Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

CORPORATE RISK REGISTER REVIEW, SEPTEMBER 2022

Cyfarfod: 24/11/2022 - Pwyllgor Craffu Perfformiad (Eitem 6)

6 ADOLYGIAD O'R GOFRESTR RISG GORFFORAETHOL, MEDI 2022 pdf eicon PDF 239 KB

Ystyried adroddiad ar y cyd gan yr Arweinydd Tîm Perfformiad a Chynllunio Strategol a Swyddog Perfformiad a Chynllunio Strategol (copi ynghlwm) sy’n gofyn i’r Pwyllgor drafod a rhoi sylwadau ar y risgiau, sgoriau a rheolaethau sydd wedi’u cynnwys yn y Gofrestr Risgiau Gorfforaethol a dull y Cyngor o ran rheoli risg.

10.40am – 11.10am

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol, y Cynghorydd Julie Matthews yr adroddiad i roi diweddariad ar yr Adolygiad o’r Gofrestr Risg Gorfforaethol, mis Medi 2022.

 

Yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth a’r Cabinet sydd yn datblygu a pherchen ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol. Caiff ei hadolygu ddwywaith y flwyddyn gan y Cabinet yn ystod sesiwn Friffio’r Cabinet.

 

Yn dilyn pob adolygiad, caiff y gofrestr ddiwygiedig ei chyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Perfformiad ac unwaith bob blwyddyn, i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Eglurodd swyddogion rôl a ffocws gwahanol pob Pwyllgor mewn perthynas â’r Gofrestr Risg.

 

Crynhodd y Swyddog Cynllunio Strategol a Pherfformiad, Emma Horan, y risgiau o fewn yr adroddiad fel a ganlyn -

·         Risg 01: Roedd y risg o wall diogelu neu ymarfer difrifol, ble roedd gan y Cyngor gyfrifoldeb, gan olygu niwed difrifol neu farwolaeth, wedi cynyddu yn ei sgôr cynhenid (A1 - Risg Critigol Bron yn Sicr / Effaith uchel iawn) a’i sgôr gweddilliol (A1 - Risg Critigol Bron yn Sicr / Effaith uchel iawn). Cafodd sgôr y risg ei gynyddu ar sail asesiad fod y siawns o hyn yn digwydd yn uwch ar hyn o bryd nag oedd yn flaenorol. Er nad yw’r Cyngor yn ystyried y tebygolrwydd fel “bron iawn yn sicr o ddigwydd yn y rhan fwyaf o amgylchiadau” (sef y diffiniad o Debygolrwydd Risg A yn methodoleg risg yr awdurdod), mae’r risg yn sicr wedi cynyddu. Felly teimlir ei bod yn briodol i gynyddu’r sgôr Tebygolrwydd Risg, ac roedd hynny’n golygu ei gynyddu o B i A. Mae cynyddu sgôr y risg yn galluogi i’r risg i gael ei flaenoriaethu a’i uwch gyfeirio ymhellach, sy’n teimlo’n briodol ac yn angenrheidiol ar hyn o bryd.

Nodwyd bod y Tîm Gweithredol Corfforaethol (CET) wedi cynnal adolygiad o Risg 01. Byddai Tîm Gweithredol Corfforaethol yn adolygu'r risg hwn yn fisol, a byddai'r Cabinet yn derbyn diweddariad ar lafar bob mis yng Nghyfarfod Briffio'r Cabinet.

·         Risg 12: Y risg o adroddiad(au) hynod o negyddol gan reoleiddwyr allanol. Roedd sgôr y risg wedi cynyddu i C3 - Risg Cymedrol: Effaith Posib / Canolig.

·         Risg 36: Y risg bod yr amgylchedd economaidd ac ariannol wedi gwaethygu y tu hwnt i ddisgwyliadau cyfredol, a chafodd effaith niweidiol ar fusnesau lleol a chaledi economaidd i’r gymuned leol. Roedd y sgoriau risg cynhenid a gweddilliol wedi cynyddu.

·         Risg 43: Y risg nad oedd gan y Cyngor y cronfeydd neu’r adnoddau i fodloni ei oblygiadau statudol o dan y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018. Roedd y cynnig a amlygwyd yn adolygiad mis Medi 2022 i ddad-uwchgyfeirio’r risg hon i’w rheoli gan y Gwasanaethau Plant ac Addysg wedi’i gytuno gan y Cabinet mewn Cyfarfod Briffio Cabinet ar 14 Tachwedd, 2022.

·         Risg 44: Y risg o Glefyd Coed Ynn (ADB) yn Sir Ddinbych yn arwain at achosion iechyd a diogelwch sylweddol a oedd yn cynrychioli risg posib i fywyd. Perchennog y risg yn awr oedd Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad. Ar sail  gwybodaeth well, roedd y sgoriau risg cynhenid a gweddilliol wedi gostwng (ond yn parhau y tu hwnt i barodrwydd y cyngor i dderbyn risg).

·         Risg 47: Roedd y risg y byddai Cydbwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru (CJC) newydd yn golygu bod gan y Cyngor llai o ddylanwad a rheolaeth ar lefel leol. Y cynnig oedd dad-uwchgyfeirio’r risg hwn er mwyn iddo gael ei reoli gan Wasanaeth(au). Roedd y cynnig a amlygwyd yn adolygiad mis Medi 2022 – i ddad-uwchgyfeirio’r risg hwn i’w rheoli gan y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd – wedi’i gytuno gan y Cabinet yng nghyfarfod Briffio’r Cabinet ar 14 Tachwedd, 2022.

Yn ystod  ...  view the full Cofnodion text for item 6