Mater - cyfarfodydd
OUTCOME OF PARTNERSHIPS SCRUTINY COMMITTEE'S REVIEW OF CABINET'S DECISION RELATING TO APPLICATIONS SHORTLISTED FOR SHARED PROSPERITY FUNDING
Cyfarfod: 23/05/2023 - Cabinet (Eitem 5)
Ystyried
canlyniad yr adolygiad o’r penderfyniad a gymerwyd gan y Cabinet ar 25 Ebrill
2023 yn berthnasol i Geisiadau ar y Rhestr Fer ar gyfer y Gronfa Ffyniant
Gyffredin sydd wedi bod yn destun craffu ac wedi cael ei ystyried gan y
Pwyllgor Craffu Partneriaethau ar 18 Mai 2023.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –
(a) cydnabod bod y Pwyllgor Craffu
Partneriaethau yn parchu penderfyniad y Cabinet ar 25 Ebrill 2023, i’r graddau
y mae’n ymwneud â’r prosiectau ar y rhestr fer a luniwyd gan y Grŵp
Partneriaethau Craidd i’w cymeradwyo, a
(b) mewn ymgynghoriad gyda’r Swyddogion arweiniol perthnasol,
ystyried y mecanweithiau ar gyfer gweithredu argymhellion y Pwyllgor Craffu,
fel y cyfeirir atynt ym mharagraffau 3.2 - 3.6, mewn modd priodol ac amserol.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Peter Scott, Is-Gadeirydd y Pwyllgor
Craffu Partneriaethau, yr adroddiad sy’n manylu ar ganfyddiadau ac argymhellion
y Pwyllgor Craffu yn dilyn ystyried penderfyniad y Cabinet ar 25 Ebrill 2023 a
alwyd i mewn. Roedd y penderfyniad yn ymwneud â cheisiadau a rhoddwyd ar y
rhestr fer ar gyfer cyllid y Gronfa Ffyniant a Rennir.
Yn fras, cafodd y Pwyllgor eu sicrhau bod y broses a
ddefnyddiwyd i ddelio gyda’r ceisiadau ac i lunio rhestr fer wedi bod yn un
cadarn, teg a phroffesiynol. Fodd bynnag, credwyd bod trefniadau cyfathrebu
agweddau ar gyllid y Gronfa Ffyniant a Rennir gydag aelodau etholedig wedi bod
braidd yn wan. O ganlyniad, roedd y Pwyllgor wedi argymell bod y Cabinet yn
cadarnhau ei benderfyniad i’r graddau y mae’n ymwneud â’r prosiectau sydd
wedi’u rhoi ar y rhestr fer gan y Grŵp Partneriaethau Craidd i’w
cymeradwyo, ac wrth wneud hynny yn cytuno ar fesurau pellach (fel y nodir ym
mharagraffau 3.2-3.6 yr adroddiad) er mwyn cryfhau’r trefniadau cyfathrebu.
Diolchodd yr Arweinydd i’r Cynghorydd Scott am adrodd ar
drafodaeth a’r argymhellion y Pwyllgor Craffu. Gan fod y Pwyllgor Craffu wedi
cadarnhau penderfyniad y Cabinet, ac oherwydd hwyrni’r adroddiad ar yr
argymhellion, gyda rhagor o ystyriaeth angen ei rhoi i’r dulliau gweithredu,
cynigiodd yr Arweinydd ddiwygiad i’r argymhellion i adlewyrchu’r materion hynny
a’r ffordd orau ymlaen. Cytunodd y Cabinet, gan amlygu’r angen am Gynllun
Cyfathrebu cadarn ac ymgysylltu priodol. Gofynnodd y Cynghorydd
Hilditch-Roberts i’r Cabinet gytuno mewn egwyddor â’r argymhellion bras ac ar amserlen
briodol i’w gweithredu. Cafodd sylwadau’r Cynghorydd eu cydnabod gan yr
Arweinydd.
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –
(a) Cydnabod bod y Pwyllgor Craffu
Partneriaethau yn parchu penderfyniad y Cabinet ar 25 Ebrill 2023, i’r graddau
y mae’n ymwneud â’r prosiectau ar y rhestr fer a luniwyd gan y Grŵp
Partneriaethau Craidd i’w cymeradwyo, ac
(b) Mewn ymgynghoriad â’r swyddogion
arweiniol perthnasol, yn ystyried y mecanwaith i weithredu argymhellion y
Pwyllgor Craffu, fel y nodir ym mharagraffau 3.2-3.6, mewn modd amserol a
phriodol.