Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

Cofnodion y cyfarfod diwethaf

Cyfarfod: 15/12/2022 - Pwyllgor Craffu Partneriaethau (Eitem 4)

4 COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 481 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 27 Hydref 2022 (copi ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 27 Hydref 2022. 

 

Materion yn codi:

Darpariaeth Contract Gwasanaethau Gorfodi Amgylcheddol (argymhelliad ii tudalen 8) – Gofynnodd y Cadeirydd a oedd yr argymhelliad wedi’i weithredu? Dywedodd y Cydlynydd Craffu fod y Gwasanaeth wedi cadarnhau eu bod wedi cysylltu â’r Tîm Cyfathrebu, gyda’r bwriad o lunio cynllun cyfathrebu i hysbysu preswylwyr, busnesau, cynghorau dinas, tref a chymuned am y newidiadau arfaethedig.

 

Penderfynodd y Pwyllgor:

y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Hydref 2022 fel cofnod cywir o’r trafodion.