Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

PHASE 2 SOCIAL HOUSING RETROFIT WORKS - RHYDWEN DRIVE, RHYL

Cyfarfod: 29/09/2022 - Cabinet (Eitem 6)

6 CAM 2 GWAITH ÔL-OSOD TAI CYMDEITHASOL - RHYDWEN DRIVE, Y RHYL pdf eicon PDF 233 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau (copi ynghlwm) sy’n ceisio cymeradwyaeth i fwrw ymlaen â Dyfarnu Contract Uniongyrchol i Sustainable Building Services mewn perthynas â gwaith ôl-osod ynni.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn:

 

(a)       dyfarnu’r contract yn uniongyrchol i’r contractwr sy’n ymgymryd â cham 1 y gwaith ar hyn o bryd yn seiliedig ar y cyfraddau cystadleuol a geir drwy Fframwaith Ynni’r Gynghrair Caffael Gymreig fel y cytunwyd arnynt gan yr Adain Gaffael, a

 

(b)       bod y cyfnod galw i mewn 5 diwrnod sydd ei angen cyn gweithredu penderfyniad y Cabinet yn cael ei hepgor ar y sail bod y contract presennol yn dod i ben ar 30 Medi 2022 ac y bydd unrhyw oedi o ran dyfarnu’r contract yn arwain at gostau ychwanegol ac oedi yn y rhaglen gan arwain at y risg o fethu dyddiadau cau a nodwyd wrth amodi bod rhaid gwario grantiau erbyn dyddiadau penodol.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Rhys Thomas yr adroddiad i geisio cymeradwyaeth i fwrw ymlaen i ddyfarnu’r contract gwaith ôl-osod ynni i Sustainable Building Services.

 

Yn unol â gwaith cynnal a chadw cyfalaf y cyngor, roedd cyllid wedi’i ddiogelu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwaith ôl-osod er mwyn optimeiddio arbedion ynni mewn cartrefi ac er budd tenantiaid. Roedd cyllid blaenorol wedi galluogi Cam 1 y gwaith ynni i 55 o dai ar Rhydwen Drive a’r bwriad oedd defnyddio’r cyllid diweddaraf i barhau â’r gwaith ar gyfer 44 o dai eraill ar y stryd. Roedd manylion y gwaith gwella a manteision parhau â’r cynllun wedi cael eu nodi ac argymhellwyd bod y Cabinet yn cymeradwyo dyfarnu’r contract drwy Fframwaith Cynghrair Cymru fel bod y contractwr sydd ar y safle ar hyn o bryd yn gallu parhau â’r gwaith i Gam 2. Daeth contract Cam 1 i ben ar 30 Medi felly gofynnwyd i’r Cabinet gymeradwyo dyfarnu’r contract ar unwaith gan y byddai unrhyw oedi yn arwain at gostau ychwanegol ac oedi i’r rhaglen.

 

Canmolodd y Cabinet y gwaith rhagorol oedd eisoes wedi’i wneud ac roedd y Cyngor ar flaen y gad o ran symud ymlaen â gwaith gwella ynni, yn enwedig yn un o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru, ac roedd tenantiaid yn manteisio ar filiau ynni is ar adeg o ansicrwydd o ran tanwydd. Roedd y Cabinet hefyd yn croesawu’r manteision cymunedol o ran hyfforddiant a phrentisiaethau, yn cynnwys 12 prentisiaeth leol, ac roedd aelodau’n awyddus i’r cyngor barhau i gefnogi’r prentisiaid hyn i sicrhau eu bod yn cael cymwysterau da a chyflogaeth i’r dyfodol. Cadarnhaodd y Swyddog Arweiniol Eiddo  Corfforaethol a Stoc Dai fod Sir Ddinbych yn dal ar flaen y gad er bod gwaith tebyg wedi cael ei wneud gan awdurdodau lleol eraill. Byddai Cam 2 yn galluogi’r 12 prentis o Gam 1 barhau â’u cyflogaeth a chael y cymwysterau perthnasol erbyn diwedd yr ail gam. Rhoddwyd sicrwydd y byddai’r prentisiaid yn cael eu cefnogi i gael cyflogaeth llawn amser ar ôl cwblhau’r gwaith, a chyfeiriwyd at Sir Ddinbych yn Gweithio fel ffordd arall o ddarparu cymorth i sicrhau bod y prentisiaid yn cael gwaith pellach os nad oedd yn bosibl iddynt gael gwaith gan y contractwr ar y safle. 

 

O ran dyfarnu’r contract a’r posibilrwydd o hepgor y cyfnod galw i mewn 5 diwrnod, cadarnhaodd y Swyddog Arweiniol, os byddai’r Cabinet yn cymeradwyo dyfarnu’r contract, byddai’n rhoi hyder i’r contractwyr ac eraill yn y gadwyn gyflenwi y byddai’r dyfarniad ar ddigwydd a sicrhau pontio llyfn i Gam 2. Rhoddodd y Swyddog Monitro gyd-destun cyfreithiol a darpariaeth yng nghyfansoddiad y cyngor i hepgor y galw i mewn ar gyfer penderfyniadau brys pan fo’r rhesymau dosto wedi eu nodi.

 

Ystyriodd y Cabinet argymhellion yr adroddiad a - 

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn:

 

(a)       dyfarnu’r contract yn uniongyrchol i’r contractwr sy’n ymgymryd â cham 1 y gwaith ar hyn o bryd yn seiliedig ar y cyfraddau cystadleuol a geir drwy Fframwaith Ynni Cynghrair Caffael Cymru fel y cytunwyd arnynt gan yr Adain Gaffael, a

 

(b)       bod y cyfnod galw i mewn 5 diwrnod sydd ei angen cyn gweithredu penderfyniad y Cabinet yn cael ei hepgor ar y sail bod y contract presennol yn dod i ben ar 30 Medi 2022 ac y bydd unrhyw oedi o ran dyfarnu’r contract yn arwain at gostau ychwanegol ac oedi yn y rhaglen gan arwain at y risg o fethu dyddiadau cau a nodwyd wrth amodi bod rhaid gwario grantiau erbyn dyddiadau penodol.