Mater - cyfarfodydd
NORTH DENBIGHSHIRE COMMUNITY HOSPITAL PROJECT
Cyfarfod: 09/02/2023 - Pwyllgor Craffu Partneriaethau (Eitem 5)
PROSIECT YSBYTY CYMUNEDOL GOGLEDD SIR DDINBYCH
Trafod gyda
chynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ynglŷn â’u
cynlluniau a therfynau amser disgwyliedig ar gyfer darparu’r prosiect ysbyty a
chyfleusterau cysylltiedig.
10.15 A.M- 11 A.M
~~~~
EGWYL (11.00 A.M - 11.15 A.M) ~~~~
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Iechyd a Gofal
Cymdeithasol, y Cynghorydd Elen Heaton, Brosiect Ysbyty Cymunedol Gogledd Sir
Ddinbych i'r Pwyllgor. Bwriad y Prosiect oedd datblygu safle Ysbyty Brenhinol
Alexandra (RAH) yn y Rhyl.
Mynegodd yr Aelod Arweiniol bwysigrwydd y prosiect
oherwydd y pwysau presennol sy'n wynebu Ysbyty Glan Clwyd. Roedd y Prosiect yn
ddatblygiad hanfodol i Sir Ddinbych ac yn brif flaenoriaeth. Roedd Arweinwyr
Prosiect yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ac yn gweithio mewn
partneriaeth agos a pharhaus gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
(BIPBC).
Diolchodd
Cyfarwyddwr Gweithrediadau’r Gymuned Iechyd Integredig i’r Pwyllgor am gael ei
wahodd i’r cyfarfod ac aeth ymlaen i roi cyflwyniad a oedd yn cynnwys y manylion canlynol: -
·
Roedd y
Prosiect Cyfalaf yn gymhleth o ran darpariaeth.
·
Roedd
cyfleoedd i'r safle gynnwys gwasanaethau ychwanegol megis Uned Mân Anafiadau
drwy'r broses Achos Busnes.
·
Cymeradwywyd
Achos Busnes Llawn ar gyfer BIPBC ym mis Mawrth 2021.
·
Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2021 fod y prosiect yn
gadarn ac yn gymeradwy, a bod bellach angen nodi cyllid.
·
Cymeradwyodd BIPBC Strategaeth
Ystadau ym mis Ionawr 2023 gan osod y prosiect RAH o fewn y 6 uchaf, gydag
Achos Busnes Llawn wedi’i gwblhau.
·
Ym mis Ionawr 2023,
gofynnodd Llywodraeth Cymru i’r Bwrdd Iechyd gadarnhau bod yr RAH yn
flaenoriaeth a gofynnwyd am gymorth mewn egwyddor gan y Bwrdd Partneriaeth
Rhanbarthol. Roedd y Bwrdd Iechyd yn
llunio ymateb.
·
Unwaith y byddai
cymeradwyaeth lawn ar gyfer cyllid wedi'i rhoi, byddai'r prosiect yn cymryd 3
mis i'w roi ar waith a 31 mis i'r cam adeiladu gael ei gwblhau.
Eglurodd y
Cyfarwyddwr IHC fod yna broses fanwl yr oedd angen ei dilyn o fewn y Bwrdd
Iechyd ar gyfer pob datblygiad. Er bod hon wedi bod yn broses hirfaith, roedd
wedi rhoi’r cyfle i’r Bwrdd Iechyd sicrhau ei bod yn gywir, gan gynnwys nifer o
wasanaethau ychwanegol o bwys i’w cynnig ar safle RAH.
Eglurwyd y
broses gymeradwyo i’r Pwyllgor fel yr amlinellir isod:-
·
Achos
Amlinellol Strategol
·
Achos Busnes
Amlinellol
·
Achos Busnes
Llawn - Yna gellid cytuno ar gyllid.
Diolchodd y Cyfarwyddwr IHC i'r Cyngor am eu
partneriaeth agos wrth helpu i gyflawni'r prosiect a chroesawodd gwestiynau gan
yr aelodau.
Arweiniodd trafodaeth rhwng Aelodau at gwestiynau
ynghylch yr amser yr oedd wedi'i gymryd i gyrraedd y cam hwn o'r Prosiect, a
pha mor hir y byddai'n ei gymryd i sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru. Yn
anffodus, dywedodd y Cyfarwyddwr IHC nad oedd ganddi'r wybodaeth honno. Fodd
bynnag, rhoddodd sicrwydd i'r Pwyllgor y byddai llinell gyfathrebu barhaus wrth
symud ymlaen.
Mynegodd y Cynghorydd Martyn Hogg rai pryderon
ynghylch deall y broses gymeradwyo a'r camau sydd ynghlwm wrth bob cam.
Gofynnodd a oedd siart llif y gellid ei rhoi i ddangos hyn ac i gefnogi
dealltwriaeth yr aelodau o’r broses. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr IHC y byddai
siart llif yn nodi camau'r broses gymeradwyo fel y nodir uchod. Parhaodd i
egluro bod llwybr cylchol ar gyfer pob un o'r camau a amlinellwyd a oedd yn
caniatáu i gwestiynau gael eu gofyn. Cam presennol y prosiect oedd bod
cwestiynau wedi'u gofyn gan Lywodraeth Cymru a bod angen ymateb iddynt, byddai
hyn wedyn yn rhan o'r broses o gwblhau'r Achos Busnes a fyddai'n arwain at
gytuno ar gyllid. Dros yr wythnosau nesaf roedd y Cyfarwyddwr IHC yn obeithiol
y byddent wedi ymateb i Lywodraeth Cymru, ac y byddai hyn wedyn yn hwyluso'r
penderfyniad terfynol.
Holwyd sut olwg fyddai ar Ysbyty Brenhinol Alexandra unwaith y byddai'r gwaith adeiladu wedi'i gwblhau a pha wasanaethau y cytunwyd y byddai’n gweithredu o'r safle. Dywedodd Cyd-bennaeth Dros Dro Gwasanaethau Cymorth Cymunedol fod Achos Busnes Llawn wedi'i rannu'n flaenorol. Roedd hwn yn ... view the full Cofnodion text for item 5