Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

COUNCIL PERFORMANCE SELF-ASSESSMENT 2021 TO 2022

Cyfarfod: 07/06/2022 - Cabinet (Eitem 5)

5 ADRODDIAD HUNANASESU PERFFORMIAD Y CYNGOR 2021 I 2022 pdf eicon PDF 229 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi yn amgaeedig) yn cyflwyno Hunanasesiad Perfformiad y Cyngor ar gyfer 2021 i 2022 i’w gadarnhau cyn ei gyflwyno i’r Cyngor i’w gymeradwyo.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cadarnhau fod yr Adroddiad Hunanasesu Perfformiad yn adlewyrchiad cywir o Berfformiad y Cyngor yn ystod 2021/22 ac yn argymell fod y Cyngor yn ei gymeradwyo.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad a Hunanasesiad Perfformiad y Cyngor 2021 i 2022 i’r Cabinet eu hystyried cyn eu cyflwyno i’r Cyngor i’w cymeradwyo ym mis Gorffennaf 2022.  Cynigiodd welliant i argymhelliad yr adroddiad, bod y Cabinet yn cadarnhau’r adroddiad fel adlewyrchiad cywir o Berfformiad y Cyngor yn ystod 2021/22 ac argymell ei gymeradwyo gan y Cyngor.

 

Darparodd yr Hunanasesiad Perfformiad ddadansoddiad diwedd blwyddyn o gynnydd a heriau yn erbyn amcanion perfformiad allweddol (h.y. Blaenoriaethau’r Cynllun Corfforaethol) ac yn y saith maes llywodraethu ynghyd â naratif ar weithgarwch cynghorau i gefnogi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.  Hon oedd y ddogfen statudol ofynnol gyntaf a ysgrifennwyd mewn ymateb i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 ac roedd yn bodloni gofynion y Cyngor o dan nifer o ddarnau o ddeddfwriaeth.

 

Arweiniodd y Cyd-Bennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio Dros Dro ac Arweinydd y Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad yr aelodau drwy fanylion yr adroddiad a oedd yn cynnwys tri atodiad.  Roedd yn cyflwyno Crynodeb Gweithredol (Atodiad I) yn amlygu perfformiad yn erbyn amcanion a'r saith maes llywodraethu ac yn edrych ymlaen at heriau'r dyfodol a meysydd i'w gwella; yr Adroddiad Diweddaru Perfformiad chwarterol rheolaidd (Atodiad II) ar gyfer Ionawr - Mawrth 2022, a oedd yn cyfuno â'r Crynodeb Gweithredol a'r tri Adroddiad Diweddaru blaenorol yn ffurfio'r Hunanasesiad ar gyfer 2021 i 2022; a Chrynodeb Perfformiad o'r Cynllun Corfforaethol 2017 – 2022 (Atodiad III).  Amlygwyd adroddiadau rheolaiddfel un o ofynion monitro hanfodol o’r fframwaith rheoli perfformiad.  Amlygodd swyddogion nifer o negeseuon allweddol yn deillio o'r Crynodeb Gweithredol mewn perthynas â Chydraddoldeb ac Amrywiaeth; darparwyd trosolwg o bob un o’r amcanion perfformiad, a hefyd adroddwyd yn erbyn pob un o’r meysydd llywodraethu.

 

Croesawodd y Cabinet yr adroddiad cynhwysfawr a gwerthusiad o berfformiad y Cyngor o ran cyflawni ei flaenoriaethau corfforaethol.  Cofnododd y Cynghorydd Gill German ei gwerthfawrogiad o'r Crynodeb Gweithredol a oedd yn arbennig o ddefnyddiol iddi wrth amlygu'r meysydd perfformiad a llywio'r Cynllun Corfforaethol newydd wrth symud ymlaen.  Ategodd y Cynghorydd Julie Matthews y teimladau hynny ac roedd yn falch o nodi'r cyfeiriadau at Gydraddoldeb a'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol Dros Dro.

 

Canolbwyntiwyd ar y prif faterion trafod a ganlyn -

 

·         Roedd y Cynghorydd Emrys Wynne yn awyddus i weld adroddiadau cynnydd yn y dyfodol ar ddarpariaeth teithio llesol yn y sir ac eglurodd swyddogion fod yr adroddiad yn cyd-fynd â’r Cynllun Corfforaethol a chyfeiriodd at ei gynnwys – roedd y Cynllun Corfforaethol newydd yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd i’w gyflwyno i’r Cyngor i’w gadarnhau ym mis Hydref.

·         Roedd Tai Gofal Ychwanegol Awel y Dyffryn (Dinbych) wedi’u canmol yn fawr ond roedd gwaith i symud Cynllun Tai Gofal Ychwanegol Rhuthun yn ei flaen wedi wynebu oedi sylweddol – disgwylir y byddai gwaith yn dechrau ar y safle ddiwedd Mehefin/dechrau Gorffennaf a byddai’r aelodau’n parhau i gael eu diweddaru fel byddai’r datblygiad yn dod yn ei flaen.

·         Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bobby Feeley, amlygodd yr Arweinydd bwysigrwydd Newid Hinsawdd fel mater a oedd yn eistedd yn dda o fewn portffolio’r Cynghorydd Barry Mellor ynghyd â thrafnidiaeth a rheoli gwastraff i yrru’r agenda honno yn ei blaen, a byddai’n rhan enfawr o waith y Cabinet yn y dyfodol gan gynnwys cyrraedd targed sero carbon net y Cyngor.

·         Gofynnodd y Cynghorydd Joan Butterfield am fanylion ôl troed carbon datblygiadau newydd/prosiectau seilwaith gan ddatblygwyr a’u cynnwys mewn adroddiadau pwyllgor yn y dyfodol a chadarnhaodd yr Arweinydd y byddai’n mynd i’r afael â’r mater yn uniongyrchol gyda’r Cynghorydd Barry Mellor a swyddogion perthnasol.  Ychwanegodd y Cynghorydd Win Mullen-James fod Cyngor Tref y Rhyl yn gofyn am ddatganiad ar effaith y datblygiad ar newid  ...  view the full Cofnodion text for item 5