Mater - cyfarfodydd
REVIEW OF CABINET DECISION RELATING TO THE PROPOSES SCHEME OF DELEGATED DECISION MAKING FOR LAND ACQUISITION (FREEHOLD AND LEASEHOLD) FOR CARBON SEQUESTRATION AND ECOLOGICAL IMPROVEMENT PURPOSES
Cyfarfod: 10/03/2022 - Pwyllgor Craffu Cymunedau (Eitem 5)
Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Craffu i adolygu penderfyniad y Cabinet (copi
ynghlwm).
10.10 a.m. – 11.00 a.m.
Dogfennau ychwanegol:
- Annex A Call-In Report, Eitem 5 PDF 361 KB
- Annex B Call-In Report Welsh, Eitem 5 PDF 1 MB
- Webcast for ADOLYGIAD O BENDERFYNIAD Y CABINET MEWN PERTHYNAS Â’R CYNLLUN PENDERFYNIADAU DIRPRWYEDIG ARFAETHEDIG AR GYFER CAFFAEL TIR (RHYDD-DDALIADOL A LESDDALIADOL) I DDIBENION DAL A STORIO CARBON A GWELLIANNAU ECOLEGOL
Cofnodion:
Cyn i’r drafodaeth ar yr eitem hon o fusnes ddechrau
gadawodd y Cynghorydd Huw Williams y Gadair oherwydd ei fod yn un o lofnodwyr y
cais galw i mewn ac am y rheswm hwnnw roedd yn ofynnol iddo gyfrannu at y
drafodaeth. Cymerodd yr Is-gadeirydd, y
Cynghorydd Graham Timms, y Gadair ar gyfer yr eitem hon o fusnes.
Dywedodd yr Is-gadeirdd wrth y Pwyllgor bod rhybudd
o ‘alw i mewn’’ wedi’i gyflwyno gan 6 chynghorydd nad ydynt yn aelodau o’r
Cabinet yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor. Roedd y rhybudd yn galw am adolygiad
gan un o Bwyllgorau Craffu’r Cyngor o benderfyniad a wnaeth y Cabinet ar 14
Chwefror 2022 mewn perthynas â chynllun gwneud penderfyniadau dirprwyedig
arfaethedig ar gyfer caffael tir i dibenion amgylcheddol ac ecolegol. Aeth ymlaen i egluro y cyhoeddwyd
penderfyniad y Cabinet ar 17 Chwefror 2022. Mae’r weithdrefn ‘galw i mewn’ yn
caniatáu 5 diwrnod gwaith i gynghorwyr nad ydynt yn aelodau o’r Cabinet
gyflwyno rhybudd o ‘alw i mewn’ yn gofyn bod Craffu’n adolygu’r
penderfyniad. Unwaith y derbynnir rhybudd
galw i mewn nid oes gan y gwneuthurwr penderfyniadau hawl i roi’r penderfyniad
ar waith hyd nes bod Craffu wedi adolygu’r penderfyniad ac wedi adrodd yn ôl
i’r gwneuthurwr penderfyniadau ar ganlyniad yr adolygiad. Mae disgwyl i Craffu gynnal cyfarfod i
adolygu’r penderfyniad o fewn 5 diwrnod gwaith o dderbyn hysbysiad dilys o alw
i mewn. Fodd bynnag oherwydd nad oedd
unrhyw frys uniongyrchol i weithredu’r penderfyniad, roedd y Cabinet, sef y
gwneuthurwr penderfyniad, wedi cytuno y
gellid oedi’r adolygiad tan y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Craffu, sef y
cyfarfod hwn. Cyflwynodd y Cynghorydd
Merfyn Parry rybudd o ‘alw i mewn’ yn electronig ar 23 Chwefror. Cefnogwyd y cais (drwy e-byst unigol) gan 5
cynghorydd arall nad ydynt yn aelodau o’r Cabinet, sef y Cynghorwyr David G
Williams, Melvyn Mile, Huw O Williams, Rhys Thomas a Peter Evans, gyda phob un
ohonynt wedi’u gwahodd i fynychu’r cyfarfod Pwyllgor i amlinellu eu rhesymau
dros gefnogi’r cais galw i mewn.
Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu, Rhian Evans, yr
adroddiad a’r atodiadau (wedi’u dosbarthu eisoes) a oedd yn egluro’r cefndir i
benderfyniad y Cabinet a’r sail dros ei alw i mewn am adolygiad gan Bwyllgor
Craffu. Aeth ymlaen wedyn i sôn am y
drefn a fyddai’n cael ei dilyn yn y cyfarfod i ystyried y penderfyniad a alwyd
i mewn am adolygiad.
Gwahoddwyd y Cynghorydd Merfyn Parry, fel llofnodwr
arweiniol y galw i mewn, i gyflwyno rhesymau’r llofnodwyr dros y cais am
adolygiad o’r penderfyniad. Yn ei
anerchiad dywedodd bod gan y llofnodwyr bryderon y byddai’r Cyngor, pe
cadarnhawyd y penderfyniad, mewn sefyllfa i ‘gipio tir’ mewn ocsiwn drwy o
bosibl gynnig mwy amdano na ffermwyr a pherchnogion tir lleol. Er yn deall na
fyddai gan y Cyngor ddiddordeb mewn prynu’r tir amaethyddol gorau, roeddent
fodd bynnag yn teimlo bod angen trafod penderfyniadau i brynu tir i ddibenion
dal a storio carbon a gwelliannau ecolegol gydag aelodau lleol a’r Grwpiau
Aelodau Ardal Lleol cyn gwneud unrhyw gais, gan ei bod yn bwysig i’r Awdurdod
ddeall y wybodaeth leol ac angen lleol cyn gwneud cais am barsel o dir.
Yna gwahoddwyd yr Aelod Arweiniol Gwastraff,
Cludiant a’r Amgylchedd, y Cynghorydd Brian Jones, i grynhoi’r drafodaeth a
gafwyd a’r penderfyniad a wnaed gan y Cabinet at 15 Chwefror 2022. Rhoddodd amlinelliad o’r ymgynghori a oedd
wedi digwydd hyd yma a chadarnhaodd nad oedd unrhyw gynlluniau i brynu tir
amaethyddol Gradd 1 i ddibenion dal a storio carbon a gwelliannau
ecolegol.
Cadarnhaodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol mai pwrpas y broses gwneud penderfyniadau dirprwyedig arfaethedig i’r diben ... view the full Cofnodion text for item 5