Mater - cyfarfodydd
REVIEW OF CABINET DECISION RELATING TO THE APPLICATIONS SHORTLISTED FOR SHARED PROSPERITY FUNDING
Cyfarfod: 18/05/2023 - Pwyllgor Craffu Partneriaethau (Eitem 6)
Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm - sy’n cynnwys atodiadau
cyfrinachol) sy’n gofyn i’r Pwyllgor, yn unol â Rheolau Gweithdrefn Galw i
Mewn y Cyngor, adolygu’r penderfyniad a wnaed gan y Cabinet ar 25 Ebrill 2023.
10.15am – 11.15am
Dogfennau ychwanegol:
- Call-In Report Annex A, Eitem 6 PDF 38 KB
- Call-In Report 180523 Annex B Cabinet Report 250423, Eitem 6 PDF 390 KB
- Annex B Part 2 COMPLETE , View reasons restricted (6/4)
- ANNEX C Complete, Eitem 6 PDF 747 KB
- Webcast for ADOLYGU PENDERFYNIAD CABINET SY’N YMWNEUD Â’R CEISIADAU AR Y RHESTR FER AR GYFER CYLLID O’R GRONFA FFYNIANT GYFFREDIN
Cofnodion:
Croesawodd y Cadeirydd Aelodau, Swyddogion a’r Arweinydd,
y Cynghorydd Jason McLellan i’r cyfarfod. Cafodd yr Aelodau wybodaeth gefndir
a’r rhesymeg y tu ôl i’r cais i alw i mewn.
Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa am y rhesymau dros alw i
mewn fel y nodir yn yr arddodiad.
“Roedd dyraniad o £25.6 miliwn wedi ei wneud i Sir
Ddinbych drwy Gronfa Ffyniant y DU. Mae’n rhaid cadw at broses agored a
thryloyw ar gyfer dyrannu’r cyllid hwnnw.”
“Diffyg dealltwriaeth o’r broses ymgeisio a llunio rhestr
fer. Nid oedd unrhyw dystiolaeth o fatrics sgorio, ac fe’i disgrifiwyd fel
“Celf, nid Gwyddoniaeth”. Dim digon o dystiolaeth ynglŷn â sut y dyfarnwyd
a chymeradwywyd prosiectau. Diffyg tystiolaeth yn alinio’r broses gyda
chanllawiau Llywodraeth y DU. Dim tystiolaeth o hawl ymgeiswyr i apelio na
chasglu gwybodaeth ychwanegol i ategu’r ceisiadau. Diffyg ymgynghori gyda’r
holl Aelodau yn y broses.”
Rhoddodd y Cydlynydd Craffu ddisgrifiad manwl i Aelodau
o’r drefn galw i mewn.
Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i’r holl lofnodwyr oedd yn
bresennol i fynegi eu rhesymau dros alw penderfyniad y Cabinet i mewn.
Eglurodd y Llofnodwyr i’r Pwyllgor mai’r rheswm dros Alw
i Mewn oedd i ddeall y broses yn llawn ar gyfer ymgeisio, llunio rhestr fer a
dyfarnu arian y Gronfa Ffyniant Gyffredin, nid er mwyn dal y broses yn ôl mewn
unrhyw ffordd. Tynnodd y Llofnodwyr sylw at eu siom yn y diffyg cyfathrebu ag
Aelodau am y broses ac felly na chafodd Aelodau lawer o gyfle i gyfrannu.
Mynegodd y Llofnodwyr eu pryderon am y matrics a’r system
sgorio ac y byddai o fudd cael eglurhad am hyn. Dywedwyd bod Aelodau’n teimlo
nad oeddent yn rhan o’r broses a bod llawer o gyfleoedd wedi cael eu methu drwy
gydol y broses i gynnwys yr Aelodau. Parhaodd y drafodaeth pan holodd y
Llofnodwyr am allu’r prosiectau oedd wedi symud i gam nesaf y broses i
gyflawni.
Parhaodd y Llofnodwyr i bwysleisio eu bod yn siomedig â
diffyg eglurder y broses a’r diffyg cyfathrebu ag Aelodau. Roeddent wedi
llofnodi’r cais am alw i mewn oherwydd nad oeddent yn sicr sut i ateb
cwestiynau posibl gan breswylwyr ac ymgeiswyr yn eu wardiau oherwydd y diffyg
gwybodaeth oedd ar gael iddynt.
Wrth ymateb i’r pwyntiau a godwyd gan y Llofnodwyr,
dywedodd yr Arweinydd ei fod yn deall cymhellion y Llofnodwyr oherwydd dylai
Aelodau allu ateb cwestiynau’n hyderus gan breswylwyr ac ymgeiswyr yn eu
wardiau.
Eglurodd yr Arweinydd fod y broses wedi cadw at
ganllawiau Llywodraeth y DU, oedd wedi eu nodi eisoes. Roedd yr amserlenni ar
gyfer y Gronfa’n dynn ac ysgrifennwyd at Arweinwyr Grŵp a Chadeiryddion
pob un o Grwpiau Ardal yr Aelodau a gofynnwyd iddynt ddosbarthu’r wybodaeth
berthnasol i Aelodau (roedd copi o e-bost, dyddiedig 15 Chwefror 2023 ynghlwm
yn Atodlen C yr adroddiad). Cysylltwyd â 48 o sefydliadau i fod yn rhan o’r
Gronfa, ac ymatebodd 12 ohonynt. Ymatebodd 1 Aelod Etholedig i brosiect penodol
ac ni chafwyd unrhyw ymateb gan Aelodau eraill.
Eglurodd yr Arweinydd y cadwyd at yr holl ganllawiau.
Roedd gwybodaeth am y Gronfa Ffyniant Gyffredin ar gael ar y cyfryngau
cymdeithasol a gwefan Cyngor Sir Ddinbych, yn nodi fod y Gronfa yno i gymryd
rhan ynddi. Ar ddiwedd y cam ymgeisio, cafwyd gormod o geisiadau, llawer mwy o
geisiadau na’r arian oedd ar gael.
Dywedodd y Pennaeth Tai a Chymunedau wrth Aelodau fod y broses ymgeisio wedi ei chyhoeddi ar-lein a bod rhestr fer wedi ei llunio yn dibynnu ar y cyllid oedd ar gael ac yn unol â chanllawiau Llywodraeth y DU. Roedd ymgeiswyr yn gallu gweld ar wefan CSDd pa gyllid oedd ar gael ar gyfer ... view the full Cofnodion text for item 6