Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

ADRODDIAD CYLLID

Cyfarfod: 23/05/2023 - Cabinet (Eitem 11)

11 ADRODDIAD ARIANNOL (SEFYLLFA ARIANNOL DERFYNOL 2022/23) pdf eicon PDF 230 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn nodi’r sefyllfa refeniw derfynol ar gyfer 2022/23 a’r defnydd arfaethedig o gronfeydd wrth gefn a balansau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       nodi’r sefyllfa refeniw derfynol ar gyfer 2022/23;

 

(b)       cymeradwyo'r driniaeth arfaethedig o gronfeydd wrth gefn a balansau fel y manylir yn yr adroddiad ac yn Atodiadau 1 a 2, a

 

(c)        nodi manylion y trosglwyddiadau i’r Cronfeydd Wrth Gefn a Glustnodwyd ac allan ohonynt fel y nodwyd yn Atodiad 3.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad ar sefyllfa refeniw derfynol 2022/23 a’r driniaeth arfaethedig o gronfeydd wrth gefn a balansau. Bydd y Datganiad Cyfrifon Blynyddol drafft ar gyfer 2022/23 yn cael ei gyflwyno i’r archwilwyr allanol cyn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ym mis Medi.

 

Arweiniodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio yr Aelodau drwy’r adroddiad. Yn fras, mae’r sefyllfa derfynol o ran cyllidebau gwasanaethau a chorfforaethol (yn cynnwys gorwariant ysgolion o £3.509 miliwn) yn orwariant o £5.095 miliwn neu’n orwariant o £1.585 miliwn heb ysgolion. Gyda diffyg bychan o £0.019 miliwn wrth gasglu Treth y Cyngor, mae gwerth £1.604 miliwn o gronfeydd wrth gefn heb eu clustnodi wedi’u defnyddio i ariannu’r gorwariant net, gan adael balans o oddeutu £5.5 miliwn. Mae sefyllfa balansau ysgolion yn well na’r disgwyl ac mae £3.5 miliwn o arian wrth gefn (gan adael balans o £9 miliwn) wedi’i ddefnyddio i fynd i’r afael â’r gorwariant. Yn olaf, mae’r driniaeth arfaethedig ar gyfer y cronfeydd wrth gefn a’r balansau wedi’i nodi yn llawn. Mae’r rhan fwyaf o’r symudiadau wedi’u cyllidebu neu wedi’u cymeradwyo eisoes.

 

Ategodd y Cynghorodd Gill German, er bod cyllidebau ysgolion yn edrych yn weddol iach, fod hyn yn bennaf oherwydd cyllid grant ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael ag effeithiau’r pandemig. Soniodd am yr effaith ar iechyd meddwl a lles, a bod angen mynd i’r afael â materion fel presenoldeb, cymdeithasu ac iaith a llefaredd mewn modd amserol. Amlygwyd yr heriau a’r risgiau ariannol ehangach, yn cynnwys pwysau chwyddiant a strategaeth ariannol Llywodraethu y DU wrth ddelio gydag effaith ariannol COVID-19 a’r argyfwng costau byw. Dywedodd y Cynghorydd German fod yr anawsterau wedi bod yn ganlyniad uniongyrchol penderfyniadau gwleidyddol Llywodraeth y DU a phwysleisiodd bwysigrwydd cydweithio er mwyn ymateb i’r sefyllfa yn y ffordd orau.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       Nodi’r sefyllfa refeniw derfynol ar gyfer 2022/23;

 

(b)       Cymeradwyo'r driniaeth arfaethedig o gronfeydd wrth gefn a balansau fel y manylir yn yr adroddiad ac yn Atodiadau 1 a 2, ac yn

 

(c)       Nodi manylion y trosglwyddiadau i’r Cronfeydd Wrth Gefn a Glustnodwyd ac allan ohonynt fel y nodwyd yn Atodiad 3.