Mater - cyfarfodydd
MOULD & CONDENSATION IN HOUSING ASSOCIATION (RSL) HOUSING STOCK AND PRIVATE RENTED SECTOR PROPERTIES
Cyfarfod: 18/05/2023 - Pwyllgor Craffu Partneriaethau (Eitem 7)
7 LLWYDNI AC ANWEDD MEWN EIDDO YN Y SECTOR RHENTU PREIFAT A STOC DAI’R GYMDEITHAS DAI PDF 421 KB
Ystyried
adroddiad (copi ynghlwm) gan y Swyddog Arweiniol – Tai Cymunedol, sy’n egluro
graddau rôl a chyfrifoldebau’r Cyngor o ran llwydni, anwedd a materion
adfeiliad mewn eiddo Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a’r sector rhentu
preifat yn Sir Ddinbych.
11.30am – 12.15pm
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddodd y Pennaeth
Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad gefndir byr ar Lwydni
ac Anwedd Mewn Eiddo yn y Sector Rhentu Preifat a Stoc Dai’r
Gymdeithas Dai. Dechreuodd drwy egluro mai ymdrech tîm cyfan ydoedd, cydweithio
agos rhwng llawer o wasanaethau.
Roedd yr
adroddiad yn seiliedig ar reoli llwydni ac anwedd mewn eiddo yr oedd
landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn berchen arnynt ac yn eu rheoli ac yn
y sector rhentu preifat. Roedd yr adroddiad yn dilyn adroddiad diweddar am yr
un mater yn stoc dai’r Cyngor.
Mae dwy brif
agwedd i’r adroddiad fel a ganlyn:
1.
Rhoi
diweddariad ar y sefyllfa yn y Sector Rhentu Preifat.
2.
Rhoi
diweddariad ar y camau gweithredu positif a gymerwyd gan Landlordiaid
Cymdeithasol Cofrestredig i ymdrin â’r sefyllfa gyfredol ac i ymateb iddi.
Eglurwyd bod
y Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn atebol i’w Byrddau eu hunain ac i
Lywodraeth Cymru o ran rheoli safonau eu heiddo eu hunain.
Arweiniodd y
Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd, Adfywio a Datblygu Economaidd yr Aelodau drwy
elfennau’r adroddiad oedd yn ymwneud â’r Sector Rhentu Preifat a’r gwaith oedd
ar y gweill drwy Dîm Gwarchod y Cyhoedd a Swyddogion Gorfodi Tai y Cyngor. Roedd y ddeddfwriaeth gorfodi tai wedi’i
nodi yn Neddf Tai 2004. Roedd unrhyw orfodi a gymerwyd yn digwydd dan y System
Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai. Roedd y broses a nodwyd yn y canllawiau
yn rhoi amser i landlordiaid weithredu cyn i unrhyw orfodi ddigwydd.
Roedd ffigurau o ran
camau gorfodi dros y 4 mlynedd diwethaf (dosbarthwyd ymlaen llaw) wedi gostwng
yn raddol ac roedd y Safonau Gofynnol Effeithlonrwydd Ynni a Deddf Rhentu
Cartrefi Cymru wedi cyfrannu at hynny o bosibl.
Yn unol â dechrau’r
Ddeddf Rhentu Tai (Cymru) 2016 yn gynharach yn 2023, mae’r tîm Gorfodaeth Tai
wedi newid y broses archwilio cwynion i sicrhau bod y landlord yn cael gwybod
am unrhyw gwynion a wneir gan eu tenantiaid, er mwyn rhoi’r cyfle iddynt fynd
i’r afael â’r materion o ddiffyg atgyweirio, cyn i Dîm Gorfodaeth Tai’r Cyngor
gael eu cynnwys yn ffurfiol. Os byddai’r broblem yn parhau ar ôl 21 diwrnod,
neu os na fyddai cynnydd sylweddol wedi’i wneud,
byddai’r tîm Gorfodaeth Tai yn trefnu cynnal archwiliad. Mae’r broses newydd yn
berthnasol i bob cwyn a dderbynnir, heblaw am argyfyngau a gaiff eu
blaenoriaethu a’u harchwilio cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol.
Aeth y
Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd, Adfywio a Datblygu Economaidd ymlaen i egluro mai
ychydig iawn o gwynion a dderbyniwyd o ran Landlordiaid Cymdeithasol
Cofrestredig. Pe bai cwynion o’r fath yn cael eu derbyn, byddai’r tîm Gorfodaeth
Tai yn cynghori’r tenant yn y lle cyntaf i gysylltu â’u darparwr tai fel bod
cyfle gan eu landlord i fynd i’r afael â’u pryderon yn uniongyrchol. Hyd yma, nid oedd unrhyw achosion gyda
Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig lle’r oedd angen uwchgyfeirio
neu gyfranogiad pellach.
Eglurodd y
Rheolwr Strategol Cynllunio a Thai ail agwedd yr adroddiad yn ymwneud â’r camau
positif a gymerwyd gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig. Roedd dau o’r
chwe Landlord Cymdeithasol Cofrestredig lleol wedi rhoi copi o’u hymateb i
Lywodraeth Cymru i’r Cyngor i sicrhau’r Pwyllgor eu bod wedi ymateb i’r mater
fel landlordiaid cyfrifol. Rhoddwyd
crynodeb byr o’u hymateb fel a ganlyn: -
· Caiff pob adroddiad am damprwydd,
llwydni ac anwedd eu cofnodi a’u harchwilio, a bydd y llwyth achosion yn cael
ei fonitro gan uwch. swyddog gydag adroddiadau i’r uwch dimau arwain a’r
byrddau rheoli.
· Roedd prosesau clir ar waith i reoli pob
adroddiad gan aelwydydd, er mwyn sicrhau bod camau gweithredu’n digwydd yn
ddi-oed.
· Roedd yr aelwydydd a’r eiddo sydd â’r mwyaf o risg wedi’u targedu ar ... view the full Cofnodion text for item 7