Mater - cyfarfodydd
ADOPTION OF THE NORTH WALES REGIONAL ECONOMIC FRAMEWORK
Cyfarfod: 07/06/2022 - Cabinet (Eitem 6)
6 MABWYSIADU FFRAMWAITH ECONOMAIDD RHANBARTHOL GOGLEDD CYMRU PDF 217 KB
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros
Dwf Economaidd ac ymdrin ag Addifadedd (copi yn amgaeedig) yn cyflwyno
Fframwaith Economaidd Rhanbarthol Gogledd Cymru i’w fabwysiadu.
Dogfennau ychwanegol:
- NW REGIONAL ECONOMIC FRAMEWORK - APPENDIX 1 E, Eitem 6 PDF 2 MB
- Webcast for MABWYSIADU FFRAMWAITH ECONOMAIDD RHANBARTHOL GOGLEDD CYMRU
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn
cefnogi a mabwysiadu Fframwaith Economaidd Rhanbarthol Gogledd Cymru.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Jason
McLellan yr adroddiad a Fframwaith Economaidd Rhanbarthol Gogledd Cymru (NWREF)
i’w mabwysiadu.
Roedd NWREF yn hyrwyddo
datblygiad economaidd cydweithredol ar draws y rhanbarth trwy set o
flaenoriaethau a rennir ac y cytunwyd arnynt ar gyfer cyflawni ymhlith
partneriaid rhanbarthol. Mae’r
Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (Gweithio Gyda’n Gilydd i sicrhau Economi Gogledd
Cymru gryfach) yn nodi sut y byddai Llywodraeth Cymru, Bwrdd Uchelgais Economaidd
Gogledd Cymru a phartneriaid eraill yn gweithio mewn partneriaeth ac yn
cyflawni yn erbyn un fframwaith cyffredin.
Darparodd Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd
a Gwasanaethau Cefn Gwlad rywfaint o gefndir ynghylch y cydweithio ac
ymgysylltu wedi'i dargedu ag ystod o randdeiliaid allweddol wrth ddylunio'r
ymagwedd at ddatblygu economaidd a blaenoriaethau a rennir ar gyfer y
rhanbarth. Roedd NWREF yn adeiladu ar
lawer o’r gwaith da presennol a byddai’n gorwedd uwchlaw llawer o’r cynlluniau
a’r strategaethau sydd eisoes ar waith neu i’w datblygu dros y misoedd a’r
blynyddoedd nesaf. Roedd yn nodi ffordd
wahanol o edrych ar dwf economaidd gyda dull cyfannol yn seiliedig ar
egwyddorion Economi Llesiant â thair thema graidd (1) Llesiant Cymdeithasol a
Chymunedol, (2) Economi Carbon ac Allyriadau Isel, a (3) yr Economi Profiad,
gyda nifer o flaenoriaethau wedi'u strwythuro o amgylch y themâu hynny. Roedd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd
Cymru (NWEAB) wedi cyd-gynhyrchu’r ddogfen ac wedi argymell y dylai pob un o’r
chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru ei chymeradwyo. Byddai'r fframwaith lefel uchel yn destun
gwaith pellach a datblygiad ar ôl ei fabwysiadu.
Croesawodd y Cabinet NWREF a
chydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a phartneriaid ar draws y rhanbarth a’r
manteision a fyddai’n dod i’r ardal yn ei sgil.
Trafododd y Cabinet y fframwaith gyda swyddogion, gan amlygu nifer o
feysydd pwysig yn y ddogfen a materion i’w datblygu ymhellach –
·
roedd cofrestriad myfyrwyr ar gyrsiau addysg uwch yng Ngogledd Cymru yn
13% (yn erbyn poblogaeth o 22%) ac roedd angen cynyddu’r ganran honno i
adlewyrchu’r boblogaeth ranbarthol yn well a chadw oedolion ifanc yn yr ardal.
·
roedd partneriaid presennol yn cynnwys colegau addysg uwch ac roedd y
fframwaith yn cynnwys llawer o gyfeiriadau at ddatblygu cyfleoedd i bobl ifanc
o ran swyddi gwell mewn sectorau sy’n bwysig i’r rhanbarth
·
tra bod 37% o ynni adnewyddadwy yn cael ei gynhyrchu yng Ngogledd Cymru,
dim ond 8% oedd mewn perchnogaeth leol, ac roedd angen mwy o fanylion ynghylch
sut y gellid cynyddu’r ganran honno i sicrhau bod buddion cynlluniau o’r fath
yn cael eu cadw yn y rhanbarth
·
pwysleisiwyd sicrhau’r set sgiliau cywir yn y rhanbarth ac awgrymwyd y
byddai cyfranogiad pellach gan ysgolion yn fuddiol yn hynny o beth, yn enwedig
o ystyried y cyfleoedd a gyflwynir gyda’r cwricwlwm newydd i deilwra’r cynnig
yn lleol i’r hyn sy’n berthnasol i bobl ifanc yr ardal, cyn ac yn arwain i fyny
at amgylchedd y coleg. Nodwyd bod y
Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol wedi’i halinio’n agos â’r NWEAB ac y gellid
gwneud gwaith i gysylltu’r elfennau hynny ymhellach â’r fframwaith.
·
roedd llawer o wahanol strategaethau a chynlluniau ar waith eisoes a
byddai NWREF yn eistedd uwchben y rheini i ddarparu cyd-destun strategol a nodi
unrhyw fylchau neu wendidau a allai fod yn y rhanbarth gyda’r bwriad o fynd i’r
afael â hwy.
·
roedd datblygiad economaidd mewn ardaloedd gwledig yn fater allweddol i
siroedd y rhanbarth ac roedd yn bwysig bod yr economi wledig yn datblygu gyda
chysylltiadau trafnidiaeth priodol i ardaloedd llai hygyrch a busnes/tai
addas. Roedd y fframwaith yn darparu
persbectif cyfannol o’r economi ac yn cynnwys trafnidiaeth, seilwaith digidol a
theithio llesol a fyddai’n rhan o drafodaethau yn y dyfodol.
· Dylid cefnogi datblygiad cwmnïau cynhenid yn Sir Ddinbych i lenwi unrhyw fylchau ... view the full Cofnodion text for item 6