Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

REVIEW OF CABINET DECISION RELATING TO THE APPLICATIONS SHORTLISTED FOR SHARED PROSPERITY FUNDING

Cyfarfod: 18/05/2023 - Pwyllgor Craffu Partneriaethau (Eitem 6)

6 ADOLYGU PENDERFYNIAD CABINET SY’N YMWNEUD Â’R CEISIADAU AR Y RHESTR FER AR GYFER CYLLID O’R GRONFA FFYNIANT GYFFREDIN pdf eicon PDF 392 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm - sy’n cynnwys atodiadau cyfrinachol) sy’n gofyn i’r Pwyllgor, yn unol â Rheolau Gweithdrefn Galw i Mewn y Cyngor, adolygu’r penderfyniad a wnaed gan y Cabinet ar 25 Ebrill 2023.

 

10.15am – 11.15am

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Aelodau, Swyddogion a’r Arweinydd, y Cynghorydd Jason McLellan i’r cyfarfod. Cafodd yr Aelodau wybodaeth gefndir a’r rhesymeg y tu ôl i’r cais i alw i mewn. 

 

Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa am y rhesymau dros alw i mewn fel y nodir yn yr arddodiad.

 

“Roedd dyraniad o £25.6 miliwn wedi ei wneud i Sir Ddinbych drwy Gronfa Ffyniant y DU. Mae’n rhaid cadw at broses agored a thryloyw ar gyfer dyrannu’r cyllid hwnnw.”

 

“Diffyg dealltwriaeth o’r broses ymgeisio a llunio rhestr fer. Nid oedd unrhyw dystiolaeth o fatrics sgorio, ac fe’i disgrifiwyd fel “Celf, nid Gwyddoniaeth”. Dim digon o dystiolaeth ynglŷn â sut y dyfarnwyd a chymeradwywyd prosiectau. Diffyg tystiolaeth yn alinio’r broses gyda chanllawiau Llywodraeth y DU. Dim tystiolaeth o hawl ymgeiswyr i apelio na chasglu gwybodaeth ychwanegol i ategu’r ceisiadau. Diffyg ymgynghori gyda’r holl Aelodau yn y broses.”

 

Rhoddodd y Cydlynydd Craffu ddisgrifiad manwl i Aelodau o’r drefn galw i mewn.

 

Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i’r holl lofnodwyr oedd yn bresennol i fynegi eu rhesymau dros alw penderfyniad y Cabinet i mewn.

 

Eglurodd y Llofnodwyr i’r Pwyllgor mai’r rheswm dros Alw i Mewn oedd i ddeall y broses yn llawn ar gyfer ymgeisio, llunio rhestr fer a dyfarnu arian y Gronfa Ffyniant Gyffredin, nid er mwyn dal y broses yn ôl mewn unrhyw ffordd. Tynnodd y Llofnodwyr sylw at eu siom yn y diffyg cyfathrebu ag Aelodau am y broses ac felly na chafodd Aelodau lawer o gyfle i gyfrannu. 

 

Mynegodd y Llofnodwyr eu pryderon am y matrics a’r system sgorio ac y byddai o fudd cael eglurhad am hyn. Dywedwyd bod Aelodau’n teimlo nad oeddent yn rhan o’r broses a bod llawer o gyfleoedd wedi cael eu methu drwy gydol y broses i gynnwys yr Aelodau. Parhaodd y drafodaeth pan holodd y Llofnodwyr am allu’r prosiectau oedd wedi symud i gam nesaf y broses i gyflawni.

 

Parhaodd y Llofnodwyr i bwysleisio eu bod yn siomedig â diffyg eglurder y broses a’r diffyg cyfathrebu ag Aelodau. Roeddent wedi llofnodi’r cais am alw i mewn oherwydd nad oeddent yn sicr sut i ateb cwestiynau posibl gan breswylwyr ac ymgeiswyr yn eu wardiau oherwydd y diffyg gwybodaeth oedd ar gael iddynt.

 

Wrth ymateb i’r pwyntiau a godwyd gan y Llofnodwyr, dywedodd yr Arweinydd ei fod yn deall cymhellion y Llofnodwyr oherwydd dylai Aelodau allu ateb cwestiynau’n hyderus gan breswylwyr ac ymgeiswyr yn eu wardiau.

 

Eglurodd yr Arweinydd fod y broses wedi cadw at ganllawiau Llywodraeth y DU, oedd wedi eu nodi eisoes. Roedd yr amserlenni ar gyfer y Gronfa’n dynn ac ysgrifennwyd at Arweinwyr Grŵp a Chadeiryddion pob un o Grwpiau Ardal yr Aelodau a gofynnwyd iddynt ddosbarthu’r wybodaeth berthnasol i Aelodau (roedd copi o e-bost, dyddiedig 15 Chwefror 2023 ynghlwm yn Atodlen C yr adroddiad). Cysylltwyd â 48 o sefydliadau i fod yn rhan o’r Gronfa, ac ymatebodd 12 ohonynt. Ymatebodd 1 Aelod Etholedig i brosiect penodol ac ni chafwyd unrhyw ymateb gan Aelodau eraill. 

 

Eglurodd yr Arweinydd y cadwyd at yr holl ganllawiau. Roedd gwybodaeth am y Gronfa Ffyniant Gyffredin ar gael ar y cyfryngau cymdeithasol a gwefan Cyngor Sir Ddinbych, yn nodi fod y Gronfa yno i gymryd rhan ynddi. Ar ddiwedd y cam ymgeisio, cafwyd gormod o geisiadau, llawer mwy o geisiadau na’r arian oedd ar gael.

 

Dywedodd y Pennaeth Tai a Chymunedau wrth Aelodau fod y broses ymgeisio wedi ei chyhoeddi ar-lein a bod rhestr fer wedi ei llunio yn dibynnu ar y cyllid oedd ar gael ac yn unol â chanllawiau Llywodraeth y DU. Roedd ymgeiswyr yn gallu gweld ar wefan CSDd pa gyllid oedd ar gael ar gyfer  ...  view the full Cofnodion text for item 6