Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

MOULD & CONDENSATION IN HOUSING ASSOCIATION (RSL) HOUSING STOCK AND PRIVATE RENTED SECTOR PROPERTIES

Cyfarfod: 18/05/2023 - Pwyllgor Craffu Partneriaethau (Eitem 7)

7 LLWYDNI AC ANWEDD MEWN EIDDO YN Y SECTOR RHENTU PREIFAT A STOC DAI’R GYMDEITHAS DAI pdf eicon PDF 421 KB

Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) gan y Swyddog Arweiniol – Tai Cymunedol, sy’n egluro graddau rôl a chyfrifoldebau’r Cyngor o ran llwydni, anwedd a materion adfeiliad mewn eiddo Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a’r sector rhentu preifat yn Sir Ddinbych.

 

11.30am – 12.15pm

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad gefndir byr ar Lwydni ac Anwedd Mewn Eiddo yn y Sector Rhentu Preifat a Stoc Dai’r Gymdeithas Dai. Dechreuodd drwy egluro mai ymdrech tîm cyfan ydoedd, cydweithio agos rhwng llawer o wasanaethau.

 

Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar reoli llwydni ac anwedd mewn eiddo yr oedd landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn berchen arnynt ac yn eu rheoli ac yn y sector rhentu preifat. Roedd yr adroddiad yn dilyn adroddiad diweddar am yr un mater yn stoc dai’r Cyngor.

 

Mae dwy brif agwedd i’r adroddiad fel a ganlyn:

1.    Rhoi diweddariad ar y sefyllfa yn y Sector Rhentu Preifat.

2.    Rhoi diweddariad ar y camau gweithredu positif a gymerwyd gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i ymdrin â’r sefyllfa gyfredol ac i ymateb iddi.

Eglurwyd bod y Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn atebol i’w Byrddau eu hunain ac i Lywodraeth Cymru o ran rheoli safonau eu heiddo eu hunain. 

 

Arweiniodd y Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd, Adfywio a Datblygu Economaidd yr Aelodau drwy elfennau’r adroddiad oedd yn ymwneud â’r Sector Rhentu Preifat a’r gwaith oedd ar y gweill drwy Dîm Gwarchod y Cyhoedd a Swyddogion Gorfodi Tai y Cyngor. Roedd y ddeddfwriaeth gorfodi tai wedi’i nodi yn Neddf Tai 2004. Roedd unrhyw orfodi a gymerwyd yn digwydd dan y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai. Roedd y broses a nodwyd yn y canllawiau yn rhoi amser i landlordiaid weithredu cyn i unrhyw orfodi ddigwydd.

 

Roedd ffigurau o ran camau gorfodi dros y 4 mlynedd diwethaf (dosbarthwyd ymlaen llaw) wedi gostwng yn raddol ac roedd y Safonau Gofynnol Effeithlonrwydd Ynni a Deddf Rhentu Cartrefi Cymru wedi cyfrannu at hynny o bosibl.

 

Yn unol â dechrau’r Ddeddf Rhentu Tai (Cymru) 2016 yn gynharach yn 2023, mae’r tîm Gorfodaeth Tai wedi newid y broses archwilio cwynion i sicrhau bod y landlord yn cael gwybod am unrhyw gwynion a wneir gan eu tenantiaid, er mwyn rhoi’r cyfle iddynt fynd i’r afael â’r materion o ddiffyg atgyweirio, cyn i Dîm Gorfodaeth Tai’r Cyngor gael eu cynnwys yn ffurfiol. Os byddai’r broblem yn parhau ar ôl 21 diwrnod, neu os na fyddai cynnydd sylweddol wedi’i wneud, byddai’r tîm Gorfodaeth Tai yn trefnu cynnal archwiliad. Mae’r broses newydd yn berthnasol i bob cwyn a dderbynnir, heblaw am argyfyngau a gaiff eu blaenoriaethu a’u harchwilio cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol.

 

Aeth y Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd, Adfywio a Datblygu Economaidd ymlaen i egluro mai ychydig iawn o gwynion a dderbyniwyd o ran Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig. Pe bai cwynion o’r fath yn cael eu derbyn, byddai’r tîm Gorfodaeth Tai yn cynghori’r tenant yn y lle cyntaf i gysylltu â’u darparwr tai fel bod cyfle gan eu landlord i fynd i’r afael â’u pryderon yn uniongyrchol.  Hyd yma, nid oedd unrhyw achosion gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig lle’r oedd angen uwchgyfeirio neu gyfranogiad pellach. 

Eglurodd y Rheolwr Strategol Cynllunio a Thai ail agwedd yr adroddiad yn ymwneud â’r camau positif a gymerwyd gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig. Roedd dau o’r chwe Landlord Cymdeithasol Cofrestredig lleol wedi rhoi copi o’u hymateb i Lywodraeth Cymru i’r Cyngor i sicrhau’r Pwyllgor eu bod wedi ymateb i’r mater fel landlordiaid cyfrifol.  Rhoddwyd crynodeb byr o’u hymateb fel a ganlyn: -

·       Caiff pob adroddiad am damprwydd, llwydni ac anwedd eu cofnodi a’u harchwilio, a bydd y llwyth achosion yn cael ei fonitro gan uwch. swyddog gydag adroddiadau i’r uwch dimau arwain a’r byrddau rheoli. 

·       Roedd prosesau clir ar waith i reoli pob adroddiad gan aelwydydd, er mwyn sicrhau bod camau gweithredu’n digwydd yn ddi-oed.

·       Roedd yr aelwydydd a’r eiddo sydd â’r mwyaf o risg wedi’u targedu ar  ...  view the full Cofnodion text for item 7