Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

REVIEW OF CABINET DECISION RELATING TO THE PROPOSES SCHEME OF DELEGATED DECISION MAKING FOR LAND ACQUISITION (FREEHOLD AND LEASEHOLD) FOR CARBON SEQUESTRATION AND ECOLOGICAL IMPROVEMENT PURPOSES

Cyfarfod: 10/03/2022 - Pwyllgor Craffu Cymunedau (Eitem 5)

5 ADOLYGIAD O BENDERFYNIAD Y CABINET MEWN PERTHYNAS Â’R CYNLLUN PENDERFYNIADAU DIRPRWYEDIG ARFAETHEDIG AR GYFER CAFFAEL TIR (RHYDD-DDALIADOL A LESDDALIADOL) I DDIBENION DAL A STORIO CARBON A GWELLIANNAU ECOLEGOL pdf eicon PDF 289 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu i adolygu penderfyniad y Cabinet (copi ynghlwm).

10.10 a.m. – 11.00 a.m.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyn i’r drafodaeth ar yr eitem hon o fusnes ddechrau gadawodd y Cynghorydd Huw Williams y Gadair oherwydd ei fod yn un o lofnodwyr y cais galw i mewn ac am y rheswm hwnnw roedd yn ofynnol iddo gyfrannu at y drafodaeth.  Cymerodd yr Is-gadeirydd, y Cynghorydd Graham Timms, y Gadair ar gyfer yr eitem hon o fusnes.

 

Dywedodd yr Is-gadeirdd wrth y Pwyllgor bod rhybudd o ‘alw i mewn’’ wedi’i gyflwyno gan 6 chynghorydd nad ydynt yn aelodau o’r Cabinet yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor. Roedd y rhybudd yn galw am adolygiad gan un o Bwyllgorau Craffu’r Cyngor o benderfyniad a wnaeth y Cabinet ar 14 Chwefror 2022 mewn perthynas â chynllun gwneud penderfyniadau dirprwyedig arfaethedig ar gyfer caffael tir i dibenion amgylcheddol ac ecolegol.  Aeth ymlaen i egluro y cyhoeddwyd penderfyniad y Cabinet ar 17 Chwefror 2022. Mae’r weithdrefn ‘galw i mewn’ yn caniatáu 5 diwrnod gwaith i gynghorwyr nad ydynt yn aelodau o’r Cabinet gyflwyno rhybudd o ‘alw i mewn’ yn gofyn bod Craffu’n adolygu’r penderfyniad.  Unwaith y derbynnir rhybudd galw i mewn nid oes gan y gwneuthurwr penderfyniadau hawl i roi’r penderfyniad ar waith hyd nes bod Craffu wedi adolygu’r penderfyniad ac wedi adrodd yn ôl i’r gwneuthurwr penderfyniadau ar ganlyniad yr adolygiad.  Mae disgwyl i Craffu gynnal cyfarfod i adolygu’r penderfyniad o fewn 5 diwrnod gwaith o dderbyn hysbysiad dilys o alw i mewn.  Fodd bynnag oherwydd nad oedd unrhyw frys uniongyrchol i weithredu’r penderfyniad, roedd y Cabinet, sef y gwneuthurwr  penderfyniad, wedi cytuno y gellid oedi’r adolygiad tan y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Craffu, sef y cyfarfod hwn.  Cyflwynodd y Cynghorydd Merfyn Parry rybudd o ‘alw i mewn’ yn electronig ar 23 Chwefror.  Cefnogwyd y cais (drwy e-byst unigol) gan 5 cynghorydd arall nad ydynt yn aelodau o’r Cabinet, sef y Cynghorwyr David G Williams, Melvyn Mile, Huw O Williams, Rhys Thomas a Peter Evans, gyda phob un ohonynt wedi’u gwahodd i fynychu’r cyfarfod Pwyllgor i amlinellu eu rhesymau dros gefnogi’r cais galw i mewn.   

 

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu, Rhian Evans, yr adroddiad a’r atodiadau (wedi’u dosbarthu eisoes) a oedd yn egluro’r cefndir i benderfyniad y Cabinet a’r sail dros ei alw i mewn am adolygiad gan Bwyllgor Craffu.  Aeth ymlaen wedyn i sôn am y drefn a fyddai’n cael ei dilyn yn y cyfarfod i ystyried y penderfyniad a alwyd i mewn am adolygiad.

 

Gwahoddwyd y Cynghorydd Merfyn Parry, fel llofnodwr arweiniol y galw i mewn, i gyflwyno rhesymau’r llofnodwyr dros y cais am adolygiad o’r penderfyniad.  Yn ei anerchiad dywedodd bod gan y llofnodwyr bryderon y byddai’r Cyngor, pe cadarnhawyd y penderfyniad, mewn sefyllfa i ‘gipio tir’ mewn ocsiwn drwy o bosibl gynnig mwy amdano na ffermwyr a pherchnogion tir lleol. Er yn deall na fyddai gan y Cyngor ddiddordeb mewn prynu’r tir amaethyddol gorau, roeddent fodd bynnag yn teimlo bod angen trafod penderfyniadau i brynu tir i ddibenion dal a storio carbon a gwelliannau ecolegol gydag aelodau lleol a’r Grwpiau Aelodau Ardal Lleol cyn gwneud unrhyw gais, gan ei bod yn bwysig i’r Awdurdod ddeall y wybodaeth leol ac angen lleol cyn gwneud cais am barsel o dir.

 

Yna gwahoddwyd yr Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a’r Amgylchedd, y Cynghorydd Brian Jones, i grynhoi’r drafodaeth a gafwyd a’r penderfyniad a wnaed gan y Cabinet at 15 Chwefror 2022.  Rhoddodd amlinelliad o’r ymgynghori a oedd wedi digwydd hyd yma a chadarnhaodd nad oedd unrhyw gynlluniau i brynu tir amaethyddol Gradd 1 i ddibenion dal a storio carbon a gwelliannau ecolegol. 

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol mai pwrpas y broses gwneud penderfyniadau dirprwyedig arfaethedig i’r diben  ...  view the full Cofnodion text for item 5