Mater - cyfarfodydd
Rhaglen Waith Archwilio
Cyfarfod: 10/03/2022 - Pwyllgor Craffu Cymunedau (Eitem 8)
8 Rhaglen Waith Archwilio PDF 240 KB
Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen
gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am
faterion perthnasol.
12.15 p.m. – 12.30 p.m.
Dogfennau ychwanegol:
- Communities FWP - App 1[1], Eitem 8 PDF 301 KB
- Work Programme Report - App 2W, Eitem 8 PDF 277 KB
- Work Programme Report - App 3, Eitem 8 PDF 285 KB
- Work Programme Report - App 4, Eitem 8 PDF 172 KB
- Webcast for Rhaglen Waith Archwilio
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu adroddiad ac atodiadau
(eisoes wedi’u dosbarthu) yn gofyn i’r aelodau adolygu rhaglen waith y Pwyllgor
yn barod ar gyfer ei throsglwyddo i’w olynydd-Bwyllgor ar ôl etholiadau’r awdurdod lleol ym mis Mai
2022. Penderfyniad y pwyllgor newydd
wedyn fyddai symud ymlaen â’r eitemau a restrwyd yn barod neu beidio.
Dywedwyd wrth yr aelodau bod yr adroddiad ar Gam-drin
Cŵn a oedd yn wreiddiol i fod i’w roi gerbron y cyfarfod hwn heddiw,
wedi’i aildrefnu ar gyfer hydref 2022 oherwydd bod Staff Diogelu’r Cyhoedd yn
dal yn ymgymryd â dyletswyddau Profi, Olrhain a Diogelu. Serch hynny, er mwyn rhoi tawelwch meddwl
i’r aelodau ar y mater hwn paratowyd a dosbarthwyd adroddiad er gwybodaeth fel
rhan o’r ddogfen friffio cyn y cyfarfod presennol.
Fel rhan o’i adolygiad rheolaidd o raglenni gwaith i’r
dyfodol y pwyllgorau craffu, roedd y
Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu wedi aildrefnu rhai eitemau ar
bob un o raglenni gwaith i’r dyfodol y Pwyllgorau Craffu er mwyn osgoi trafod
eitemau dadleuol yn y cyfnod yn arwain at y cyfnod cyn-etholiad. Roedd y rhain i’w gweld yn Atodiad 1.
Bydd yr adroddiad dilynol y gofynnwyd amdano yn ystod y
drafodaeth ar eitem y Grwp Tasg a Gorffen Rheoli Perygl Llifogydd a Pherchnogaeth
Glannau Afonydd yn cael ei gynnwys yn rhaglen waith y pwyllgor ar gyfer gwanwyn
2023.
Dywedwyd wrth yr aelodau y gallant barhau i gyflwyno
pynciau i’w hystyried gan Craffu ar y ffurflen yn Atodiad 2. Oni bai bod y pynciau o natur frys, byddai’r
GCIGC yn ystyried y cais ar ôl etholiadau’r awdurdod lleol.
Roedd rhaglen gwaith i’r dyfodol y Cabinet (Atodiad 3) a
thabl yn dangos cynnydd hyd yma gyda’r argymhellion a wnaeth y Pwyllgor yn ei
gyfarfod diwethaf (Atodiad 4) wedi’u cynnwys er gwybodaeth.
Mae gwaith yn awr ar y gweill i baratoi ar gyfer cynhyrchu adroddiad er
gwybodaeth ar Asesiad o Effaith Cymunedol ar gymunedau’r Rhewl a Llanynys ar ôl
cau’r ysgol leol. Dylai’r adroddiadau
fod ar gael yn ystod yr haf.
Penderfynodd y Pwyllgor: yn amodol
ar gynnwys yr eitem y cytunwyd arni yn ystod y cyfarfod, gadarnhau rhaglen
gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor i’w gyflwyno i’r Pwyllgor newydd ar ôl
etholiadau’r awdurdod lleol ym mis Mai 2022