyg, a’r dogfennau canllaw ategol, a

 

(b)       chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 6 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julie Matthews yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cyngor i’r Polisi Gweithio’n Hyblyg newydd a’r dogfennau canllaw cysylltiedig.

 

Mae’r Polisi Gweithio’n Hyblyg presennol wedi’i adolygu yn dilyn y ffyrdd newydd o weithio y mae’r Cyngor wedi’u datblygu yn ystod ac ar ôl pandemig COVID-19. Mae’r Polisi Gweithio'n Hyblyg newydd yn galluogi gweithwyr i gael mwy o ddewis o ran sut, ble a phryd maent yn gweithio ac yn darparu canllawiau clir a dull cyson ar gyfer rheoli gweithwyr mewn ffordd hyblyg. Mae’r Asesiad o’r Effaith ar Les hefyd yn amlygu manteision y polisi hwn. Aeth Pennaeth Dros Dro Adnoddau Dynol drwy’r adroddiad a’r dogfennau cysylltiedig efo’r aelodau.

 

Croesawodd y Cabinet yr adroddiad cynhwysfawr a manteision y polisi, a oedd yn cynnwys mwy o ddewis i weithwyr, gwella cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, defnyddio llai ar gerbydau, a’r gallu i weithio’n hyblyg yn dod yn ddewis pwysig mewn gyrfa ac yn helpu i fynd i’r afael â materion recriwtio a chadw staff.

 

Atebodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion y cwestiynau fel a ganlyn –

 

·         Mae’r polisi drafft wedi’i gymeradwyo gan y Cyd-bwyllgor Ymgynghorol ar gyfer Iechyd a Diogelwch a Chysylltiadau Gweithwyr, ac mae’r holl undebau wedi cytuno arno

·         O ran gweithwyr sy'n gweithio ar eu pen eu hunain, mae yna asesiadau risg yn eu lle ar gyfer rheolwyr a gweithwyr i ddiogelu unigolion tra maent yn gweithio

·         Mae gweithwyr newydd yn cael eu cefnogi drwy broses gyflwyno sydd wedi’i diwygio i ystyried y dulliau gweithio newydd

·         O ran monitro canlyniadau’r patrymau gweithio newydd, amlygwyd pwysigrwydd cyfarfodydd un-i-un rheolaidd rhwng rheolwyr a gweithwyr er mwyn sicrhau lles ac fel ffordd i reoli perfformiad sy’n darparu sgwrs ddwyffordd; mae llawer o bwyslais wedi’i roi ar werth cyfarfodydd un-i-un a darperir canllawiau ar sut i reoli’r sgyrsiau hynny i sicrhau’r budd mwyaf

·         Eglurwyd yr anawsterau wrth ddarparu cymhariaeth rhwng canlyniadau gweithio cyn ac ar ôl COVID-19 oherwydd diffyg data cymharol a’r cymhlethdodau o ran mesur canlyniadau ar gyfer swyddi penodol

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       Cymeradwyo’r Polisi Gweithio’n Hyblyg, a’r dogfennau canllaw ategol, ac yn

 

(b)       Cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 6 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.