Mater - cyfarfodydd
Rhaglen Waith Archwilio
Cyfarfod: 18/05/2023 - Pwyllgor Craffu Partneriaethau (Eitem 8)
8 RHAGLEN WAITH CRAFFU PDF 240 KB
Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen
gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am
faterion perthnasol.
12.15pm – 12.30pm
Dogfennau ychwanegol:
- Partnerships FWP - App 11, Eitem 8 PDF 315 KB
- Work Programme Report - App 2E, Eitem 8 PDF 277 KB
- Work Programme Report - App 3, Eitem 8 PDF 319 KB
- Work Programme Report - App 4, Eitem 8 PDF 182 KB
- Work Programme Report 180523 - App 5, Eitem 8 PDF 248 KB
- Webcast for RHAGLEN WAITH CRAFFU
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu yr adroddiad a’r atodiadau (dosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r
Aelodau adolygu rhaglen waith y Pwyllgor ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar
faterion perthnasol.
Bydd cyfarfod nesaf y
Pwyllgor Craffu Partneriaethau yn cael ei gynnal ar 6 Gorffennaf 2023. Roedd 3
eitem sylweddol wedi eu rhestru ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor Craffu
Partneriaethau ar 6 Gorffennaf 2023:
·
Adroddiad Blynyddol
Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
·
Adroddiad
Blynyddol Diogelu Oedolion
·
Ail
bleidlais ar gyfer Ardal Gwelliannau Busnes Posibl y Rhyl - Ail Dymor
(gohiriwyd o raglen fusnes y cyfarfod presennol â chaniatâd y Cadeirydd)
Yng nghyfarfod mis
Ebrill y Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu, gofynnwyd am i
adroddiad ar Osod Lefelau Rhent Fforddiadwy ddod
gerbron y Pwyllgor Craffu Partneriaethau. Gofynnwyd hefyd am i gynrychiolydd
o’r Sector Landlordiaid Preifat gael gwahoddiad i’r cyfarfod. Roedd y Cydlynydd
Craffu wedi siarad â’r Rheolwr Strategol Cynllunio a Thai ac roeddent yn
gobeithio gallu cyflwyno adroddiad yng nghyfarfod mis Hydref y Pwyllgor.
Atgoffwyd yr
Aelodau am y Grwpiau Herio Gwasanaethau (dosbarthwyd gwybodaeth
ymlaen llaw) ac oherwydd bod gwasanaethau wedi cael eu hailstrwythuro, roedd 3
grŵp arall oedd angen cynrychiolwyr o’r Pwyllgor sef:-
·
Tai a Chymunedau
·
Gwasanaeth Cymorth
Corfforaethol: Perfformiad, Digidol ac Asedau
·
Gwasanaeth Cymorth
Corfforaethol: Pobl
Enwebodd y Cynghorydd
Martyn Hogg ei hun fel cynrychiolydd y Grŵp Gwasanaeth Cymorth
Corfforaethol: Perfformiad, Digidol ac
Asedau ac roedd Aelodau o blaid hynny.
Ni chafwyd
unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb ar gyfer y Grwpiau Herio Gwasanaethau Tai a
Chymunedau a Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Pobl a chytunwyd y byddai’r Pwyllgor yn chwilio am gynrychiolwyr ar gyfer y
grwpiau hyn yn ei gyfarfod nesaf.
Ar ddiwedd y drafodaeth:
Penderfynwyd:
(i)
yn amodol ar y newidiadau a’r cynnwys posibl a
amlinellir uchod ac yn ystod y cyfarfod, cadarnhau Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y
Pwyllgor fel y nodir yn Atodiad 1; a
(ii)
phenodi’r Cynghorydd Martyn Hogg fel cynrychiolydd
y Pwyllgor ar Grŵp Herio Gwasanaeth y Gwasanaeth Cymorth
Corfforaethol: Perfformiad, Digidol ac
Asedau a gofyn am ddatganiadau o ddiddordeb ar gyfer cynrychiolwyr y Pwyllgor
ar Grwpiau Herio Gwasanaethau Tai a Chymunedau a’r Gwasanaeth Cymorth
Corfforaethol: Pobl yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor.